Gwybodaeth am Ragsylweddion Cyffuriau
Canllawiau pellach ynghylch Rheolaeth y Gymuned Ewropeaidd o Ragsylweddion Cyffuriau
Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi'r canllawiau hyn at ei gilydd o nodiadau briffio a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref ac Universities UK.
Rheolaeth y Gymuned Ewropeaidd o Ragsylweddion Cyffuriau
1. Cefndir
Yn dilyn arolwg o effeithiolrwydd rheolaeth rhagsylweddion cyffuriau anghyfreithlon yr Undeb Ewropeaidd, cyflwynwyd rheoliadau newydd yn 2005 yn ymwneud â sylweddau categori 1, 2 a 3. Nid yw'r rheoliadau'n ymwneud â sylweddau categori 3 yn berthnasol i brifysgolion gan eu bod yn ymwneud ag allforio sylweddau dramor.
Y rheoliadau perthnasol yw Rheoliad (y Gymuned Ewropeaidd - masnach fewnol) Rhif 273/2004 a Rheoliad (masnach y Gymuned Ewropeaidd rhwng gwledydd yr UE a thrydydd gweledydd) rhif 111/2005. Mae pob cyfeiriad yn y papur hwn at Erthyglau yn 273/2004 gan nad yw 111/2005 yn berthnasol i brifysgolion. Gellir gweld y Rheoliadau a'r ffurflenni y cyfeirir atynt yn y canllawiau pellach hyn ar wefan y Swyddfa Gartref yn:
http://www.drugs.gov.uk/drugs-laws/licensing/precursor-forms/
Mae Prifysgol Bangor [PB] yn defnyddio nifer o gemegau, a restrir yn y rheoliadau hyn, fel rhan o'i gweithgareddau bob dydd ym maes gwyddoniaeth ac ymchwil.
Mae'r Canllawiau'n rhoi cyngor ar y mesurau rheoli sydd eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth rheoli cyffuriau yn unig, ac nid yw'n cynghori ar ofynion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol ar gyfer y cemegau hynny a restrir. Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch am y cemegau a restrir ar gael o'r Asesiadau Risg COSHH Adrannol, a chan y Cydlynydd Adrannol dros Iechyd a Diogelwch; mae gwybodaeth am gael gwared ar gemegau ar gael gan Oruchwylwyr a Thechnegwyr Labordai.
2. Y Rheoliadau
Ceir dau weithgaredd allweddol y mae'n rhaid i brifysgolion eu gwneud ar gyfer sylweddau Categori 1 a 2.
Ar gyfer sylweddau Categori 2, mae angen datganiad cwsmer (Datgan Defnydd Penodol) cyn y gall cyflenwr ddarparu'r sylweddau i PB (gwelwch Atodiad 2), fodd bynnag, nid oes angen trwydded. Ar gyfer sylweddau Categori 1, mae angen trwydded a datganiad cwsmer. Bydd yn rhaid i PB hefyd adrodd yn flynyddol ar ei defnydd o'r sylweddau hyn.
Bydd ceisiadau am drwyddedau i gael cyflenwad o sylweddau Categori 1 yn cael eu trin drwy Swyddog Cydymffurfio'r Brifysgol (manylion yn adran 4).
3. Sylweddau Categori 1 a 2
Sylweddau Categori 1
Mae'r rheoliad hwn yn ymwneud â'r canlynol:
- 1-ffenyl-2-propanon
- Asid N-asetylanthranilig
- Isosaffrol (cis+trans)
- 3,4-methylenediocsiffenyl-propan-2-one
- Piperonal
- Saffrol
- Effedrin
- Ffugeffedrin
- Noreffedrin
- Ergometrin
- Ergotamin
- Asid Lysergig
Sylweddau Categori 2
Mae'r rheoliad hwn yn ymwneud â'r canlynol:
- Anhydrid asetig
- Asid Ffenylacetig
- Asid Anthranilig
- Piperidin
- Potasiwm permanganad
Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau gan y Swyddfa Gartref yn nodi nad oes angen i brifysgolion gofrestru na gwneud cais am drwydded i gael cyflenwad o sylweddau Categori 2, hyd yn oed os bydd faint a ddefnyddiant yn mynd y tu hwnt i'r trothwy a nodir yn Atodiad 1. Fodd bynnag, bydd angen iddynt lenwi ffurflen Datganiad o Ddefnyddiau Penodol (gwelwch Atodiad 2 neu ar gael o wefan y Swyddfa Gartref), gan hepgor y manylion cofrestru a thrwydded. Gellir derbyn un datganiad am gyfnod o 12 mis, cyhyd â bod y sefydliad wedi prynu'r sylwedd o leiaf deirgwaith yn y 12 mis diwethaf.
4. Swyddog Cydymffurfio
Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol penodi swyddog cyfrifol ar gyfer y "fasnach" mewn sylweddau categori 1 a 2. Bydd y swyddog yn gyfrifol am sicrhau bod y "fasnach mewn sylweddau rhestredig" yn cael ei wneud yn unol â'r rheoliadau. Yn ogystal, bydd gan y swyddog "bŵer i gynrychioli Prifysgol Bangor, a gwneud y penderfyniadau angenrheidiol" i sicrhau y cydymffurfir â'r rheoliadau.
Y Swyddog Cydymffurfio ar gyfer Prifysgol Bangor, y mae'n rhaid ymgynghori â hi a'i hysbysu am yr holl weithrediadau masnachol yn ymwneud â sylweddau Categori 1 a Chategori 2, yw:
Mrs Gwenan Hine
Pennaeth Cydymffurfio
Swyddfa Cynllunio & Llywodraethu
e-bost:- gwenan.hine@bangor.ac.uk
5. Trwydded a Datgan Defnydd Penodol
Yn ogystal â darparu ffurflenni Datgan Defnydd Penodol i gyflenwyr wrth archebu'r sylweddau hyn yn y dyfodol, bydd ar y Brifysgol hefyd angen trwydded cyn gellir cyflenwi'r sylweddau. Am fwy o fanylion am y drwydded, cysylltwch â'r Swyddog Cydymffurfio.
6. Rhagor o wybodaeth i Ysgolion ac Adrannau
Mae'n hanfodol bod Ysgolion ac Adrannau'n rhoi gwybod i'r Swyddog Cydymffurfio am yr holl weithrediadau masnachol yn ymwneud â sylweddau Categori 1 a Chategori 2 (gwelwch bwynt 3 uchod).
Argymhellir bod sylweddau Categori 1 a 2 yn cael eu cadw mewn cyfleusterau â mynediad cyfyngedig drwy'r amser, a bod cofnod yn cael ei gadw o swm a phwrpas y swm a brynwyd, a ddefnyddiwyd ac y cafwyd gwared arno. Dylai'r Adran wirio stoc yn rheolaidd i sicrhau nad oes anghysondeb.
Bydd y Swyddog Cydymffurfio yn gwneud archwiliad bob blwyddyn i sicrhau bod y mesurau diogelwch angenrheidiol yn parhau mewn grym i ddiogelu rhag symud sylweddau Categori 1 a 2 heb awdurdod, yn ogystal â sicrhau bod defnydd yr Ysgolion/Adrannau yn parhau fel yr hysbyswyd i'r Swyddfa Gartref.
Dylai Ysgolion ac Adrannau sicrhau, os byddant yn dechrau defnyddio sylweddau newydd (nad ydynt wedi'u hysbysu ar hyn o bryd) o naill ai gategori 1 neu 2 fel y nodwyd uchod, dylid rhoi gwybod am y rhain ar unwaith i'r Swyddog Cydymffurfio i sicrhau y cedwir at delerau ein trwydded bresennol.
7. Cysylltiadau
Gwenan Hine
Pennaeth Cydymffurfio
Swyddfa Cynllunio & Llywodraethu
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd LL57 2DG
Ffôn: (01248) 38 2413
E-bost: gwenan.hine@bangor.ac.uk
Atodiad 1
Rhestr o Sylweddau Categori 1 a 2 a Throthwyon
Sylweddau Categori 1
Sylwedd |
Cod CN (1) |
Rhif CAS (2) |
---|---|---|
1-ffenyl-2-propanone |
2914 31 00 |
103-79-7 |
Asid N-asetylanthranilig |
2924 23 00 |
89-52-1 |
Isosaffrol (cis + trans) |
2032 23 00 |
120-58-1 |
3,4-methylenediocsiffenyl-propan-2-one |
2932 92 00 |
4676-39-5 |
Piperonal |
2932 93 00 |
120-57-0 |
Saffrol |
2932 94 00 |
94-59-7 |
Effedrin |
2939 41 00 |
299-42-3 |
Ffugeffedrin |
2939 42 00 |
90-82-4 |
Noreffedrin |
ex 2939 49 00 |
14838-15-4 |
Ergometrin |
2939 61 00 |
60-79-7 |
Ergotamin |
2939 62 00 |
113-15-5 |
Asid Lysergig |
2939 63 00 |
82-58-6 |
Sylweddau Categori 2
Sylwedd |
Cod CN (1) |
Rhif CAS (2) |
---|---|---|
Anhydrid Asetig |
2915 24 00 |
108-24-7 |
Asid Ffenylacetig |
2916 34 00 |
103-82-2 |
Asid Anthranilig |
2922 43 00 |
118-92-3 |
Piperidin |
2933 32 00 |
110-89-4 |
Potasiwm permanganad |
2841 61 00 |
7722-64-7 |
Sylweddau Categori 2: Trothwyon
Sylwedd |
Trothwy |
---|---|
Anhydrid Asetig |
100 lt |
Asid Ffenylacetig |
100 kg |
Asid Anthranilig |
1 kg |
Piperidin |
1 kg |
Potasiwm permanganad |
0.5kg |
Atodiad 2: Ffurflenni Perthnasol
O wefan y Swyddfa Gartref :