Newyddion: Mawrth 2018
We're mapping wartime shipwrecks to explore the past – and help develop green energy projects
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Michael Roberts o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2018
Dyfarnu Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i ddwy fyfyrwraig ragorol - Hannah Davies a Lily Stokes. Roedd y ddwy yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y ddwy radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2017. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018
Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.
Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tîm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018
Rhoi amlygrwydd i gyfleoedd gyrfa ym maes Gwyddorau Môr ym Mhrifysgol Bangor
Cynhaliodd Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor ei ffair yrfaoedd flynyddol i dynnu sylw at y potensial enfawr o swyddi yn y sector môr, un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn economi'r Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2018
Gweithio i ddiogelu'r cyhoedd yn erbyn firysau a bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau
Heddiw (14 Mawrth) yn y Royal Geographic Society yn Llundain mae gwyddonwyr sy'n gweithio i leihau'r risgiau i'r cyhoedd drwy ddod i gysylltiad â bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn yr amgylchedd dŵr yn cyfarfod i rannu eu hymchwil a thrafod y camau nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2018
Cyn-fyfyriwr nodedig o Fangor yn gadael rhodd hael i Fotaneg Amaethyddol
Fe wnaeth John Trevor Williams (PhD Botaneg Amaethyddol, 1962) gyfraniad enfawr i ddiogelu genynnau cnydau bwyd y byd a nawr mae wedi darparu ar gyfer dyfodol y maes ymhellach drwy adael rhodd o £75,000 i gefnogi Botaneg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2018
Thousands of starfish have washed up dead after the ‘Beast from the East’ – here’s why
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Coleen Suckling o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2018
Academydd Prifysgol Bangor yn rhoi tystiolaeth arbenigol yn Nhŷ’r Cyffredin ar Ddydd Gŵyl Dewi
Cyflwynodd academydd o Brifysgol Bangor dystiolaeth gerbron Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (1 Mawrth 2018). Mae’r Athro Barrie Johnson o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn arbenigwr rhyngwladol ar ddefnyddio technegau biolegol er mwyn echdynnu mineralau. Bu’n rhoi tystiolaeth ar sicrhau cyflenwad mineralau yn y DU. Roedd ei dystiolaeth i’r Pwyllgor heddiw yn seiliedig ar ei gyfraniad i broject ymchwil o bwys yn y DU, yn ymchwilio dulliau o adennill cobalt. Mae’r project, a gyllidir gan y Natural Environment Research Council, yn anelu at gynyddu ymchwil, cloddio a phrosesau adennill sy’n gysylltiedig â cobalt yn y DU, gan fod cobalt yn fetel o bwys strategol ac economaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2018
Cefnogaeth frenhinol i gynyddu cydweithio i warchod riffiau cwrel
Tywysog Cymru yng nghyfarfod yr Uned Cynaliadwyedd Rhyngwladol: " Blwyddyn Genedlaethol y Rîff 2018 - Cyfle i Wella Gwytnwch Riffiau Cwrel drwy Fodelau Cydweithredu Newydd" Yn ddiweddar tynnodd Tywysog Cymru sylw at y ffactorau economaidd sydd tu ôl i ddirywiad riffiau cwrel a'r buddsoddiadau sydd eu hangen i sicrhau iechyd hir-dymor y cynefinoedd môr allweddol hyn. Roedd Yr Athro John Turner a Dr Gareth Williams o'r Ysgol Gwyddorau Eigion ymysg cynulleidfa o genhadon o'r Cenhedloedd Unedig, llysgenhadon, arianwyr, cadwraethwyr a rheolwyr riffiau a ddaeth ynghyd i roi sylw i'r angen brys i wella gwytnwch ac adferiad riffiau cwrel y byd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar swyddogaeth y sector preifat.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2018