Modiwl CXC-3202:
Athroniaeth a Llenyddiaeth
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Bu athronwyr yn ymddiddori mewn llenyddiaeth ers y cyfnodau cynharaf, a buont hefyd yn milwro’n chwyrn yn ei herbyn. Gwelir yn aml, felly, baradocs diddorol. Ar yr un ochr dywed rhai mai celwydd yw pob llenyddiaeth, ond ym marn eraill, y mae gwirioneddau celfyddydol yn bwysicach na dim oll arall. Awgrymir yn aml fod gwaith nifer o’r athronwyr mawr yn ‘llenyddiaeth’ yn bennaf, a’r ‘athroniaeth’ ynddynt yn eilbeth.
Y mae nifer o lenorion mawr y traddodiad Cymraeg yn ymwneud yn echblyg â chwestiynau y gellir eu galw’n ‘athronyddol’ (boed yn foesol, yn ddirfodol neu’n esthetig), ac mae athronwyr pwysig Cymraeg megis Dewi Z. Philips a J.R. Jones yn rhoi sylw amlwg i iaith a llên.
Beth, felly, yw’r berthynas rhwng llenyddiaeth ac athroniaeth, ac ymhle y mae’r ffin rhyngddynt (os ffin o gwbl)? Beth sydd gan athroniaeth i’w ddweud wrthym am rym a hudoliaeth llên, ac a yw’n bosibl mai drwy lenyddiaeth y gellir orau archwilio rhai o brif broblemau athroniaeth? Ym mha ffordd y mae’r Mabinogi, neu waith Dafydd ap Gwilym, R.S. Thomas neu Islwyn Ffowc Elis, yn ‘athronyddol’?
Mae’r cwrs yn cyflwyno syniadau sy’n allweddol i athroniaeth llenyddiaeth, gan ofyn cwestiynau sylfaenol a chyffrous: Beth yw ysgrifennu? A yw ffuglen yn gallu bod yn wir? (A yw’n bosibl ‘dweud y gwir’ o gwbl?) A yw’r awdur – cystal â Duw – ‘wedi marw’? A yw cymeriadau mewn nofelau yn bodoli ‘go iawn’? Beth yw natur iaith lenyddol? Sut mae celfyddyd yn ‘creu byd’? A fedrir byw heb fyw ‘mewn stori’?
Yn y bôn, felly: beth yw llenyddiaeth?
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: D- i D+ Mae gwaith llafar ac ysgrifenedig yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o fedrusrwydd fel a ganlyn: - Cywir a rhugl ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor. - Gwneir haeriadau heb dystiolaeth ategol glir neu heb resymu; ffurfir cwestiynau wrth drafod yn aneglur neu gan ddangos diffyg ffocws. - Mae strwythur i’r gwaith ond mae’n ddiffygiol o ran eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd neu’r cyd-drafodwr i wneud cysylltiadau ac i ragdybio. - (Mewn gwaith ysgrifenedig ac mewn cyflwyniadau llafar hirach) Defnyddir ystod cymharol gul o ddeunyddiau.
da
Da C- i C+ Medrus drwyddi draw: o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Arddangosir nodweddion megis a ganlyn: - Fframwaith da a dadleuon wedi’u datblygu’n rhesymegol. - Bydd yn defnyddio (yn rhannol, o leiaf) ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu a ddefnyddir ac a gyflwynir mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. - Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. - Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol. - (Mewn gwaith ysgrifenedig ac mewn cyflwyniadau llafar hirach) Defnyddir ystod da o ddeunyddiau.
Da iawn B- i B+ Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus drwyddo draw a gwelir arddull a dull a dewis o ddeunyddiau cefnogol sy'n rhagori. Mae’n dangos: - Fframwaith da iawn a dadleuon sydd wedi eu datblygu’n rhesymegol. - Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol (yn enwedig mewn gwaith ysgrifenedig ond hefyd wrth gyflwyno a thrafod ar lafar), neu a ddefnyddir mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. - Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. - Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
ardderchog
Rhagorol A- i A* Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol; aiff y tu hwnt i’r nodweddion a restrir uchod ab ydd yn ac yn rhagori mewn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol: - Mae’n cyflwyno syniadau mewn ffordd wreiddiol, a safbwynt y myfyriwr/wraig ei hun yn gwbl amlwg. - Mae’n dangos tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol. - Cyflwynir dadleuon yn eglur, ar lafar neu mewn cyflwyniadau llafar estynedig, gan resymu fesul cam er mwyn dod i gasgliadau. - Bydd cyfathrebu ar lafar yn rhugl yn gyson, gan arddangos ffocws glir wrth ddatblygu syniadau ac egluro unrhyw ansicrwydd..
Canlyniad dysgu
-
Trafod ffyrdd y mae athroniaeth a llenyddiaeth yn aml yn ymwneud â’r un cysyniadau allweddol, gan esbonio sut y mynegir yr ystyriaethau hyn.
-
Deall a gwerthuso pwysigrwydd ystod o ddulliau o ymwneud â llenyddiaeth, fel y’u gwelir yng ngweithiau allweddol yn hanes athroniaeth, a medru cymhwyso’r dealltwriaeth i’w (g)waith academaidd ef/hi ei hun.
-
Medru cymhathu (1) methodoleg athronyddol allweddol a (2) ystod eang o gysyniadau athronyddol hanfodol i’r gwaith o astudio testunau llenyddol, ac esbonio sut y bydd y rhain yn aml yn cyfateb i fethodoleg a chysyniadau theori lenyddol.
-
Medru trafod y gwahaniaethau a’r gorgyffwrdd a geir rhwng yr hyn a elwir yn iaith ‘athronyddol’ ac iaith ‘lenyddol’, a medru adlewyrchu ar oblygiadau hyn i’w (g)waith academaidd ef/hi ei hun.
-
Cyflwyno barn aeddfed a datblygedig gan ddadlau’n rhesymegol , yn feirniadol ac yn gywir mewn traethawd.
-
Cyflwyno barn aeddfed a datblygedig gan ddadlau’n rhesymegol, yn feirniadol ac yn gywir ar lafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Darn ffurfiannol | 0 | ||
Traethawd 1 | 40 | ||
Traethawd 2 | 60 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Darlithoedd y modiwl, 9x2 awr. Mynychir darlithoedd gan bob myfyriwr sy’n dilyn y modiwl. |
18 |
Tutorial | Ymgynghori personol: o leiaf 4 awr y semester. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn mynychu oriau swyddfa neu yn trefnu cwrdd ar adegau eraill er mwyn cael trafodaethau unigol neu mewn grwpiau bychain. |
4 |
Seminar | Seminarau’r modiwl, 2 x 2 awr. Mynychir seminarau gan bob myfyriwr sy’n dilyn y modiwl. |
4 |
Private study | 174 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- QW5H: Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd year 3 (BA/CCYCB)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)