Newyddion: Rhagfyr 2012

Pennaeth Ysgol y Gyfraith yn arwain trafodaeth yng nghynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig ar wella caffael cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, Jane Hutt AC, Llywodraeth Cymru, Caerdydd, 5 Tachwedd 2012.

Trafododd yr Athro Cahill adroddiad John McClelland ar wneud y defnydd gorau posib o arian ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru yn y Sefydliad Materion Cymreig ar 5 Tachwedd 2012.  Prif gasgliadau adroddiad rhagorol John McClelland yw nad yw polisïau caffael Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn na'u gweithredu'n llawn gan nifer sylweddol o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisïau ardderchog ym maes caffael cyhoeddus.

 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012

Argymhellion newydd Sefydliad Iechyd y Byd: Gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd trwy ailddosbarthu tasgau

Bwriad argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch gwneud y defnydd gorau o weithwyr iechyd yw mynd i'r afael â phrinder dybryd yn y gweithlu iechyd sy'n ei rwystro rhag cyrraedd Nodau Datblygu’r Mileniwm ym maes iechyd. Byddai ailddosbarthu tasgau a chyfrifoldebau’n fwy synhwyrol ymysg carfanau gweithwyr iechyd yn sicrhau bod triniaethau ar gael yn llawer haws ac yn llawer mwy cost effeithiol  - gellid er enghraifft hyfforddi a galluogi gweithwyr iechyd 'lefel ganol' a 'lleyg' i gyflawni tasgau penodol sydd fel arall yn cael eu gwneud gan garfanau sydd wedi cael hyfforddiant hirach (ac weithiau hyfforddiant mwy arbenigol).

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2012

Rhaglen annibynnol o ymchwil i werthuso’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae tri darlithydd o'r Ysgol Addysg yn rhan o dîm sydd wedi ennill tendr o £275,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru i werthuso datblygiad cychwynnol Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a lansiwyd fis Ebrill 2010.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2012

Cyfansoddiad sy’n ymdrin â dyslecsia’n cael sylw ar Radio 4

Bydd gwaith cerdd a fideo newydd a ysgogwyd gan ddyslecsia, a'r wyddoniaeth y tu ôl i’r cyflwr yn derbyn sylw ar raglen ‘All in the Mind Radio 4, sy’n ymchwilio’r rhwystredigaethau a’r potensial o fewn ein hymennydd. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu nos Fawrth 18 Rhagfyr am 9.00 yn ac eto am 3.30 brynhawn Mercher 19 Rhagfyr. Bydd hefyd ar gael ar lein wedi’r darllediad gyntaf.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012

Prifysgol Bangor yn cynnal y symposiwm pegynol gyntaf

Mae Symposiwm Pegynol' yw'r cyntaf o'i fath i'w gynnal ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei chynnal y penwythnos hwn (Sadwrn 8 Rhagfyr).

Trefnwyd 'Symposiwm Pegynol Bangor’  a gynhelir yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ar y cyd gan Rwydwaith Pegynol y DU a Chymdeithas Endeavour, cymdeithas myfyrwyr y Brifysgol ar gyfer gwyddorau môr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012