Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau BA (Anrhydedd)

Cod UCASQWM5
CymhwysterBA (Anrhydedd)
Hyd3 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser
Cynnig nodweddiadol112 pwyntiau Tariff UCAS

Rhagarweiniad i’r Cwrs

Dyma gwrs sy’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg ac at hynny’n cynnig cyfle i astudio ym maes y theatr a’r cyfryngau. Mae’n cynnig profiadau cyffrous i’r sawl sydd am ddilyn gyrfa nid yn unig ym myd y theatr a’r cyfryngau ond hefyd ym myd addysg. Cewch gyfle i astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal â drama, theatr, teledu, radio a ffilm. Ceir hefyd gyfle i feithrin dawn greadigol a thalent yn y modiwlau ymarferol.

Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?

  • Mae gan Ysgol y Gymraeg, Bangor enw da o safbwynt safon ei haddysgu a’i gofal am ei myfyrwyr.
  • Mae gan y rhai sy’n dysgu’r cyrsiau ar y Theatr a’r Cyfryngau brofiad helaeth o weithio yn y meysydd hyn ar lefel broffesiynol. Cynigir rhai o’r modiwlau gan yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
  • Mae proffil uchel Ysgol y Gymraeg a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod galw mawr am ein myfyrwyr ni.
  • Cewch yn y cwrs hwn wybodaeth ddofn am iaith a diwylliant Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am y cyfryngau. Bydd hyn yn eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr.
  • Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats

Cynnwys y Cwrs

Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o dddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau a gweithdai. Ar ben hynny, byddwch yn gweithio ar draethodau, sgriptiau a chynyrchiadau. Fel rhan o’ch cwrs, disgwylir i chi fynychu cynyrchiadau theatrig yn rheolaidd. Gwahoddir cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd teledu, ffilm a'r theatr i drafod eu gwaith gyda'r myfyrwyr.

Mae rhai modiwlau’n cael eu hasesu trwy gyfrwng arholiadau a thraethodau ac eraill ar sail gwaith cwrs yn unig.

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

Blwyddyn 1

Cymraeg

Modiwlau gorfodol:

  • Yr Iaith ar Waith
  • Llên Gyfoes
  • Llên y Cyfnod Modern Cynnar

Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau

Modiwl Gorfodol:

  • Theatr Fodern Ewrop
  • Sgriptio Teledu
  • Y Ddelwedd Symudol
  • Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau

Blwyddyn 2 a 3

Cymraeg

Modiwlau gorfodol:

  • Ymarfer Ysgrifennu
  • Traethawd Estynedig

Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau

Modiwlau Gorfodol:

  • Sgriptio
  • Y Sgrin Fach Gymraeg
  • O’r Llyfr i’r Llwyfan
  • Y Theatr Gymraeg Fodern

Byddwch hefyd yn medru dewis o blith modiwlau eraill Ysgol y Gymraeg.

Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau

Modiwlau dewisol:

  • Llwyfannu Theatr
  • Rhaglenni Dogfen a Drama
  • Theatr yn y Gymdeithas
  • Celfyddyd Perfformio
  • Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol

Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen.

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio

Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.

    Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
  • Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
  • Profiad gwaith ac interniaethau
  • Cyfleon Gwirfoddol

Gofynion Mynediad

Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad.

Mynediad yn 2020:

Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall.

Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.:

  • Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg)
  • BTEC Cenedlaethol/ Diploma Estynedig: DMM**
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio
  • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.

*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com.

**Gall gael ei ystyried gyda chymhwyst Cymraeg e.g. Lefel A

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717 

Costau’r Cwrs

Ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr DU/UE (2019–20 a 2020–21)
  • Llawn amser: £9,000 y flwyddyn
  • Rhan amser: £750 wrth 10 credyd

Ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol

Costau dewisol:

Gall myfyrwyr ddewis prynu llyfrau os ydynt am gael eu copïau eu hunain, ond nid yw hyn yn orfodol (bydd yr holl lyfrau ar gael yn y llyfrgell). Bydd union faint y gost hon yn dibynnu’n llwyr ar y myfyriwr unigol, ond gellid amcangyfrif y bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis gwario rhyw £20 y modiwl.

Os bydd myfyrwyr yn mynychu’r seremoni raddio, telir c.£12 am docyn i’r myfyriwr a dau westai, a rhyw c.£40 i logi gŵn (gall y prisiau hyn newid).

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau

Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.

Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.

Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni

Tîm Derbyniadau
Ffôn: 01248 382085
e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk

www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ymysg yr 10 uchaf

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019!

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’.

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Camau Nesaf