Newyddion: Hydref 2010

Gwyddonydd o Fangor i helpu i warchod Bioamrywiaeth ym Môr y Caribî

Gan gydweithredu â Llywodraeth Ynysoedd y Cayman a’i phartner yn UDA, y Nature Conservancy, mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi lansio project gwerth £817,000 i warchod bioamrywiaeth môr Ynysoedd y Cayman, Tiriogaeth Dramor o eiddo’r DU yng nghanol y Caribî.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2010

Esgoblyfr Bangor ar y We: Cam Un wedi’i orffen

The Bangor Pontifical Project, launched exactly one year ago as a partnership between the University and the Cathedral to ensure the long-term preservation of Bangor’s most precious medieval manuscript, has just reached its first significant milestone. Completion of phase one, funded by a Welsh Assembly grant, has enabled conservation and rebinding of the Pontifical and digitization of its 340 pages. The manuscript was photographed by the cutting-edge Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM) last spring, and viewers may now zoom in on the excellent high-quality images via the open access Bangor Pontifical Project website.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2010

Dilyniannu DNA newydd yn datgelu cymunedau cuddiedig

Mae hanner bwced o dywod o draeth di-nod yn yr Alban wedi datgelu gwe o anifeiliaid meicrosgopic mwy cyfoethog a chymhleth yn byw o fewn yr "ecosystem" fechan, nag a dybiwyd erioed.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010

Grant Ewropeaidd sylweddol i Ysgol y Gyfraith

Mae'r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Ceri Evans newydd sicrhau grant ymchwil gwerth 4 miliwn ewro (project WIT) ar y cyd gydag Uned Caffael Strategol Prifysgol Dinas Dulyn. Sicrhawyd y grant yn wyneb cystadleuaeth lem ryngwladol. Ac fe gaiff ei ariannu tan ddiwedd 2013 gan raglen Arloesedd a Chystadlu INTERREG Iwerddon/Cymru yr Undeb Ewropeaidd. Ysgol y Gyfraith Bangor fydd yn arwain y bartneriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010