Y Gyfraith gyda’r Gymraeg LLB (Anrhydedd)

Cod UCASM1Q5
CymhwysterLLB (Anrhydedd)
Hyd3 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser
Cynnig nodweddiadol120 pwyntiau Tariff UCAS

Rhagarweiniad i’r Cwrs

Mae’r gyfraith yn effeithio ar ein bywydau ni gyd, ac mae gwybodaeth i’r gyfraith yn gwella ein dealltwriaeth o’r gymdeithas a’r byd o’n cwmpas. Mae’r cwrs yn cynnig addysg eang yn y gyfraith, yn datblygu dealltwriaeth ac yn gallugoi graddedidgion i ddilyn gyrfaeodd yn y maes cyfreithiol.

Mae’r Gyfraith gyda’r Gymraeg yn radd gymwysedig yn y gyfraith i fyfyrwyr sy’n bwriadu dilyn gyrfa yng Nghymru ac sy’n dymuno sicrhau y byddant yn gallu defnyddio’u sgiliau cyfreithiol ar ôl graddio gyda’r un gallu a’r hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn cyflawni anghenion cymdeithas ddwyieithog y Gymru fodern.

Gyda dyfodiad Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel corff deddfwriaethol yng Nghaerdydd. Yn unol â’r Deddfau, mae’n rhaid i bob darn o ddeddfwriaeth a gynhyrchir gan y Cynulliad gael ei gyhoeddi’n ddwyieithog. Felly mae galw mawr yng Nghymru, nid yn unig am gyfreithwyr sy’n gallu darllen a deall dwy fersiwn y testun, ond sydd hefyd yn gallu cyfrannu at ddrafftio’r papurau’n ddwyieithog. Bydd y galw yma’n sicr o gynyddu wrth i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad ddatblygu gydag amser.

Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?

  • Wedi’i sefydlu yn 2004, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yw ysgol cyfraith fwyaf newydd Cymru gyda staff ifanc, brwdfrydig ac amlieithog.
  • Mae gan Ysgol y Gyfraith bolisi dwyieithog cryf ac mae’r holl diwtorialau yn y pynciau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer gradd gymwysedig yn y Gyfraith ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Mae gennym ymrwymiad Ewropeaidd a Rhyngwladol cryf – bydd pob myfyriwr yn yr ail flwyddyn yn astudio Cyfraith Eiddo mewn cyd-destun Ewropeaidd ynghyd â Chyfraith Ewrop; a bydd myfyrwyr y drydedd flwyddyn yn astudio Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus a Chyfraith Fasnachol mewn cyd-destun rhyngwladol.
  • Er ein bod wedi ein lleoli rhwng mynyddoedd Eryri a’r Fenai, mae gennym gysylltiadau da gyda’r canolfannau mwyaf, e.e. Manceinion, Lerpwl, Caerdydd a Llundain.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats

Cynnwys y Cwrs

Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalen ar fframwaith y cwrs.

Mewn modiwlau gorfodol, byddwch yn cael 2 awr o ddarlithoedd bob wythnos fel rheol a thiwtorial am awr bob pythefnos, tra mewn cyrsiau dewisol ceir seminarau wythnosol a fydd yn para am ddwy awr. Cyn tiwtorialau a seminarau bydd angen darllen ac ymchwilio yn y llyfrgell. Rhoddir traethodau ac/neu brofion dosbarth ym mhob cwrs yn ystod y flwyddyn. Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail asesir trwy arholiadau, ond mae traethodau yr ymchwiliwyd yn annibynnol ar eu cyfer, a’r Traethawd Hir ar bwnc cyfreithiol o’ch dewis, yn cyfrannu at asesiadau yn y flwyddyn olaf. 

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

Mae pob un o’r graddau LLB yn cynnwys astudiaeth o’r saith pwnc Sylfaen i wybodaeth Gyfreithiol sy’n sicrhau eu statws fel graddau cymwysedig yn y Gyfraith (QLD).

Y saith pwnc Sylfaen i Wybodaeth Gyfreithiol:

  • Cyfraith Gyhoeddus
  • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  • Cyfraith Trosedd
  • Ymrwymiadau (yn cynnwys Contract ag Adferiad a Chamwedd)
  • Cyfraith Eiddo
  • Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
  • Ymchwil Gyfreithiol

Blwyddyn 1

Modiwlau gorfodol:

  • Yr Iaith ar Waith
  • Llenyddiaeth Gyfoes
  • Public Law
  • Contract Law
  • Introduction to Law
  • Legal Skills

Blwyddyn 2

Modiwlau gorfodol:

  • European Union Law
  • Criminal Law
  • Tort
  • Equity and Trusts
  • Modiwlau dewisol o Ysgol y Gymraeg

Blwyddyn 3

Modiwlau gorfodol:

  • Medrau Cyfieithu
  • Land Law
  • Cyfraith Datganoli
  • Land Law
  • Cyfraith Datganoli

20 credyd o:

  • Commercial Law
  • Company Law

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Y Gyfraith gyda’r Gymraeg.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio

Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.

    Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
  • Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
  • Profiad gwaith ac interniaethau
  • Cyfleon Gwirfoddol

Gofynion Mynediad

Mynediad yn 2020:

Rhaglen 3 blynedd: Cynnig nodweddiad pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* e.e.:

  • Lefel A
  • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio
  • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, City & Guilds, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.

Rhaglen 2 flynedd:

  • Gradd gyntaf (2.ii neu uwch) mewn pwnc arall o Brifysgol Bangor neu sefydliad achrededig arall.
  • Ystyrir myfyrwyr hyn gyda phrofiad perthnasol.

Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysy r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.

Mynediad yn 2019:

  • 128-120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* (heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol fel rheol) yn cynnwys Lefel A Cymraeg (Iaith Gyntaf). *Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
  • Rydym yn derbyn cymwysterau Cyfreithiol eraill.

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717 

Costau’r Cwrs

Cymraeg:

Costau dewisol:

Gall myfyrwyr ddewis prynu llyfrau os ydynt am gael eu copïau eu hunain, ond nid yw hyn yn orfodol (bydd yr holl lyfrau ar gael yn y llyfrgell). Bydd union faint y gost hon yn dibynnu’n llwyr ar y myfyriwr unigol, ond gellid amcangyfrif y bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis gwario rhyw £20 y modiwl.

Os bydd myfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio, telir c.£12 am docyn i’r myfyriwr a dau westai, a rhyw c.£40 i logi gŵn (gall y prisiau hyn newid).

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau

Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.

Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.

Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni

Y Gyfraith 
Ffôn: +44 (0) 1248 382085
E-bost: law@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/law/

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ymysg yr 10 uchaf

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019!

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’.

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety newydd i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Camau Nesaf