Canolfan Cadwraeth wedi'i seilio ar Dystiolaeth yn ennill 'safon aur' am ganllawiau Cydweithio ar Dystiolaeth Amgylcheddol
Gwahoddwyd yr Athro Andrew Pullin, Cyfarwyddwr y Ganolfan Cadwraeth wedi’i seilio ar Dystiolaeth, sydd wedi'i lleoli yn ADNODD, i gyflwyno gwaith y Ganolfan ar adolygu systematig a chyfuno tystiolaeth i Grŵp Tystiolaeth Rhwydwaith Strategol DEFRA yn eu cyfarfod ‘Evidence Reviews and Communicating Evidence Quality’ yn Llundain ar 5 Tachwedd 2014. Roedd Prif Ymgynghorydd Gwyddonol DEFRA, yr Athro Ian Boyd ac Ysgrifennydd Parhaol DEFRA, Bronwyn Hill yn bresennol yn y cyfarfod.
Mae'r Ganolfan Cadwraeth wedi'i seilio ar Dystiolaeth yn ganolfan cydlynu i Gydweithio ar Dystiolaeth Amgylcheddol (CEE), sef rhwydwaith byd-eang sy'n rhoi canllawiau a safonau i adolygu tystiolaeth yn systematig mewn rheolaeth amgylcheddol. Caiff Canllawiau CEE, a ddatblygwyd yn y Ganolfan Cadwraeth wedi'i seilio ar Dystiolaeth, eu cydnabod gan DEFRA erbyn hyn (a sefydliadau tebyg drwy'r byd) fel methodoleg 'safon aur' i gyfuno tystiolaeth i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau a ffurfio polisïau yn y sector amgylcheddol.
Bu Dr Helen Bayliss, hefyd o'r Ganolfan Cadwraeth, yn arwain sesiwn yn edrych ar y potensial i leihau tuedd risg wrth adolygu tystiolaeth. Tynnodd Helen sylw at y rhannau o'r canllawiau CEE sy'n ceisio lleihau tuedd wrth ddatblygu sylfaen dystiolaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2014