Pam dewis astudio ym Mangor?
Pam dewis astudio yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol
- Boddhad myfyrwyr o 100% mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (NSS 2020)
- Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019)
- Mae gennym bartneriaethau cadarn gydag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd i ddarparu amgylcheddau hyfforddi amrywiol a chefnogol.
- Mae gennym Ganolfan Ddylunio bwrpasol i ddysgu myfyrwyr gradd Cynllunio Cynnyrch. Mae'r ganolfan yn cynnwys ystafell TG/ystafell ddarlithio gyda chyfarpar da, gweithdy gydag amrywiaeth gynhwysfawr o beiriannau a chyfarpar CNC, storfeydd a swyddfeydd.
Gwobr Aur i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.
Ystod eang o gyrsiau
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu ac yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau.
Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU
Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.
Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.
Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi derbyn gwobr Arian yng ngwobrau WhatUni 2020 sy'n ein gosod yn ail orau yn y DU.
Lleoliad heb ei ail
Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019).
Buddsoddiad mewn cyfleusterau
Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.
Sicrwydd o lety
Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n cychwyn eu cais fis Medi, yn gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.