Newyddion: Mehefin 2018

Why we explored an undisturbed rainforest hidden on top of an African mountain

Dyma erthygl yn Saesneg gan Simon Willcock, Darlithydd mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Phil Platts, o Brifysgol Efrog sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2018

Cyhoeddi’r gwerslyfr cyntaf ar Ynni Morol Adnewyddadwy

Mae ffynhonnell bosib o ynni yn ein hamgylchynu – y môr – sy’n adnodd naturiol enfawr sydd â’r potensial i ddiwallu angen y byd am drydan sawl gwaith drosodd.

Gyda buddsoddiadau diweddar mewn ymchwil a datblygu, ac ymchwil academaidd ym maes ynni morol adnewyddadwy, fe’i hystyriwyd yn amserol i gynhyrchu gwerslyfr ar sylfaeni astudiaeth o’r pwnc.

Gwerslyfr gan yr arbenigwr ar ynni morol ym Mhrifysgol Bangor, Dr Simon Neill, mewn cydweithrediad â Dr Reza Hashemi ym Mhrifysgol Rhode Island, yw’r cyntaf felly, i’w cyhoeddi yn y maes newydd hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2018

Athro Cymraeg yn ennill Gwobr Barn y Bobl

Mae cyfrol o farddoniaeth gan Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Barn y Bobl 2018 yn ystod seremoni fawreddog Gwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni.

Gosodwyd Caeth a Rhydd, sef cyfrol gyntaf yr Athro Lynch, ar y rhestr Fer ar gyfer Barddoniaeth.  Cwblhaodd y gyfrol yn ystod cyfnod sabothol yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard yn yr UDA.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2018

Gwelwyd bod rhwystrau sylweddol yn atal diagnosis prydlon o ddementia a mynediad at gefnogaeth ôl-ddiagnostig mewn pum gwlad yn Ewrop

Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd heddiw yn Senedd Ewrop mae rhwystrau arwyddocaol sy'n atal diagnosis prydlon o’r clefyd Alzheimer wedi'u gweld ledled Ewrop.

Cynhaliwyd yr astudiaeth, a ariennir gan Alzheimer Europe, mewn pum gwlad dan arweiniad yr Athro Bob Woods o Goleg Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Dyma oedd canfyddiadau'r astudiaeth:

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2018

We're working on a more accurate pollen forecasting system using plant DNA

Dyma erthygl yn Saesneg gan Athro Simon Creer a Georgina Brennan o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018

Gwyddonwyr o Fangor yn teithio i Periw i ymchwilio i fywyd yn yr awyr denau

Mae mynyddoedd yn mynd â'n hanadl i ffwrdd yn llythrennol, nid yn unig oherwydd y tirweddau dramatig a diwylliannau nodedig, ond oherwydd fod pob anadliad a gymerwn yn uchel i fyny yn cynnwys llai o ocsigen (a elwir yn hypocsia).  Mae hypocsia'n rhoi straen sylweddol ar yr ysgyfaint, y gwaed, y galon a'r pibelli gwaed wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i ddiwallu angen y corff am ocsigen.  Mae gan ymchwilwyr o'r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Grŵp Ymchwil Eithafion) ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb arbennig mewn deall sut mae pobl yn ymaddasu i fywyd mewn awyr denau.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018

Taith ymchwil ‘unwaith mewn bywyd’ i’r fforestydd glaw

Chwe diwrnod ar ôl iddo briodi, roedd y darlithydd Simon Willcock yn pacio’i fagiau ac yn gadael ei wraig am daith ‘unwaith mewn bywyd’ i ‘fyd coll’, sef fforest law ddiarffordd ar ben allfrigiad o 
greigiau folcanig ym Mozambique.

Ag yntau bellach yn ddarlithydd Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ers cyfnod ei Ddoethuriaeth mae Simon wedi gweithio gyda rhwydwaith o wyddonwyr blaenllaw sydd yn ymddiddori mewn, ymysg pethau eraill, fforestydd glaw pellennig di-ymyrryd

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018

Gŵyl R.S. Thomas, Aberdaron a Bangor

Mae gŵyl flynyddol sydd yn dathlu gwaith y bardd, R.S. Thomas a’i wraig, yr artist Mildred ‘Elsi’ Eldridge, i’w chynnal yn ei blwyf olaf, Aberdaron, ym mhen-draw penrhyn Llŷn, ar Fehefin 29 - 1 Gorffennaf.

Mae’r Athro Tony Brown, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas Prifysgol Bangor wedi bod yn ymwneud â’r ŵyl ers sawl blwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018

Therapïau canser dynol yn trin crwbanod môr llawn tiwmorau yn llwyddiannus

Mae astudiaeth newydd yn dangos y gellir defnyddio therapïau a ddefnyddir i drin canserau mewn pobl yn llwyddiannus hefyd i drin tiwmorau sy'n debyg o ran eu geneteg mewn crwbanod môr.  Mewn gwirionedd, gall crwbanod ddod dros eu tiwmorau eu hunain a helpu gwyddonwyr i ddeall canserau dynol yn well.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Ymateb i adroddiad Reid ar ymchwil ac arloesi

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Graeme Reid i’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Jo Rycroft-Malone: “Mae gan Gymru nifer o gryfderau ym meysydd ymchwil ac arloesi ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi meysydd o ragoriaeth, yn ogystal â datblygu meysydd newydd o arbenigedd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2018

Galwadau am reolaeth wrth i Lyffantod Asiaidd fynd ati i achosi llanast ym Madagascar

Er ein bod yn gwybod am y niwed a wnaeth y llyffant cansen an-frodorol i fywyd gwyllt brodorol Awstralia, mae'n ymddangos ein bod ni, fodau dynol, wedi llwyddo i wneud yr un camgymeriad eto.

Oni bai bod mesurau rheoli cyflym yn cael eu rhoi ar waith, mae llyffant an-frodorol yn mynd i achosi llanast ym Madagascar, sy'n gartref i lawer o rywogaethau unigryw nad ydynt i'w cael ond ar yr ynys.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2018