Newyddion: Chwefror 2019
Fe synnech chi ond mae economeg gymdeithasol yn effeithio ar Riffiau Cwrel
Dywed y biolegwyr morol sy'n gweithio i achub riffiau cwrel y byd fod gweithgareddau dynol yn effeithio'n gynyddol ar riffiau cwrel y byd. O ganlyniad, mae angen i fiolegwyr morol gynnwys asesiad o effeithiau'r gweithgareddau hynny, efallai o farchnadoedd neu ddinasoedd pell, ar oroesiad y riffiau cwrel. Mewn rhifyn arbennig o Functional Ecology ; “ C oral reef functional ecology in the Anthropocene ”, a defnyddio riffiau cwrel fel enghraifft, mae'r gwyddonwyr yn galw am gynnwys gweithgareddau economaidd-gymdeithasol wrth ddarogan adwaith ecosystemau riffiau cwrel at y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2019
Why the pine marten is not every red squirrel's best friend
Dyma erthygl yn Saesneg gan Craig Shuttleworth Cymrawd Ymchwil Arhydeddus o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Matt Hayward o Brifysgol Newcastle, Awstralia, cyn aelod o staff yn yr un ysgol. Mae'n cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru. Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019