Newyddion: Ebrill 2018

Mae riffiau sy'n profi tymheredd amrywiol yn aml iawn yn fwy tebygol o wrthsefyll gwynnu cwrel

Wrth i wyddonwyr a chadwraethwyr frysio i weithio allan y ffordd orau i warchod riffiau cwrel y byd, mae astudiaeth newydd yn datgelu pam y mae'n ymddangos bod rhai riffiau yn gallu gwrthsefyll gwynnu i'r cwrel yn well yn ystod achosion o gynhesu'r môr, ac maent yn galw am gael casglu data cydraniad uchel.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018

Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion

Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion.    Fe wnaeth addysgwyrseicolegwyrgwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018

Cadwraeth trwy grefydd? Gwyddonwyr yn cadarnhau bod gan safleoedd naturiol cysegredig fantais o ran bioamrywiaeth

Mae safleoedd naturiol cysegredig i'w canfod ym mhob cwr o'r byd. Credir eu bod yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth ond tan yn ddiweddar ychydig o ymchwil systematig a gafwyd i'r honiad hwn. Ond yn awr mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Biological Conservation gan dîm rhyngwladol ac amlddisgyblaeth dan arweiniad Prifysgol Ioannina, ac yn cynnwys Prifysgol Bangor, wedi dangos bod gan safleoedd naturiol cysegredig fudd cadwraethol nodedig. Dewisodd ymchwilwyr y project, a elwir yn THALIS-SAGE, gynnal yr astudiaeth yn rhanbarth Epirus yng ngogledd orllewin gwlad Groeg, sy'n gartref i nifer o lwyni cysegredig a ddiogelwyd am ganrifoedd gan grefydd. 

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Can a brain injury change who you are?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne Rowlands sydd yn fyfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Prif gadwyn coffi yn dangos diddordeb mewn caead cwpan wedi ei ailgylchu

Gyda 2.5 biliwn o gwpanau coffi ‘cymryd-allan’ yn cael eu defnyddio’n flynyddol ym Mhrydain, mae bron cynifer o gaeadau plastig yn cael eu taflu allan.

Mae gwyddonwyr yn gweithio gyda diwydiant i ddatblygu plastig newydd y bydd yn bosib ei gompostio, ac a fydd yn gwrthsefyll hylifau poeth ac y gellir ei fowldio i greu’r caeadau cwpanau coffi.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Gweithdy gyrfa cynnar ar moeseg mewn ymchwil cymdeithasol

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018

Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.

Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce, cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn.

Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018

Ysbrydolwyd gan 2001 - Cystadleuaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2018

Beth mae dinasyddiaeth yn ei olygu yn Ewrop?

Mewn cydweithrediad cyffrous rhwng Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac Ysgol Ewropeaidd y Gyfraith (ym Mhrifysgol Toulouse), cynhelir gweithdy PhD ar thema eang 'Dinasyddiaeth' ym Mangor ddydd Iau a dydd Gwener, 3 a 4 Mai 2018.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2018

Hen Blant Bach yn ennill Gwobr Arian mewn Gŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol

Mae rhaglen y bu cyfraniad y Brifysgol yn rhan annatod ohoni wedi derbyn clod rhyngwladol wrth ennill Gwobr Arian yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Enilllodd Hen Blant Bach, sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun, y Wobr Arian yng nghategori rhaglen ddogfen Portreadau Cymunedol. Roedd y gyfres yn fformat ffeithiol newydd gan S4C a oedd yn olrhain arbrawf cymdeithasol unigryw. Yn y rhaglen, ddaeth pobl mewn oed ynghyd â phlant meithrin i rannu eu gofal dydd, gan ddangos yr effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib o’u dod at ei gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018

New styles of strikes and protest are emerging in the UK

Dyma erthygl yn Saesneg gan Emma Sara Hughes myfyrwraig PhD yn Ysgol Busnes Bangor a'r Athro Tony Dundon o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018

New styles of strikes and protest are emerging in the UK

Dyma erthygl yn Saesneg gan Emma Sara Hughes myfyrwraig PhD yn Ysgol Busnes Bangor a'r Athro Tony Dundon o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018

AI like HAL 9000 can never exist because real emotions aren't programmable

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Sicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018

The English language is the world's Achilles heel

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaumne Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2018