Modiwl VPC-3407:
Gwrth-Semitiaeth
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Gareth Evans Jones
Amcanion cyffredinol
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i agwedd negyddol sydd, yn anffodus, wedi bodoli ar hyd y canrifoedd ac sy’n bodoli hyd heddiw mewn amryw fannau, sef gwrth-Semitiaeth: atgasedd neu ddrwgdeimlad tuag at Iddewon. Gan ddechrau â thrafodaeth am y berthynas rhwng Cristnogaeth gynnar a Iddewiaeth, byddem wedyn yn adlewyrchu ar y modd y cawsai’r ddwy grefydd eu hystyried yn ddiwylliannol, cyfreithiol a gwleidyddol. Bydd y modiwl yna’n canolbwyntio ar y modd y datblygwyd ideoleg wrth-Iddewig ymysg Cristnogion, drwy gyfeirio at ddetholiad o ddigwyddiadau ac unigolion, gan gynnwys y Croesgadau, y babaeth yn yr Oesoedd Canol, Martin Luther, yr Holocost a gwrth-Semitiaeth Gristnogol fodern. Byddir hefyd yn ystyried gwrth-Semitiaeth ymysg crefyddwyr eraill gan gynnwys y Mwslemiaid. Yn hyn o beth, ystyrir y modd y darlunnir Iddewon mewn testunau Mwslemaidd, statws Iddewon dan ddylanwad Mwslemiaid, a’r berthynas ddiddorol a chyfnewidiol gyfoes. Ystyrir yn ogystal wrth-Semitiaeth fodern mewn cylchoedd cymdeithasol, gwleidyddol a chymdeithasol, gan gynnwys y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina, agwedd ‘wrth-Semitaidd’ plaid Lafur y Deyrnas Unedig, a bodolaeth Neo-Natsiaeth.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn archwilio amrywiaeth o feysydd megis: Perthynas y grefydd Gristnogol a’r Ymerodraeth Rufeinig, a’i dylanwad ar yr Iddewon yn y canrifoedd cynnar OC; Y Croesgadau a’u heffeithiau; Y Babaeth yn yr Oesoedd Canol; Sbaen yr Oesoedd Canol: Delweddau ac eiconograffeg wrth-Iddewig y Cristnogion a’r Mwslemiaid; Safbwynt paradocsaidd Martin Luther parthed yr Iddewon; Mudiad Seioniaeth a thwf gwrth-Semitiaeth; Yr Holocost a’r Shoah; Perthnasau cyfoes yr Iddewon a’r Cristnogion; Perthynas hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol Islam ac Iddewiaeth; Iddewon dan law Mwslemiaid; Y Gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina; Plaid Lafur Prydain a ‘Gwrth-Semitiaeth’; Neo-Natsiaeth a Gwrth-Semitiaeth; ac ymdrechion modern i wrthsefyll gwrth-Semitiaeth.
Meini Prawf
da
Very Good B- to B+
Submitted work is competent throughout and distinguished by superior style, approach and choice of supporting materials. It demonstrates: • Very good structure and logically developed arguments. • Draws on material that has been sourced and assessed as a result of independent study, or in a way unique to the student. • Assertions are backed by evidence and sound reasoning. • Accuracy and presentation in an appropriate academic style.
ardderchog
Excellent A- to A*
Submitted work is of an outstanding quality and excellent in one or more of the following ways: • Has originality of exposition with the student’s own thinking being readily apparent. • Provides clear evidence of extensive and relevant independent study. • Arguments are laid down with clarity and provide the reader with successive stages of consideration to reach conclusions.
trothwy
Threshold D- to D+
Submitted work is adequate and shows an acceptable level of competence as follows: • Generally accurate but with omissions and errors. • Assertions are made without clear supporting evidence or reasoning. • Has structure but is lacking in clarity and therefore relies on the reader to make links and assumptions. • Draws on a relatively narrow range of material.
C- i C+
Good C- to C +
Submitted work is competent throughout and occasionally distinguished by superior style, approach and choice of supporting materials. It demonstrates: • Good structure and logically developed arguments. • At least in parts draws on material that has been sourced and assessed as a result of independent study, or in a way unique to the student. • Assertions are, in the main, backed by evidence and sound reasoning. • Accuracy and presentation in an appropriate academic style.
Canlyniad dysgu
-
• Archwilio’r modd y mae ffactorau diwinyddol a gwleidyddol wedi dylanwadu ar y modd y cedwid y crefyddau ac yn wir ar berthynas yr Iddewon a'r Cristnogion.
-
• Gwerthuso a dadansoddi’n feirniadol amrediad o ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau diwinyddol, datganiadau Eglwysig, ac ysgrifau cyfreithiol, gan ystyried yn benodol y modd y maent wedi dylanwadu ar berthynas yr Iddewon a’r Cristnogion.
-
• Archwilio rôl hunaniaeth/hunaniaethau personol, cenedlaethol, a rhyngwladol mewn perthynas â’r ddeialog ryng-grefyddol gyfoes rhwng Iddewon a Christnogion.
-
• Dangos dealltwriaeth o’r ffactorau hanesyddol a diwylliannol gwahanol sydd wedi peri newidiadau i berthnasau rhwng Iddewon a Christnogion.
-
• Dangos dealltwriaeth o’r ffactorau hanesyddol a diwylliannol sydd wedi arwain y ffordd ar gyfer newidiadau yn y berthynas rhwng Iddewon a Christnogion.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 50.00 | ||
Cyflwyniad Llafar | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Bydd 22 awr o ddarlithoedd yn cael eu cynnal i gyflwyno myfyrwyr i fater gwrth-Semitiaeth. |
22 |
Seminar | Cynhelir 11 awr o seminarau drwy gydol rhediad y modiwl er mwyn cael digon o drafodaeth ymysg y myfyrwyr a fydd yn ategu at y broses dysgu ac addysgu. Gofynnir i fyfyrwyr ddarllen rhai testunau a pharatoi atebion i gwestiynau a osodid bob wythnos drwy gydol rhediad y modiwl. |
11 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â 167 awr o astudiaeth annibynnol. Er mwyn eu gosod ar ben ffordd, darperir rhestr ddarllen ac awgrymir pa destunau y dylid eu trin a'u dadansoddi'n wythnosol. Bydd y gwaith darllen hwn yn cyfoethogi'r broses addysgiadol, yn ategu at y darlithoedd, ac yn cyfrannu'n effeithiol i'r seminarau a gynhelir. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Precision of thought and expression in the analysis and formulation of complex and controversial problems.
- Sensitivity in interpretation of religious and philosophical texts drawn from a variety of ages and/or traditions.
- Clarity and rigour in the critical assessment of arguments presented in such texts.
- The ability to use and criticise specialised religious and philosophical terminology.
- The ability to abstract and analyse arguments, and to identify flaws in them, such as false premises and invalid reasoning.
- The ability to construct rationally persuasive arguments for or against specific religious and philosophical claims.
- The ability to move between generalisation and appropriately detailed discussion, inventing or discovering examples to support or challenge a position, and distinguishing relevant and irrelevant considerations.
- The ability to consider unfamiliar ideas and ways of thinking, and to examine critically presuppositions and methods within the disciplines of philosophy and religion.
Adnoddau
Rhestr ddarllen
• Flannery, Edward H. 2004 (3rd ed.). The Anguish of the Jews. New York: Paulist Press.
• Hay, Malcolm. 1981. The Roots of Christian Anti-Semitism. New York: Freedom Library Press.
• Kessler, Edward. 2013. An Introduction to Jewish-Christian Relations. Cambridge: Cambridge University Press.
• Barrens, James M. 2015. In Our Time (Nostra Aetate): How Catholics and Jews Built a New Relationship. St Petersburg, FL: Mr Media Books.
• Rousmaniere, J. 1991. A Bridge to Dialogue: The Story of Jewish-Christian Relations. New York: Paulist Press.
• Nicholls, W. 1993. Christian Antisemitism: A History of Hate. Northvale, NJ & London: J. Aronson.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 3 (LLB/LPR)