Mwy o wybdoaeth
CaBan ym Bangor
Mae'n amser gwych i ddod i astudio i fod yn athro yng Nghymru. Mae Addysg yng Nghymru yn dechrau cyfnod newydd cyffrous, wrth ddatblygu cwricwlwm o'r radd flaenaf i ysgolion. Mae Prifysgol Bangor, gyda'i henw da hirsefydlog a rhagorol am hyfforddiant ac addysg athrawon, wedi creu partneriaeth gydag ysgolion o ansawdd uchel yng ngogledd Cymru a chyda GwE, y consortia rhanbarthol, i greu cyfres o raglenni addysg athrawon o ansawdd uchel trwy CaBan Bangor.
Mae'r rhaglenni hyn wedi cael eu hachredu gan y Cyngor Gweithlu Addysg ac yn eich galluogi i addysgu yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw le yn y byd.
Mae partneriaid 'CaBan' i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i addysgu athrawon hynod alluog, moesegol ac uchelgeisiol y dyfodol. Rydym am feithrin athrawon sydd yn broffesiynol, yn angerddol dros ddatblygiad plant ac sydd yn greadigol, arloesol, hyderus ac abl. Os mai eich gobaith ydy bod un o'r athrawon hynny, yna CaBan Bangor ydy'r lle i chi.
Bydd cyrsiau addysg athrawon CaBan Bangor yn darparu profiad o ansawdd uchel ar draws rhwydwaith o amgylcheddau dysgu gwahanol a heriol, gan gynnwys ysgolion trefol a gwledig, ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig a lleoliadau addysg awyr agored. Byddwch yn gallu cyflwyno'r Cwricwlwm Cymreig newydd yn hyderus. Mae hunaniaeth ddiwylliannol Cymru a chryfderau dwyieithrwydd yn agweddau allweddol ar bartneriaeth unigryw CaBan, ynghyd â Chymraeg, iaith fyw sy'n tyfu. Mae'r rhaglenni hyn yn eich paratoi i gychwyn ar eich taith yn y byd addysg os byddwch yn aros yng Nghymru neu yn dewis gweithio mewn rhan arall o'r byd. Gwefan CaBan