Newyddion: Mehefin 2018
Why we explored an undisturbed rainforest hidden on top of an African mountain
Dyma erthygl yn Saesneg gan Simon Willcock , Darlithydd mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth a Phil Platts , o Brifysgol Efrog sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2018
Cyhoeddi’r gwerslyfr cyntaf ar Ynni Morol Adnewyddadwy
Mae ffynhonnell bosib o ynni yn ein hamgylchynu – y môr – sy’n adnodd naturiol enfawr sydd â’r potensial i ddiwallu angen y byd am drydan sawl gwaith drosodd. Gyda buddsoddiadau diweddar mewn ymchwil a datblygu, ac ymchwil academaidd ym maes ynni morol adnewyddadwy, fe’i hystyriwyd yn amserol i gynhyrchu gwerslyfr ar sylfaeni astudiaeth o’r pwnc. Gwerslyfr gan yr arbenigwr ar ynni morol ym Mhrifysgol Bangor, Dr Simon Neill, mewn cydweithrediad â Dr Reza Hashemi ym Mhrifysgol Rhode Island, yw’r cyntaf felly, i’w cyhoeddi yn y maes newydd hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2018
Dau yn cynrychioli Bangor yng ngystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander
Mae gan Prifysgol Bangor gynrychiolaeth dda yn rownd gynderfynol G wobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2018, sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Strathclyde ar 26 Mehefin. Wedi eu dethol drwy gystadleuaeth ymhlith graddedigion a myfyrwyr sydd eto i raddio o’r Brifysgol, mae Tim Hunt a Joe Perkins ymhlith 20 entrepreneur sydd eisoes wedi ennill cymal arall yn y gystadleuaeth. Bydd y ddau yn ceisio ‘gwerthu’ eu syniad busnes er mwyn ceisio lle yn y ffeinal rhanbarthol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2018
We're working on a more accurate pollen forecasting system using plant DNA
Dyma erthygl yn Saesneg gan Athro Simon Creer a Georgina Brennan o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018
Taith ymchwil ‘unwaith mewn bywyd’ i’r fforestydd glaw
Chwe diwrnod ar ôl iddo briodi, roedd y darlithydd Simon Willcock yn pacio’i fagiau ac yn gadael ei wraig am daith ‘unwaith mewn bywyd’ i ‘fyd coll’, sef fforest law ddiarffordd ar ben allfrigiad o greigiau folcanig ym Mozambique. Ag yntau bellach yn ddarlithydd Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ers cyfnod ei Ddoethuriaeth mae Simon wedi gweithio gyda rhwydwaith o wyddonwyr blaenllaw sydd yn ymddiddori mewn, ymysg pethau eraill, fforestydd glaw pellennig di-ymyrryd
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018
Myfyrwraig Prifysgol Bangor i gynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaethau Cyfeiriannu
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd yn y Ffindir ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2018
Gwobr ryngwladol i wyddonydd y gwlyptir o Fangor
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr ryngwladol fawr am y gwaith y mae'n ei wneud ar ddeall rhai o gynefinoedd pwysicaf y byd. Enillodd yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor y wobr ar ôl cael enwebiadau gan wyddonwyr ledled y byd, a fu'n ei ganmol fel arweinydd yn ei faes.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2018
Myfyrwyr amaethgoedwigaeth yn teithio i Indonesia
Teithiodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor i Ddwyrain Kalimantan yn Indonesia, fel rhan o gwrs maes ar y rhaglen MSc Amaethgoedwigaeth . Trefnwyd y cwrs maes gyda chymorth y project Ffrwythau Coedwig a Maeth Gwledig (FFRAN), sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Mulawarman a Phrifysgol Bangor. Nod y project yw pennu pa rôl y gallai ffrwythau coedwigoedd trofannol, na wneir defnydd helaeth ohonynt ar hyn o bryd, ei chwarae wrth liniaru diffyg maeth ymysg plant mewn ardaloedd gwledig. Un o brojectau Cysylltiadau Sefydliadol y Cyngor Prydeinig yw FFRAN, fel rhan o Gronfa Newton .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2018
Therapïau canser dynol yn trin crwbanod môr llawn tiwmorau yn llwyddiannus
Mae astudiaeth newydd yn dangos y gellir defnyddio therapïau a ddefnyddir i drin canserau mewn pobl yn llwyddiannus hefyd i drin tiwmorau sy'n debyg o ran eu geneteg mewn crwbanod môr. Mewn gwirionedd, gall crwbanod ddod dros eu tiwmorau eu hunain a helpu gwyddonwyr i ddeall canserau dynol yn well.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018
Helpwch ddod â Sophie adref- stori Draig Beats
Y llynedd, penderfynodd ffrindiau Sophie Williams godi arian er mwyn addasu ei chartref er mwyn ei gwneud yn bosib iddi ddychwelyd adref i fyw am y tro cyntaf ers cael ei tharo’n wael. Bu Sophie’n wael ers iddi ddal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra’n gweithio yn Tsieina dair blynedd yn ôl. Eu syniad ar gyfer codi arian yw cynnal gŵyl undydd , Draig Beats , gan roi cyfle i bawb oedd eisiau bod o gymorth i gydweithio.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018
Galwadau am reolaeth wrth i Lyffantod Asiaidd fynd ati i achosi llanast ym Madagascar
Er ein bod yn gwybod am y niwed a wnaeth y llyffant cansen an-frodorol i fywyd gwyllt brodorol Awstralia, mae'n ymddangos ein bod ni, fodau dynol, wedi llwyddo i wneud yr un camgymeriad eto. Oni bai bod mesurau rheoli cyflym yn cael eu rhoi ar waith, mae llyffant an-frodorol yn mynd i achosi llanast ym Madagascar, sy'n gartref i lawer o rywogaethau unigryw nad ydynt i'w cael ond ar yr ynys.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2018
Myfyrwraig Prifysgol Bangor yn cychwyn busnes eco-ymwybyddiaeth
Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor, a fu’n gorfod gwrthod ei lleoliad gwaith delfrydol oherwydd problemau iechyd parhaus, reswm i ddathlu yn dilyn lansiad ei busnes eco-ymwybyddiaeth ei hun, sy’n bwriadu goleuo arddegwyr am faterion amgylcheddol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2018
Helpwch ddod â Sophie adref- stori Draig Beats
Y llynedd, penderfynodd ffrindiau Sophie Williams godi arian er mwyn addasu ei chartref er mwyn ei gwneud yn bosib iddi ddychwelyd adref i fyw am y tro cyntaf ers cael ei tharo’n wael. Bu Sophie’n wael ers iddi ddal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra’n gweithio yn Tsieina dair blynedd yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2018