Beth yw deddfwriaeth yn ymwneud â gweithwyr nad ydynt ar y gyflogres?

Cafodd y ddeddfwriaeth ar gyfer gweithwyr nad ydynt ar y gyflogres, a elwir hefyd yn ddeddfwriaeth cyfryngwyr neu IR35, ei chyflwyno yn wreiddiol yn 2000 er mwyn mynd i'r afael ag osgoi treth. Mae'r Llywodraeth yn amcangyfrif fod diffyg cydymffurfiaeth yn costio £440 miliwn y flwyddyn.

Cyhoeddodd y Trysorlys y byddai'r ddeddfwriaeth yn cael ei diwygio yng nghyllideb 2016 ac y bydd y rheolau newydd mewn grym o Ebrill 2017.

Beth mae hyn yn ei olygu i Brifysgol Bangor?

Mae'r diwygio hwn yn cyflwyno rheolau a chosbau newydd ac yn symud y cyfrifoldeb am weithredu'r rheolau i holl sefydliadau'r sector cyhoeddus megis y brifysgol, gan gynnwys is-gwmnïau sy'n eiddo llwyr i'r brifysgol. Nid oes effaith ar y sector preifat.

Bydd gan y brifysgol gyfrifoldeb cyfreithiol i benderfynu a yw'r rheolau'n berthnasol i wasanaethau sy'n cael eu prynu gan gwmnïau a phartneriaethau cyfyngedig, a adwaenir yn fwy cyffredin fel Cwmnïau Gwasanaeth

Personol (CGP)*, lle mai'r gweithiwr yw'r perchennog.  Bydd yr un rheolau'n berthnasol hefyd i weithwyr a ddarperir gan asiantaethau, nad ydynt yn tynnu treth talu-wrth-ennill (PAYE) ac yswiriant gwladol oddi ar y gweithiwr. 

Os yw'r rheolau newydd yn berthnasol, bydd rhaid i'r brifysgol gyfrifo'r dreth ac yswiriant gwladol dyledus, eu didynnu, rhoi gwybod amdanynt ac yna eu trosglwyddo i'r awdurdodau perthnasol.   Bydd hyn hefyd yn cynnwys Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a'r dreth Prentisiaethau newydd, gan ychwanegu oddeutu 14% at gostau'r anfoneb.

Bydd y brifysgol yn atebol am unrhyw dorri'r rheolau a gallai wynebu cosbau ariannol.

 

Pa fath o bryniannau y mae'r rheolau newydd yn berthnasol iddynt?

Mae’r brifysgol yn defnyddio gweithwyr nad ydynt ar y gyflogres mewn nifer o ffyrdd, fel rheol i roi arbenigedd medrus ar fyr rybudd. Gallant gael eu galw hefyd yn hunan-liwtwyr, contractwyr neu unig fasnachwyr.  Enghreifftiau fyddai darlithwyr gwadd arbenigol, ymchwilwyr ac ymgynghorwyr, a all gynnwys arbenigwyr o fyd diwydiant, megis penseiri, peirianwyr, ymgynghorwyr busnes ac arbenigwyr ar systemau cyfrifiadurol.

Gall darpariaeth dymor-byr dros dro neu ymgynghorwyr gael eu darparu hefyd gan asiantaethau nad ydynt yn gweithredu trefn PAYE i'w gweithwyr.  Gall y math hwn o ddarpariaeth hefyd ddod dan y rheolau newydd.  

Nid yw'n cynnwys cwmnïau mawr PLC a LLP, cwmnïau gwasanaeth a reolir, prynu nwyddau, prynu gwasanaethau a ddarperir ar eiddo'r cwmni, megis trin ceir, neu wasanaethau lle mae'n glir bod y contractwr yn darparu eu hoffer/cyfarpar arbenigol neu sylweddol eu hunain, er enghraifft, plymwyr, trydanwyr, cloddwyr neu gwmni danfon.

Mewn gwirionedd, maent y gwasanaethau hynny a ddarperir gan gwmni cyfyngedig neu bartneriaeth lle darperir llafur yn unig gan mwyaf,  gyda'r gwaith yn cael ei wneud yn bersonol gan y perchennog.

Sut y gweithredir y rheolau?

Cyn i'r gwaith ddechrau, bydd angen i'r CGP neu'r Asiantaeth roi gwybodaeth ddigonol i'r brifysgol benderfynu a fydd angen defnyddio'r rheolau newydd.

Gall y CGP fod yn atebol pe bai'r wybodaeth a roddir i'r brifysgol yn arwain at wneud penderfyniad anghywir. 

Os yw'r busnes a ddarperir o fewn y rheolau, yna bydd angen i'r brifysgol ddefnyddio'r pecyn ar-lein Employment Status Check for Tax (ESCT) Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) i wneud penderfyniad ynghylch y gwaith sydd i'w gyflawni gan y gweithiwr CGP.

Os bydd y brifysgol yn defnyddio'r pecyn ar-lein yn gywir, bydd yr HMRC yn derbyn y canlyniad y daethpwyd iddo drwy'r ESCT.

Beth mae'n ei olygu i'r cyflenwr?

Yn achos cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth, os ystyrir bod natur yr ymrwymiad o fewn cwmpas deddfwriaeth cyfryngwyr, yna bydd y swm a anfonebir, namyn deunyddiau/treuliau a TAW, yn cael ei defnyddio i gyfrifo cyfraniadau Treth Gweithiwr a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ac Yswiriant Gwladol Cyflogwr a Threth Prentisiaid i Gyflogwyr.

Telir cyfanswm yr anfoneb i'r cyflenwr, namyn y dreth a'r yswiriant gwladol a gyfrifwyd.  Telir y cyfanswm Treth, Yswiriant Gwladol Gweithwyr a Chyflogwyr a'r Dreth Prentisiaid i Gyflogwyr i'r HMRC.

Yn achos Unig Fasnachwyr, os ystyrir bod natur yr ymrwymiad yn gyflogaeth, yna mae'n rhaid i'r taliad gael ei wneud drwy'r gyflogres.  Yn achos ymrwymiadau o lai na 3 mis gwneir hynny drwy'r Broses Cyflogres Achlysurol.  Yn achos ymrwymiadau hirach, bydd angen i Adnoddau Dynol ddarparu contract cyflogaeth a defnyddio'r broses recriwtio.  

Beth mae'n ei olygu i adrannau?

Mae'r trefniadau pryniant newydd a gyflwynwyd yn Chwefror

(https://www.bangor.ac.uk/finance/newyddion/trefniadau-caffael-30874)

yn nodi bod rhaid gwneud archebion ar gyfer holl bryniannau, ac eithrio rhai ar Gardiau Prynu.  Dim ond cyflenwyr ar y system Agresso ellir eu defnyddio ar gyfer archebion.

Yn unol â'r polisi hwn, mae'r ffeil cyflenwyr wedi cael ei hadolygu ac mae unrhyw gyflenwyr sy'n dod o bosib o fewn y rheolau newydd wedi cael eu cau. 

Os bydd angen unrhyw rai o'r cyflenwyr hyn yn y dyfodol, yna rhaid gwneud cais am gyflenwr newydd.

Mae'r drefn cyflenwyr newydd (sydd ynghlwm) wedi cael ei diwygio i sicrhau bod holl geisiadau am gyflenwyr newydd yn cael eu gwirio a phenderfyniad wedi'i wneud ar statws y cyflenwr.

Bydd penderfyniad o fewn cwmpas y rheolau newydd yn ychwanegu tua 14% at y dyfynbris a roddwyd gan y bydd angen talu Yswiriant Gwladol Cyflogwyr.  Bydd angen cynnwys hyn wrth gymharu dyfynbrisiau.

Efallai y bydd yr adran neu'r cyflenwr yn anfodlon cytuno ar delerau os gwneir penderfyniad 'o fewn y sgôp' a dylid chwilio am gyflenwr newydd. 

Caiff staff eu hatgoffa na ddylid prynu gwasanaethau personol gyda Cherdyn Prynu.

Mae'n hanfodol bod y trefniadau pryniant a'r trefniadau'n ymwneud â chyflenwyr newydd yn cael eu gweithredu'n fanwl gan holl staff mewn adrannau wrth iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau ar ran y brifysgol.