Newyddion: Tachwedd 2014

Penodi Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn Gyfarwyddwr newydd Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR

Penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone, o Brifysgol Bangor yn gyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflawni Iechyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil i Iechyd.  Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) yw'r corff cyllido mwyaf ar gyfer ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro Rycroft Malone yn dilyn yr Athro Ray Fitzpatrick pan fydd yntau'n camu i lawr o'i swydd yn arwain y rhaglen HS&DR ddiwedd mis Hydref 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2014

Llwyfannau creigiog yn chwalu egni'r tonnau - dull newydd o amddiffyn arfordiroedd?

Mae cymunedau ar draws Cymru yn dod i delerau â'r peryg real iawn o lifogydd ar yr arfordiroedd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod cynifer â 48 o ardaloedd wedi eu nodi lle na fydd amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal a'u cadw yn y tymor hir.

Gan gadw'r ffaith galed honno mewn cof, mae gwyddonwyr yng Nghymru yn cyfrannu eu harbenigedd i gael darlun cliriach o'r tonnau a'r moroedd uchel sy'n taro ein harfordiroedd, fel y gallant ddeall yn well yr egni yn y tonnau a sut y gellir ysigo grym y tonnau.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014

Prifysgol Bangor a Waitrose yn ymestyn allan i becynnu gwyrdd

Roedd project cydweithredol a arweiniwyd gan y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth a Waitrose, yn cael ei arddangos yn Waitrose Porthaethwy yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014

Mae bywyd allan yna: Manteision gweithgareddau awyr agored

The most recent figures from the Welsh Government show that outdoor activity tourism in Wales is worth £481 million. Outdoor activity providers such as Surf-Lines need to continue to attract visitors and locals.

The number of people regularly involved in outdoor activities has grown in the last thirty years, and researchers have reported increases in self-esteem and other positive outcomes as benefits of taking part. In other words, taking part in outdoor activities provides significant psychological and long-lasting benefits. Surprisingly, researchers still do not understand why and how these benefits occur.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014

Modd i atal gordewdra plant

Mae canfod ffyrdd o atal gordewdra plant wedi dod yn brif flaenoriaeth i iechyd y cyhoedd. Ond ceir newyddion da hefyd; mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cynyddu’r swm o ffrwythau a llysiau a fwyteir gan blant fod yn gymorth i reoli’r cynnydd yn eu pwysau.

Mae Food Dudes Health, Menter Gymdeithasol sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, wedi datblygu Rhaglen Bwyta’n Iach Food Dudes, ymyriad newid ymddygiad yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n creu cynnydd mawr a pharhaol yn y swm o ffrwythau a llysiau a fwyteir gan blant. 

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2014