Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Cyflogadwyedd a’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol
Mae cyrsiau a gynigir gan yr Ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i rai sydd â diddordeb mewn addysgu, dylunio cynnyrch a gweithio gyda phlant.
Gall graddedigion hefyd edrych ymlaen at gyfleoedd mewn amrywiaeth o lwybrau gyrfa eraill. Gallai'r cyfleoedd gyrfa diddorol hyn gynnwys:
- gwaith cymdeithasol
- gofal plant
- gwaith ieuenctid a chymunedol
- cyhoeddi, newyddiaduraeth a'r cyfryngau
- addysg amgueddfeydd ac orielau
- llyfrgelloedd
- gwasanaethau cyhoeddus
- adnoddau Dynol
- diwydiant
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.
Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.