Gwobr Cemeg Nobel 2016
Mae Gwobr Cemeg Nobel a ddyfarnwyd i'r Athro Jean-Pierre Sauvage, yr Athro Syr Fraser Stoddard a'r Athro Bernard Feringa yn destun dathlu i gemeg bur, sylfaenol ac yn pwysleisio pwysigrwydd y syniad o ymchwil cemeg 'awyr las' neu o'r gwaelod i fyny, syniad sydd yn cael ei ddiystyru'n aml. Mae eu gwaith rhyfeddol ar beiriannau moleciwlaidd; cydosodiadau o foleciwlau pwrpasol (rhai anorganig ac organig eu tarddiad), a ddyluniwyd ac a adeiladwyd i symud yn ôl EIN HEWYLLYS NI, yn briodas berffaith rhwng meysydd cemeg anorganig, organig a ffisegol ac yn rhoi i gemeg yn llwyfan y mae'n ei lawn haeddu.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2016