Modiwl CXC-4012:
Astudiaeth Unigol: 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
-
Datblygu medrau ymchwil
-
Datblygu pwerau beirniadol
-
Cymhwyso medrau ymchwil at faes llenyddol ac/neu ieithyddol penodol
-
Cynllunio, strwythuro, a chwblhau traethawd
Cynnwys cwrs
Mae 'Astudiaeth Unigol: 1' yn un o fodiwlau craidd MA: Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Bydd union gynnwys a chyfeiriad y modiwl yn dibynnu ar raglen unigol y myfyriwr. Bydd y tri modiwl `Astudiaeth Unigol' sy'n 40 credyd yr un yn ymffurfio rhyngddynt yn rhaglen gydlynus a chydgysylltiol a fydd yn paratoi'r myfyriwr ar gyfer y traethawd hir 60 credyd dilynol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres o seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy'n berthnasol i'r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy PCB, tynnir sylw at yr ystod o gronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a'u defnyddioldeb i'r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i'r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Ysgol y Gymraeg ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni myfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Meini Prawf
trothwy
C- i C+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Pasio
- dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
- dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill
- dangos gallu i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
da
B- i B+ - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Teilyngdod
- dangos gallu da i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol gytbwys, ac i gyflwyno a datblygu dadl, yn glir ac yn rhesymegol
- dangos gallu i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys
- dangos gallu da i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu da i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael dda ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
ardderchog
A- i A* - cyfetyb i ganlyniad terfynol: Rhagoriaeth
- dangos gallu datblygedig i ysgrifennu'n feirniadol
- dangos gallu datblygedig i ymateb i farn, i fynegi barn bersonol aeddfed ac annibynnol, ac i gyflwyno a datblygu dadl estynedig, yn glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus
- dangos gallu datblygedig i grynhoi syniadau a dadleuon pobl eraill yn deg ac yn gytbwys
- dangos gallu datblygedig i strwythuro trafodaeth a'i chynllunio'n rhesymegol
- dangos gallu datblygedig i drefnu data ar ffurf nodiadau a llyfryddiaeth
- dangos gafael sicr ar dermau technegol a geirfa'r ddisgyblaeth
- dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Gallu cywain deunyddiau perthnasol ar gyfer maes llenyddol neu/ac ieithyddol penodol
-
Gallu trin a thrafod deunyddiau perthnasol mewn modd academaidd priodol
-
Gallu cwblhau traethawd academaidd yn unol â'r confensiynau academaidd addas.
-
Gallu pwyso a mesur deunyddiau o wahanol ffynonellau'n feirniadol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Seminarau |
12 |
Tutorial | Tiwtorialau |
12 |
Private study | Astudio annibynnol |
376 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5AL: Diploma Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg year 1 (DIP/LLEN)
- Q5AM: MA Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg year 1 (MA/LLEN)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- V9AB: Diploma Medieval Studies year 1 (DIP/MS)
- Q5AQ: MA The Celts year 1 (MA/CEL)
- V9AC: MA Medieval Studies year 1 (MA/MS)