Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Mawrth 2019
New study models the proposed reintroduction of the Eurasian lynx to Scotland
Datganiad i'r wasg gan Brifysgol Stirling.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2019
Treial i ateb penbleth trin epilepsi plant
Mae un o'r treialon clinigol mwyaf erioed mewn plant ag epilepsi, sydd newydd gael ei lansio, yn ceisio darganfod pa driniaeth sy'n gweithio orau i blant a'u teuluoedd. Arweinir y treial CASTLE cenedlaethol gan yr Athro Deb Pal o King's College Llundain a'r Athro Paul Gringras o Ysbyty Plant Evelina Llundain, mewn cydweithrediad â'r Athro Dyfrig Hughes o Brifysgol Bangor. Dyma'r unig dreial i gymharu cyffuriau gwrth-epileptig gyda monitro gweithredol heb unrhyw feddyginiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019
New study calculates alcohol cancer risk in cigarette equivalents to help communicate risk
Mae’r Athro Mark Bellis o’r Coleg Gwyddorau Dynol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019
Mae cofrestru nawr ar agor ar gyfer y digwyddiadau hyfforddi WISERD canlynol fydd yn cael eu cynnal ym Mangor yn ystod mis Mai
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2019
Snake venom can vary in a single species — and it’s not just about adaptation to their prey
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Wolfgang Wüster o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Giulia Zancolli, bellach yn Université de Lausanne sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol . Mae fersiwn Cymraeg o#n datganiad i'r wasg ar gael yma: https://www.bangor.ac.uk/news/ymchwil/gwrthbrofi-r-cysylltiad-rhwng-gwenwyn-nadroedd-ac-ysglyfaeth-40110
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2019
Prifysgol Bangor yn sicrhau £9 miliwn o gyllid gan yr UE i ehangu cynllun ymchwil
Mae'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd prosiect ymchwil ac arloesi mawr sy'n dod â myfyrwyr ôl-raddedig a busnesau yng Nghymru at ei gilydd yn ehangu, ar ôl derbyn dros £9 miliwn o gyllid ychwanegol gan Ewrop. O dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae'r Cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS II) wedi bod yn gweithredu yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac mae'n cysylltu partneriaid busnes â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu ymchwil arloesol sydd â'r nod o ysgogi twf busnes.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2019
Prifysgol Bangor yn sicrhau £9 miliwn o gyllid gan yr UE i ehangu cynllun ymchwil
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2019
Effective communication and engagement with businesses critical to making Wales’ new tax system a success, suggests new report
Datganiad i’r wasg gan gorff allannol sydd ddim ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019
PGR Training skills sessions offered by CAHB
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019
Gwyliwch y bwlch: Gwahaniaethau mewn agweddau at iechyd a gwella iechyd ar draws y gymdeithas yng Nghymru
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn amlygu gwahaniaethau amlwg o ran barn sy'n ymwneud ag iechyd rhwng pobl yng Nghymru yn dibynnu ar eu hoedran a'u cyflogaeth, a sut y maent yn byw eu bywydau. Roedd pobl a ddywedodd eu bod yn teimlo'n iach yn fwy tebygol o gytuno (59 y cant) y dylai'r GIG wario llai ar drin salwch a mwy ar ei atal na'r rhai a ddywedodd eu bod yn teimlo'n llai iach (46 y cant) - a allai deimlo mwy o angen am driniaeth iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019
Gwrthbrofi’r cysylltiad rhwng gwenwyn nadroedd ac ysglyfaeth
Mae'r hyn oedd yn datblygu i fod yn rhagdybiaeth gyffredin ymhlith herpetolegwyr, sef bod cyfansoddiad gwenwyn nadroedd fel rheol yn adlewyrchu amrywiaeth eu hysglyfaeth, wedi cael ei wrthbrofi mewn un rhywogaeth gyffredin o nadroedd rhuglo Gogledd America. Roedd nifer o astudiaethau diweddar wedi nodi cysylltiadau rhwng y math o ysglyfaeth a'r math o wenwyn a oedd wedi esblygu mewn rhywogaethau o nadroedd gwenwynig ledled y byd. Credwyd bod hyn yn adlewyrchu dethol naturiol er mwyn cael y gwenwyn gorau i wahanol fathau o ysglyfaeth, ac weithiau'n 'ras-arfau' esblygiadol rhwng rhywogaethau o nadroedd ac ysglyfaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2019
Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn arwain y DU wrth sicrhau ynni glân
Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yw'r ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu ymchwil a pheirianneg niwclear yn y DU, yn ôl adroddiad Archwilio a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd heddiw. Dengys yr adroddiad nad oes gan unman arall yn Ewrop y fath arbenigedd niwclear, gyda mynediad heb ei ail i sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2019
Beth sydd yn y pridd o dan ein traed?
Mae myfyriwr o Ganada, sydd â gwreiddiau Cymreig, yn torri tir newydd yn ei ymchwil i asesu beth yn union sy'n byw yn y pridd Cymreig o dan ein traed. Mae Paul George, myfyriwr PhD sy'n astudio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), wedi cyhoeddi ei ymchwil heddiw (7 Mawrth 2019) yn Nature Communications .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019
Llygredd microblastig yn gyffredin mewn llynnoedd ac afonydd Prydain yn ôl astudiaeth newydd
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear wedi canfod llygredd microblastig mewn rhai o'r afonydd a'r llynnoedd mwyaf eiconig a phellennig ym Mhrydain. Credir mai'r astudiaeth hon yw'r cyntaf o'i math, ac edrychodd ar ddeg safle yn cynnwys llynnoedd yn Ardal y Llynnoedd, dyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Loch Lomond a Trossachs, gwlyptir a chronfa ddŵr yng Nghymru - a chanfuwyd microblastig ym mhob un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2019
Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig Bangor
Mae Athro o Brifysgol Bangor yn Lansio Arddangosfa, Map ac Ap am Hanes Iddewig Bangor . Caiff yr arddangosfa, map ac ap sy'n olrhain hanes Iddewig Bangor ei lansio y mis yma. Teitl yr arddangosfa a'r map yw Hanes Iddewig Bangor , ac mae'n dathlu hanes yr Iddewon ym Mangor o'r canoloesoedd hyd at yr Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2019
Diflaniad caeau reis yn bygwth rhagor o gynhesu byd-eang
Mae newid mawr wedi bod yn digwydd ar hyd a lled Tsieina, heb i ni sylwi. Mae caeau padi wedi bod yn cael eu troi'n byllau dyframaeth yn gyflym iawn, ac yn dal i gael eu troi, er mwyn cynhyrchu rhagor o brotein i boblogaethau'r byd sy'n tyfu. Mae'r perygl i'r newid hwn gael effaith annisgwyl ar gynhesu byd-eang. Mae ymchwilwyr rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor, wedi canfod bod troi caeau reis i ddyframaeth yn rhyddhau symiau anferthol o'r methan nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019
Prifysgol Bangor yn rhan o gynllun cydweithredol gwerth £200m i greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr Deallusrwydd Artiffisial
Mae Prifysgol Bangor i gymryd rhan mewn ymgyrch newydd gyffrous i greu mil o ymchwilwyr ac arweinwyr busnes newydd. Cynlluniwyd y project i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn arwain y chwyldro byd-eang mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA). Bydd cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr PhD yn defnyddio technoleg DA i wella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu cyfleoedd masnachol newydd, diolch i fuddsoddiad o £100m gan UK Research and Innovation a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019
Cennin Pedr i Ddydd Gŵyl Dewi
Mae blodyn cenedlaethol Cymru wedi cael swyddogaeth newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Gwener, 1 Mawrth), sef helpu gwyddonwyr i gael gwell dealltwriaeth o werth echdynion planhigion fel dewis arall i wrthfiotigau mewn bwyd anifeiliaid. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Rural College yn yr Alban (SRUC) wedi ymuno i ymchwilio i effeithiau echdynion cennin Pedr fel gwrthficrobaidd naturiol ar systemau treulio gwartheg a defaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019