Fideos

Er mwyn rhoi syniad gwell i chi o sut beth ydi bod yn fyfyriwr yn yr Ysgol Saesneg, rydym wedi cydweithio gyda BangorTV i greu nifer o fideos ar eich cyfer.

Ceri James-Evans - Llenyddiaeth Saesneg

Mae Ceri yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Yma mae hi'n trafod pam y daeth hi i Fangor, ei modiwl gorau dros y dair mlynedd ac hefyd y gweithgareddau sydd ar gael i fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg.

Carys Roberts - English Literature

Mae Carys yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Yma mae hi'n trafod pam y daeth hi i Fangor, ei modiwl gorau dros y dair mlynedd ac hefyd y sgiliau y gwnaeth ei dysgu yma tra'n astudio Llenyddiaeth Saesneg.

Dewch i ddarganfod Prifysgol Bangor

Darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, adnoddau, llety a'n lleoliad.

Prifysgol Bangor yn ennill gwobr aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA).

Profiadau ein Myfyrwyr

Ein myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am y lleoliad, yr addysg a’r bywyd cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor

Pam dewis Bangor?

Mae bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail ym Mangor, ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) sy’n ganolbwynt i’r rhan helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hamdden a chymdeithasol.

Adnoddau Dysgu Prifysol Bangor

Mae gan Brifysgol Bangor amrywiaeth eang o adnoddau dysgu i fyfyrwyr, gan gynnwys darlithfeydd, ystafelloedd cyfrifiaduron, llyfrgelloedd, labordai, stiwdio recordio a llong ymchwil..

Clybiau a Chymdeithasau

Mae gan Fangor dros 150 o glybiau a chymdeithasau ar gael felly rydych yn siwr o ddod o hyd i rhywbeth sydd at eich dant. Mae aelodaeth i’r holl glybiau a chymdeithasau nawr yn rhad ac am ddim felly does dim rheswm i beidio ymaelodi!

Taith Neuaddau

Dewch i gael cip olwg ar Neuadd John Morris-Jones, cartref myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor. Am fwy o wybodaeth ewch i www.bangor.ac.uk/llety

Wythnos Groeso

Dyma gip olwg i chi o’r hyn sy’n mynd ymlaen yn ystod yr wythnos gyntaf o’ch bywyd prifysgol.

Graddio

Gwyliwch uchafbwyntiau seremoniau graddio 2017.