
Graduation News
- Dim Newyddion Cyfoes
- Darllenwch yr holl newyddion
Seremonïau Graddio
Bu llawer o drafod am seremonïau graddio ar gyfer haf 2021, o ystyried yr ansicrwydd o gwmpas digwyddiadau ar raddfa fawr a'r cyfyngiadau sy'n bodoli ar hyn o bryd o ganlyniad i'r pandemig
Gyda hwn mewn golwg, yn anffodus, mae Prifysgol Bangor, fel llawer o sefydliadau eraill, wedi cymryd y penderfyniad anodd i ohirio seremonïau graddio haf 2021, gan gynnwys y rhai hynny yr oeddem wedi gobeithio eu hail-drefnu o 2020.
Roeddem yn teimlo bod angen gwneud y penderfyniad rŵan er mwyn rhoi digon o rybudd i chi.
Yn 2022, os yw'n ddiogel, byddwn yn darparu seremoni graddio wyneb-yn-wyneb i chi i gyd a bydd croeso cynnes i chi yma ym Mangor i ddathlu mewn steil.
Hoffwn eich sicrhau nad yw'r penderfyniad yma'n cael unrhyw effaith ar eich gallu i raddio ar yr amod eich bod yn cwrdd â'r gofynion dysgu. Felly, er bod y seremoni raddio yn gyfle i ddathlu'ch cymhwyster a ddyfarnwyd eisoes, ni fydd y penderfyniad i ohirio seremonïau graddio yn effeithio'r cam nesaf ymlaen yn eich bywyd wedi'r brifysgol.
Gan fod graddio yn garreg filltir bwysig i chi, eich teuluoedd, ffrindiau ac i'r Brifysgol, byddwn yn ystyried sut y gallwn nodi'r digwyddiad, ac yn bwysicach fyth eich cyflawniadau, yn yr wythnosau nesaf.
Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth maes o law.
Yr Athro Oliver Turnbull
Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol
Os oes gennych gwestiynau am Raddio, cysylltwch â graduation@bangor.ac.uk