
Cyfres Darlithoedd dan Glo gyda Jude Pullen
Cyfres Darlithoedd Dan Glo gyda Jude Pullen yw ymateb y cwrs Dylunio Cynnyrch er mwyn sicrhau parhad profiadau dysgu a chyffredinol ein myfyrwyr.
Yn dilyn canslo ein Sioe Gradd Dylunio arferol a Chynhadledd Dylunio Bangor* rydym wedi llwyddo i addasu ac arloesi drwy ddull newydd i ddarparu'r profiadau hyn ar gyfer ein myfyrwyr.
Gofynnom i ni ein hunain; "Sut y gallem barhau i addysgu ein myfyrwyr o bell, a darparu profiad dysgu cydweithredol nad yw fel arfer yn cael ei ennill drwy ddarlith ar-lein ar ei ben ei hun?"
Ein hymateb yw'r gyfres hon o saith darlith a gynlluniwyd mewn cydweithrediad â ac a draddodwyd gan Jude Pullen.
Mae Jude Pullen yn arbenigwr technoleg a phrototeipio ac mae ganddo record ddiwydiannol brofedig trwy ei waith yn Dyson, Sugru a LEGO. Mae Jude hefyd yn adnabyddus am ei ymddangosiad ar Big Life Fix BBC 2 gyda Simon Reeve a Great British Inventions Channel 4 gyda Syr David Jason.
*Mae Cynhadledd Dylunio Bangor yn ddigwyddiad ar gyfer gweithwyr creadigol proffesiynol, gwneuthurwyr newid a darpar ddylunwyr, lle mae mynychwyr yn profi athroniaeth dylunio flaengar, wrth i'n cyfeillion a gweledyddion sy'n adnabyddus yn rhyngwladol rannu eu syniadau ar gyfer dylunio yn y dyfodol a sut i greu newid.
Amserlen ar gyfer y darlithoedd
Darlith |
Teitl |
---|---|
20/4/2020 |
|
22/4/2020 |
|
24/4/2020 |
|
4/5/2020 |
Y bobl sy’n newid y byd |
6/5/2020 |
Sut alli di newid y byd |
8/5/2020 |
Sgiliau i gael ardrawiad cadarnhaol |
11/5/2020 |
Darganfod dy bwrpas |
14/5/2020 | Sesiwn Holi ac Ateb (Zoom) |
Gweler yma linc i'r darlithoedd uchod.
Cysylltwch â ni...