Addysg Gynradd (3-11) [Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan] BA (Anrhydedd) gyda SAC

Cod UCASX130
CymhwysterBA (Anrhydedd) gyda SAC
Hyd3 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser gyda blwyddyn ar leoliad
Cynnig nodweddiadol120 pwyntiau Tariff UCAS

Rhagarweiniad i’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael trwy gyfrwng y Saesneg / This course is also available through the medium of English.

caban

Mae'r radd gyffrous hon gyda SAC yn eich cymhwyso i weithredu fel athro cynradd/athrawes gynradd, gyda sgiliau arbennig i ddysgu yng Nghymru. Fodd bynnag, gellir ei defnyddio hefyd i ddysgu mewn gwledydd eraill, yn cynnwys Lloegr. Ysgrifennwyd y cwrs mewn cydweithrediad ag athrawon mewn Ysgolion Arweiniol yng Ngogledd Cymru a'n partneriaid ym Mhrifysgol Caer.  Ein henw yw Partneriaeth CaBan (Caer a Bangor).

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi'u hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi.

Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?

  • Byddwch wedi eich lleoli ar Safle’r Normal sydd â’i lyfrgell a’i ganolfan adnoddau ei hun lle mae dewis eang o adnoddau dysgu dwyieithog cynradd ac adnoddau blynyddoedd cynnar.
  • Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyffrous a byddwch yn cyfarfod staff a hyfforddeion sy’n gweithio ar amrywiaeth o brojectau datblygu cwricwlwm ac ymchwil.
  • Mae ysgolion partneriaeth y Brifysgol yn cynnig amgylchedd hyfforddi llawn amrywiaeth sydd, yr un pryd, yn gefnogol.

Cynnwys y Cwrs

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

Blwyddyn 1

  • Astudiaethau Proffesiynol a Phedagogaidd 1
  • Astudiaethau Craidd 1
  • Profiad Ysgol 1: Hanfodion Dysgu, Addysgu ac Asesu
  • Hanfodion datblygiad iaith a mathemateg
  • Datblygu Iechyd a Lles
  • Archwilio'r Byd

Blwyddyn 2

  • Astudiaethau Proffesiynol a Phedagogaidd 2
  • Astudiaethau Craidd 2
  • Profiad Ysgol 2: Cynnydd mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu
  • Creadigrwydd a mynegiant trwy iaith a'r celfyddydau
  • Cynnydd mewn datblygiad mathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg
  • Hunaniaeth a Dinasyddiaeth 

Blwyddyn 3

  • Astudiaethau Proffesiynol, Pedagogaidd a Chraidd 3
  • Ymchwil Agos at Ymarfer: (Traethawd Hir)
  • Profiad Ysgol 3: Arloesi ac Arweinyddiaeth mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu
  • Astudiaethau pwnc: Arloesi mewn Cynllunio a Chyflwyno Cwricwlwm

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.  Mae'n eich paratoi'n llawn i weithredu fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddogaethau o fewn addysg a datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.  O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil ddiweddaraf ym maes arweinyddiaeth.  Mae'r arbenigedd hon yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig, Canolfannau Awyr Agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n benodol i'ch diddordebau.

Cysylltiadau â diwydiant:

Mae'r rhaglen wedi'i llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.

Cyflogadwyedd a’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Mae cyrsiau a gynigir gan yr Ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i rai sydd â diddordeb mewn addysgu, dylunio cynnyrch a gweithio gyda phlant.

Gall graddedigion hefyd edrych ymlaen at gyfleoedd mewn amrywiaeth o lwybrau gyrfa eraill. Gallai'r cyfleoedd gyrfa diddorol hyn gynnwys:

  • gwaith cymdeithasol
  • gofal plant
  • gwaith ieuenctid a chymunedol
  • cyhoeddi, newyddiaduraeth a'r cyfryngau
  • addysg amgueddfeydd ac orielau
  • llyfrgelloedd
  • gwasanaethau cyhoeddus
  • adnoddau Dynol
  • diwydiant

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio

Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.

    Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
  • Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
  • Profiad gwaith ac interniaethau
  • Cyfleon Gwirfoddol

Gofynion Mynediad

  • Fel rheol, 120 o bwyntiau UCAS o TGAU Lefel A neu gyfwerth
  • (Derbynnir pwyntiau tariff AS, cymwysterau ychwanegol sydd â phwyntiau tariff UCAS a'r Fagloriaeth Gymreig)
  • Diploma Cenedlaethol Estynedig OCR:  Rhagoriaeth a Theilyngdod
  • Llwyddo mewn o leiaf 4 pwnc Irish Leavers Cert (H1-H6)
  • Llwyddo mewn o leiaf 5 pwnc Scottish Highers (mae gan Adv Highers bwysoliad 1.5)
  • Y Fagloriaeth Ryngwladol: 28 pwynt
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch, Unedau Coleg Agored neu Gredydau Prifysgol Agored a gydnabyddir gan y QAA
  • Y Diploma Uwch: derbyniol ar ei ben ei hun
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg (Iaith gyntaf), Llenyddiaeth Gymraeg. Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B/radd 5 mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd.
  • TGAU Gradd C /Gradd 4 mewn Cymraeg Iaith a Gwyddoniaeth.
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.   
  • IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717 

Costau’r Cwrs

Ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr DU/UE (2019–20 a 2020–21)
  • Llawn amser: £9,000 y flwyddyn
  • Rhan amser: £750 wrth 10 credyd

Ffioedd dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau

Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.

Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.

Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni

Ffôn: 01248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk

Pam dewis astudio yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

  • 1af yn y DU gyda 100% am foddhad myfyrwyr am Ddylunio Cynnyrch - NSS 2019
  • 20 uchaf am Ragolygon Graddedigion - Guardian Good University Guide 2019
  • 9fed am Ansawdd Ymchwil - Complete University Guide 2020
  • Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019)
  • Mae gan yr ysgol bartneriaethau cadarn gydag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddarparu amgylcheddau hyfforddi amrywiol a chefnogol.
  • Mae gennym Ganolfan Ddylunio bwrpasol i ddysgu myfyrwyr gradd Cynllunio Cynnyrch. Mae'r ganolfan yn cynnwys ystafell TG/ystafell ddarlithio gyda chyfarpar da, gweithdy gydag amrywiaeth gynhwysfawr o beiriannau a chyfarpar CNC, storfeydd a swyddfeydd.

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ymysg yr 10 uchaf

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019!

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019).

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Camau Nesaf