Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Mawrth 2015
Dathlu Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Astudiaethau Arthuraidd yn y Brifysgol drwy gynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin yn canolbwyntio ar y maes astudio hwn. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dathlu rhodd o gasgliad sylweddol o lyfrau Arthuraidd i Lyfrgell Prifysgol Bangor gan Gyngor Sir y Fflint.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015
Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau WhatUni Student Choice
Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 6 allan o 9 categori yng Ngwobrau WhatUni Student Choice gan gynnwys categori Prifysgol y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
Cash remains king in Chile but its days could be numbered
Dyma erthygl yn Saesneg gan Bernardo Batiz-Lazo o Ysgol Busnes y Brifysgol a Juan Felipe Espinosa , Pontificia Universidad Catolica de Valparaiso sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015
Dr. Thora Tenbrink wedi denu sylw ar Cambridge Extra gyda erthygl newydd yn Language and Cognition
Mae Dr. Thora Tenbrink wedi ysgrifennu erthygl newydd ar ddadansoddi disgwrs gwybyddol (Cogntive Discourse Analysis) ar Camridge Extra wythnos diwethaf. Am fwy o wybodaeth, gweler yma .
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015
'Cyflwr natur' yn bwysig wrth benderfynu effaith newid hinsawdd
Nid yw modelau presennol ar sut y bydd llystyfiant yn ymateb i newid hinsawdd yn ystyried cyflwr y llystyfiant - p'un a yw'n aeddfed a sefydlog, neu eisoes yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n tarfu arno. Heddiw, yn Nature Communications (24 Mawrth 2015), cyhoeddwyd ymchwil newydd o un o'r arbrofion hiraf yn y byd ym maes newid hinsawdd. Cyllidir y gwaith hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd ac fe'i harweinir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, ynghyd â phartneriaid Ewropeaidd, yn cynnwys Prifysgol Bangor. Yn achos Prysgdiroedd mae'r ymchwil yn awgrymu bod yr amser ers y tarfu diwethaf ar yr ecosystem yn effeithio ar eu hymateb i hinsoddau yn y dyfodol, ac y dylid ystyried hynny wrth ddarogan ymatebion ecosystem i newid hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015
Grŵp o Brifysgol Bangor i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia
Yr wythnos hon, bydd academyddion o Brifysgol Bangor yn arwain taith i Fynyddoedd yr Himalaia fel rhan o broject ymchwil fydd yn edrych ar salwch cysylltiedig â bod ar ben mynyddoedd uchel. Bydd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald, Gabriella Rossetti sy'n fyfyriwr PhD, a James Pollard sy'n fyfyriwr israddedig Gwyddorau Chwaraeon - i gyd o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor - yn rhan o dîm o 55 o bobl a fydd yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd. Bydd y tîm yn dechrau'r daith ar 20 Mawrth ac yn dychwelyd ar 25 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Astudiaeth i ddiogelu adnoddau genetig tilapia gwyllt ar gyfer dyfodol ffermio pysgod
Gyda stociau pysgod y byd yn prinhau, mae ffermio tilapia yn llwyddiant byd-eang, gyda chynhyrchu wedi treblu yn ystod y mileniwm hwn. Mae hwn yn awr yn ddiwydiant gwerth $7.6bn, gan gynhyrchu 4.5 miliwn tunnell o bysgod fforddiadwy o ansawdd uchel bob blwyddyn. Yn ogystal, mae'n gynaliadwy, oherwydd yn wahanol i'r eogiaid a'r draenogiaid y môr rydym yn eu magu yn Ewrop, nid oes angen bwydo tilapia gyda llawer o bysgod eraill wedi'u dal o'r cefnforoedd, ond maent at ei gilydd yn bwyta deunydd llysieuol a gwastraff o ffermydd. Er eu bod yn cael eu meithrin yn awr drwy'r byd, o Affrica y daw tilapia yn wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015
Dyfarnu Cyfrif Cynyddu Effaith - gwobr o fri a fydd yn arwain at fwy o gyfnewid ymchwil economaidd a chymdeithasol
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr o fri a fydd yn cynyddu gallu'r Brifysgol i rannu ymchwil ym meysydd gwyddorau economaidd a chymdeithasol â’r gymdeithas ehangach. Dyfarnwyd dros £670,000 i Brifysgol Bangor gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - un o brif gyrff dyfarnu arian ymchwil y DU. Mae'r Brifysgol ymhlith 24 o sefydliadau ymchwil o bwys i dderbyn Cyfrif Cynyddu Effaith (IAA) yr ESRC, a fydd yn rhedeg tan 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015
Cyfle am leoliadau PhD yn Nhwrci!
Mae’r Cyngor Prydeinig yn Nhwrci yn partneru gyda TUBITAK dan y Cyllid Newton-Kativ Çelebi er mwyn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr PhD o’r DU yn Nhwrci, fel rhan o raglen PhD TUBITAK.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015
Dr. Eirini Sanoudaki i roi darlith wadd ym Mhrifysgol Essex
Mae Dr. Eirini Sanoudaki, wedi cael gwahoddiad i roi darlith ym UCL, fel rhan o gyfres o seminarau ar wyddor datblygiadol ar 23 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015