Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Bancio a Sbaeneg BA (Cydanrhydedd)

Cod UCASNR34
CymhwysterBA (Cydanrhydedd)
Hyd4 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser gyda blwyddyn tramor
Cynnig nodweddiadol104 pwyntiau Tariff UCAS

Rhagarweiniad i’r Cwrs

This course provides a fantastic opportunity to combine Banking with the in-depth study of a language. You will acquire a solid grounding in in the principles of banking and finance and gain advanced skills in Spanish.

You will benefit from excellent teaching and student support whilst developing key skills and knowledge that you will need for your year abroad, and later on, for the world of work.  

Banking offers you the opportunity to study the theory and practice of financial services and financial markets, and to analyse the broader role of the financial sector in the national and global economies. Banking and financial services is a highly competitive and rapidly changing sector in every modern economy. In recent years, forces such as globalisation, technological change, deregulation and international integration have transformed the banking and financial services sector.

Spanish will give you advanced skills in the Spanish language, and a broad range of specialised and detailed insights into the culture, society and history that go with it. You will take core modules developing the key oral, aural and written skills each year.

Cynnwys y Cwrs

You will have 3-4 hours of language classes each week plus classes in your other chosen modules. Language tuition is mainly in small groups and there are few formal lectures.

Assessment involves coursework and written and oral examinations. You will also complete a dissertation as part of your degree.

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

In each taught year of this course (Years 1, 2 and 4) you will take an equal number of Banking (50%) and Language (50%) modules. Your third year will be spent abroad.

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Bancio a Sbaeneg.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

This is a Joint Honours course, so please read the Employability information for Banking and Finance and Spanish

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Fel Ysgol amlddisgyblaethol sy'n cynnwys popeth o Gyfrifeg a Chyllid i Fusnes a Rheolaeth, mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig amrywiaeth o raglenni addas ar gyfer ystod eang o yrfaoedd.  Os nad ydych wedi penderfynu ar eich llwybr gyrfa, mae hyblygrwydd ein rhaglenni'n eich galluogi i roi cynnig ar fodiwlau a meysydd pwnc gwahanol er mwyn gweld beth sy'n apelio orau at eich chwaeth bersonol a'ch dyheadau.

Cysylltiadau helaeth â diwydiant

Mae gan ein staff gysylltiadau helaeth â diwydiant. Maent yn amlwg iawn fel ymchwilwyr yn eu meysydd, yn cyhoeddi llyfrau niferus ac erthyglau mewn cyfnodolion blaenllaw, a hyd yn oed yn gwneud gwaith ymgynghorol ar lefel uchel i sefydliadau amlwg, megis Banc y Byd a Thrysorlys y Deyrnas Unedig.  Lle bynnag y byddwch yn mynd iddo ar ôl graddio, byddwch yn gadael Bangor gyda gradd sy'n gyfoes, yn berthnasol ac yn cyd-fynd â'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiannau busnes ac ariannol.

Cyflogwyr

Dyma enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan rai o'n graddedigion diweddar: 

Israddedigion

Ôl-raddedigion

Cydlynydd Cefnogaeth Weithredol
The Co-Operative

Banciwr
Bank of Valletta (Malta)

Cyfrifydd dan hyfforddiant
Chantrey Vellacott

Ymgynghorydd Rheoli
EY (USA)

Cyfrifydd dan hyfforddiant
Hill & Roberts

Uwch Reolwr Marchnata
HSBC (Malta)

Archwilydd Cynorthwyol
PwC

Rheolwr Cangen 
Piraeus Bank Greece

Swyddog Marchnata
Celebrity Cruises

Is-lywydd 
Royal Bank of Scotland (Belgium)

Is Reolwr Cyfrifon
Level Marketing

Cynorthwywr Marchnata
Aqua Marketing

Cynorthwywr Gweinyddu AD
Gorsaf Bŵer Wylfa 

Rheolwr Project
Prifysgol Bangor

Paragynlluniwr dan Hyfforddiant
Heritage Financial Solutions

Cynghorwr Bancio Adwerthu Sector Fasnachol
HMRC

Swyddog Pryniant 
Cyngor Sir Ynys Môn

Uwch Reolwr (Rheoli Portffolio)
Lloyds Banking Group

Arolygydd Trethi EM
HMRC

Swyddog Cysylltiadau Alumni a Chodi Arian
Dar Al-Hekma University

Rheolwr Ariannol dan Hyfforddiant
Nottinghamshire County Council

Pennaeth Corfforaethau Byd-eang
Barclays (South Africa)

Cymdeithas Busnes Bangor

Gan weithio'n agos â staff academaidd, nod Cymdeithas Busnes Bangor yw hwyluso profiadau dysgu i fyfyrwyr o bob blwyddyn er mwyn adeiladu ar hyn a ddysgir yn y dosbarth a chryfhau eu CVs.  Mae hefyd yn trefnu ymweliadau â ffeiriau i raddedigion, sy'n gyfle hynod werthfawr i gyfarfod a chysylltu â darpar gyflogwyr.

Cewch fwy o wybodaeth am Gymdeithas Busnes Bangor yn y Ffair Serendipedd yn ystod yr Wythnos Groeso.

Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd

Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor yn darparu ystod eang o adnoddau i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau fel graddedigion.  Mae datblygu eich sgiliau personol a gwella eich siawns o gael swydd dda tra ydych yn y brifysgol yn dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw.

Ymysg y profiadau y mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn eu cynnig i roi hwb i'ch datblygiad personol ac i'ch gyrfa mae lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, gwaith rhan-amser a chyfleoedd i wirfoddoli a mentora.

Cynllun Interniaeth i Israddedigion

Mae'r cynllun interniaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig gael profiad gwaith cyflogedig ar lefel graddedigion yn ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y brifysgol.  Gall natur y swyddi amrywio o farchnata, cynllunio gwefan a phrojectau ennyn diddordeb myfyrwyr, i roi cefnogaeth gyda phrojectau ymchwil, gwaith maes neu reoli data.

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio

Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.

    Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
  • Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
  • Profiad gwaith ac interniaethau
  • Cyfleon Gwirfoddol

Gofynion Mynediad

This is a Joint Honours course, so please read the Entry Requirements for Banking and Finance and Spanish

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717 

Costau’r Cwrs

Ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr DU/UE (2019–20 a 2020–21)
  • Llawn amser: £9,000 y flwyddyn
  • Rhan amser: £750 wrth 10 credyd

Ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol

Necessarily Incurred Costs:

For each module, students may be required to purchase compulsory text(s), which typically will cost between £20-50.

Optional Costs:

Management: Planning and Control (ASB2414): There is an optional field-trip to Norwich City Football Club, with an estimated cost of £90 (for travel, food and accommodation).

Britain and the EU (ASB3500): There is the opportunity to participate on an optional field trip. Typical costs (subject to exchange rate fluctuations) vary between £450-550 which covers hotel accommodation; airport transfers; inter-country coach travel between Belgium, Luxembourg, and France; and return airfares to and from Europe, as well as UK airport transfers. Student cover their own meals.

Corporate Social Responsibility (ASB3509): There is an optional field-trip to Burnley Football Club, with an estimated cost of £60 (for travel, food and accommodation).

Please note: These costs are estimates based on the previous year’s figure and are subject to change.

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs. Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’.

Pryd i wneud cais?

Rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted ag y gellwch gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion yn syth. Dyddiad cau cychwynnol UCAS yw 15 Ionawr, ond rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 15 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon at brifysgolion gan UCAS i gael eu hystyried lle bod lleoedd dal ar gael.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Pam dewis astudio yn Ysgol Busnes Bangor?

  • Rydym yn cael ein enwi fel un o’r 50 gorau yn y byd 
    am ymchwil ym maes Bancio (RePEc, Medi 2019).
  • Rydym hefyd ymhlith y 25% uchaf o ysgolion busnes ym Mhrydain am arddwysedd ymchwil (REF 2014)
  • Mae ein hymchwilwyr pennaf yn dysgu ar raglenni isradd ac ôl-radd. Felly, caiff myfyrwyr eu dysgu gan staff academaidd sydd yn ymgymryd ag ymchwil arloesol y bydd yn cael ei rhannu mewn darlithoedd.
  • Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil mewn Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Economeg Gyllidol ac Econometreg.
  • Mae staff academaidd wedi ysgrifennu prif werslyfrau ac erthyglau sydd wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd o’r radd flaenaf. Ceir mwy o fanylion am y rhain ar y tudalennau staff.
  • Cynhelir gwaith project ac ymgynghori o lefel uchel gan ein staff ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau, megis y World Bank, Y Comisiwn Ewropeaidd, a Thrysorlys y DU.
  • Gyda chymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi sefydlu Canolfan Rheolaeth o safon fyd-eang sydd werth £14 miliwn. Mae’r Ganolfan, gyda’i chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnal hyfforddiant rheoli a phroffesiynol o safon uchel i Ogledd Cymru a thu hwnt.
  • Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dal swyddi uchel mewn sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn fyd-eang, megis Deutsche Bank a Rhif 10 Stryd Downing.
  • Ni oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig MBA mewn Bancio a Chyllid.

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu ac yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau.

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi derbyn gwobr Arian yng ngwobrau WhatUni 2020 sy'n ein gosod yn ail orau yn y DU.

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019).

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Camau Nesaf