Modiwl CXC-2033:
Datblygiad yr Iaith
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Peredur Lynch
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil diweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a'i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig o’r 16g hyd at y presennol.
Cynnwys cwrs
Bydd tair rhan i'r cwrs:
Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith.
Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern.
Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dangos cynefindra â rhai o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i'r maes. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill.
da
B- i B+
Dangos cynefindra â nifer dda o'r o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i'r maes yn ddeallus ac yn gytbwys a'u defnyddio'n bwrpasol. Dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol. Dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys.
ardderchog
A- i A*
Dangos meistrolaeth ar rychwant eang o'r prif agweddau ar hanes y Gymraeg a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dangos gallu datblygedig i gloriannu ffynonellau cynradd ac eilaidd perthnasol i'r maes yn dreiddgar ac yn gytbwys a'u defnyddio'n bwrpasol. Dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus. Dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys.
Canlyniad dysgu
-
Arddangos gwybodaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar y Gymraeg heddiw.
-
Dadansoddi'n feirniadol gyd-destun cymdeithasol hanes y Gymraeg.
-
Dadansoddi'r berthynas rhwng y llafar a'r llenyddol yn hanes y Gymraeg.
-
Arddangos gwybodaeth am dafodieithoedd y Gymraeg.
-
Trafod rhai o'r prif gyfnewidiadau a barodd i'r Frythoneg esgor ar y Gymraeg.
-
Lleoli'r Gymraeg oddi mewn i'r teulu ieithyddol Celtaidd.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Mae'r deunyddiau hyn ar gael i fyfyrwyr yn llyfrgell Prifysgol Bangor.
Rhestr ddarllen
Llyfryddiaith Graidd
John Aitchison a Harold Carter, Spreading the Word: The Welsh Language 2001 (2004).
Martin J. Ball, The Use of Welsh (1988).
John Davies, et al. (goln.), Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008), 227–33, 829–30.
Hywel Teifi Edwards, Gŵyl Gwalia (1980).
Kenneth H. Jackson, Language and History in Early Britain (1953).
Kenneth H. Jackson, ‘The Dawn of the Welsh Language’, yn A. J. Roderick (gol.), Wales Through the Ages, volume I (1959), 34–41.
Geraint H. Jenkins (gol.), Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb: Yr Iaith Gymraeg cyn y Chwyldro Diwydiannol (1997).
Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1998).
Geraint H. Jenkins (gol.), *Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a’i Pheuoedd 1801–1911 (1999).
Geraint H. Jenkins a Mari A. Williams, ‘Eu Hiaith a Gadwant?’: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif* (2000).
Robert Owen Jones, Hir Oes i’r Iaith: Agweddau ar Hanes y Gymraeg a’r Gymdeithas (1996).
Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (1931; adargraffiad 1983).
Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (1996).
Beth Thomas a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg: Cyflwyno’r Tafodieithoedd (1989).
Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (1973).
D. A. Thorne, Cyflwniad i Astudio’r Iaith Gymraeg (1985).
T. Arwyn Watkins, Ieithyddiaeth (1961).