Newyddion Graddio a Proffiliau
- Newyddion Graddio a Proffiliau diweddaraf
- Gorffennaf 2020
- Rhagfyr 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Rhagfyr 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Rhagfyr 2017
- Gorffennaf 2017
- Mai 2017
- Rhagfyr 2016
- Gorffennaf 2016
- Ebrill 2016
- Rhagfyr 2015
- Gorffennaf 2015
- Mai 2015
- Gorffennaf 2014
- Gorffennaf 2013
- Gorffennaf 2012
- Holl Newyddion Graddio a Proffiliau A–Y
Newyddion Graddio a Proffiliau: Gorffennaf 2015
Pencampwraig Rafftio Dŵr Gwyn Ewrop yn Ennill Doethuriaeth
Mae myfyrwraig a ddechreuodd rafftio dŵr gwyn tra roedd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd wedi cynrychioli Prydain Fawr yn y gamp, newydd ychwanegu at y graddau sydd ganddi o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2015
12 o raddedigion cyntaf Gwyddorau Meddygol o Brifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2015 bydd deuddeg o israddedigion y rhai cyntaf i raddio o’r cwrs arloesol BMedSci Gwyddorau Meddygol o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol, adran academaidd ieuengaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Enillwyr Gwobrau 2015
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Myfyriwr ysbrydoledig yn graddio ar ôl brwydro yn erbyn canser
Bydd myfyriwr technolegau creadigol yn graddio eleni gyda gradd ddosbarth gyntaf, er iddo orfod brwydro yn erbyn canser yn ystod ail flwyddyn ei gwrs. Yn goron ar y cyfan mae Ronald Rodriguez Winter (Ronnie) hefyd wedi ennill Gwobr Jane Rudall mewn cydnabyddiaeth o’i benderfyniad a’i waith caled yn ystod ei astudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Stephanie ar y ffordd i'w gyrfa ddelfrydol
Mae myfyrwraig o ogledd Cymru, sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma, ar y ffordd yn bendant i'w gyrfa ddelfrydol ar ôl sicrhau swydd dros dro yn Sw Caer. Bu Stephanie Davies, 27, o Gei Connah, Sir y Fflint, yn astudio am dair blynedd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol gan ennill gradd dosbarth cyntaf BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Aaron, pencampwr ffug lysoedd barn, yn ennill ysgoloriaeth o £3,000 i hyfforddi'n fargyfreithiwr
Ar sail ei sgiliau gwych mewn llys barn, mae un o raddedigion y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth o £3,000 i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr. Roedd Aaron Clegg, o Oldham, sy'n graddio'r wythnos hon gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, yn un o ddim ond pedwar ymgeisydd i dderbyn Gwobr Adfocatiaeth y BPP Law School.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Andra: "Roeddwn bob amser yn falch – pa wlad bynnag yr oeddwn ynddi – o ddweud fy mod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor"
Mae llawer o fyfyrwyr y Gyfraith yn ymgymryd â lleoliadau mewn swyddfeydd yn ystod eu cyrsiau gradd ond, yn achos un fyfyrwraig o Fangor, nid oedd hynny’n ddigon o her. Cwblhaodd Andra Filimon ddwy interniaeth gydag Adran Ddynladdianau Heddlu Rwmania, lle bu’n ail-greu safle trosedd, yn holi diffynnydd ac yn hwyluso’r gwaith o gyfathrebu â Heddlu Metropolitan Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Ar frig y dosbarth: Myfyriwr hŷn, Bryn, yn canfod doniau cudd
Mae myfyriwr hŷn o Ynys Môn, a adawodd yr ysgol gyda 'llond llaw o ganlyniadau TGAU gwael', wedi gorffen ar frig ei ddosbarth ym Mhrifysgol Bangor. Mae Bryn Moore, sy'n 43 oed ac a adawodd yr ysgol yn 16, yn graddio'r wythnos hon gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a'r marciau gorau yn ei flwyddyn yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Ashley ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd o ddod yn fargyfreithiwr ar ôl goresgyn anhwylder gorbryder
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor a fu’n dioddef oddi wrth anhwylder gorbryder am flynyddoedd wedi dod dros ei chyflwr i raddio gyda gradd yn y Gyfraith a Throseddeg. Mae'r gorbryder yn aml yn gwneud i Ashley Covill o Fanceinion deimlo'n ansicr ohoni ei hun a phrin o hunanhyder; gall tasgau syml hyd yn oed, fel cymdeithasu, ei llethu.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Bragwr amatur o Gricieth yn graddio
Yr wythnos hon, graddiodd peiriannydd trydanol lleol, yr oedd ei ymchwil yn ceisio egluro'r ffenomena y tu ôl i boblogrwydd cynyddol y diwydiant bragu crefft yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Nyrs nawr yn ddoctor
Bydd Charlotte Hillier yn graddio o Brifysgol Bangor am y trydydd gwaith wrth iddi dderbyn Doethuriaeth mewn Astudiaethau Rheoli yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
O Draeth Bondi i Fangor: “fy mhenderfyniad gorau erioed!”
Mae merch o Kilkenny a deithiodd o Awstralia i Gymru er mwyn dilyn ei breuddwyd o astudio’r Gyfraith yn dathlu ar ôl gwireddu uchelgais oes. Roedd Belinda Bambrick, cyn-ddisgybl o Yates College, Waterford, yn byw a gweithio yn Sydney pan benderfynodd fod yr amser wedi dod iddi ddilyn cwrs gradd yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Yn ôl i'r ysgol i Kerry sydd a'i bryd ar fod yn athrawes
Yn ôl i'r ysgol fydd hanes un o raddedigion Prifysgol Bangor wrth iddi anelu am Lundain i weithio mewn ysgol haf ryngwladol. Dim ond dyddiau ar ôl graddio gydag anrhydedd 2:1 mewn y Gyfraith a Ffrangeg, bydd Kerry Westgate yn dechrau fel Arweinydd Gweithgaredd gydag Embassy Summer, sef cynllun ysgol haf ym Mhrydain i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau dysgu Saesneg neu ei wella.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Arweinydd côr a chanwr talentog o Fôn yn graddio
Wedi tair blynedd o siwrnai gynhyrfus ac ar ôl teimlo allan o’i gynefin at y dechrau, graddio’n hyderus ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon wnaeth myfyriwr dawnus a anwyd ym Môn. Enillodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Syr Thomas Jones, Kiefer Jones, 22, o Amlwch, radd BMus ddosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Dyfodol disglair mewn maes dylunio
Mae merch o Abergele edrych ymlaen at ddechrau ei gyrfa newydd wedi iddi dderbyn gradd dosbarth cyntaf mewn BSc Dylunio Cynnyrch. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Ceri Mair Roberts Wobr Lloyd Jones am Fentergarwch ac Arloesedd yn ei blwyddyn olaf.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
HND yn mynd â Dyfan o ddiweithdra i yrfa newydd addawol
Mae dyn o Ynys Môn a gafodd ei wneud yn ddi-waith yn dathlu dechrau gyrfa newydd mewn cyfrifeg ar ôl iddo raddio o Brifysgol Bangor. Pan wnaeth Dyfan Phipps, o Fenllech, golli ei swyddi gyda chwmni paratoi cyflogau McKesson yn 2011, penderfynodd ddychwelyd i fyd addysg a dilyn ei ddiddordeb oes mewn busnes a chyllid.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Mae Catrin yn fam 'Dosbarth Cyntaf'
Mae mam ifanc ymroddgar a lwyddodd i wneud gradd yn ogystal â gofalu am ei merch fach a gwneud swydd ran-amser yn dathlu'r wythnos yma wrth iddi raddio o Brifysgol Bangor gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Roedd Catrin Nia Hughes, o Langefni, yn gweithio fel rheolwr cynorthwyol i Spar pan benderfynodd bod yr amser wedi dod am newid gyrfa.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
O fyfyrwyr coleg i raddedigion prifysgol: pedair ffrind yn dathlu carreg filltir arall gyda'i gilydd
Mae grŵp o fyfyrwyr a symudodd o goleg i brifysgol yn dathlu carreg filltir arall yn eu cyfeillgarwch yr wythnos hon wrth iddynt raddio o Brifysgol Bangor. Daeth Gwenno Williams, Nia Gwynedd, Medi Griffiths a Catrin Williams yn ffrindiau mawr fel myfyrwyr ar y cwrs lefel A mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Traddodiad Teuluol o astudio ym Mangor yn parhau
Bydd myfyrwraig o Feirionnydd yn parhau â thraddodiad teuluol drwy fynd ymlaen i addysgu ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Bydd Awel Pyrs Evans, 21, o Lanfachreth, Dolgellau yn derbyn gradd BA Addysg Gynradd (SAC) ar ôl astudio yn Ysgol Addysg y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Cymysgu efo sêr y byd ffilm a phrofi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd
Mae HanJie Chow, myfyriwr sydd ar fin graddio o Brifysgol Bangor, wedi bod yn cymysgu â sêr ffilm ac wedi profi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd yn ystod ei ‘flwyddyn dramor’ fel rhan o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Fflur yn ennill gradd dosbarth cyntaf a gwobr uchaf y Brifysgol
Fflur Elin o Donyrefail yw enillydd Gwobr Dr John Robert Jones o fewn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg eleni. Hon yw un o brif wobrau Prifysgol Bangor, sy’n cael ei ddyfarnu i’r graddedigion gorau yn eu maes pwnc.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Gradd a gwobr i ferch o’r Bala
Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig Ysgol Y Berwyn, Y Bala yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Nid yn unig bydd Anna Prysor Jones, 20, Arenig, Y Bala yn graddio gyda BA Cymraeg a Hanes Cymru ond fe fydd hefyd yn derbyn Gwobr Blanche Elwy Hughes gwerth £100.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
‘Gwell hwyr na hwyrach!’
Mae Lowri Mererid o Fotwnnog yn graddio eleni gyda gradd Ddosbarth Cyntaf o Ysgol y Gymraeg.
Efallai ei bod yn wyneb cyfarwydd i rai yng Nghymru, wedi iddi dreulio bron i ugain mlynedd yn canu fel aelod o Bryn Fôn a’r Band, yn ogystal ac actio.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Mam entrepreneuraidd yn graddio gyda balchder
Cyflawnodd mam leol i dri o blant, Carol Mead, freuddwyd oes drwy raddio gyda BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Myfyriwr Celfyddyd Gain yn ennill Gwobr Goffa
Mae myfyriwr hŷn yn dathlu'r wythnos hon ar ôl ennill gwobr o fri am ei gradd. Mae Sarah Whiteside, myfyriwr BA Celfyddyd Gain, wedi ennill Gwobr Goffa Dr Barbara Saunderson am Gelfyddyd Gain 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Myfyriwr ieithoedd disglair a brwdfrydig yn graddio
Bydd enillydd un o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg ac Eidaleg yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Myfyrwraig arobryn yn graddio
Bydd myfyrwraig dalentog a gweithgar yn graddio'r wythnos hon ar ôl ‘tair blynedd wych ym Mhrifysgol Bangor’.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Cymysgu efo sêr y byd ffilm a phrofi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd
A Bangor University graduate HanJie Chow has been mixing with stars and experienced a life-changing 48 hours during his ‘year abroad’ as part of his studies at Bangor University.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Dyfodol disglair ar ôl plentyndod anodd
Mae myfyrwraig a lwyddodd i oresgyn caledi mawr yn ystod ei phlentyndod wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd. Daw Louise Brinton sy’n 32 oed o Lerpwl yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel Seicolegydd Clinigol er mwyn helpu pobl eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Gofalwr penderfynol yn graddio am yr ail dro gyda balchder
Mae gofalu am berthynas mewn oed wrth weithio'n rhan-amser yn dipyn o dasg, ond mae gwneud hyn wrth astudio am radd yr un pryd yn go arbennig. Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi llwyddo, er gwaethaf pob disgwyl, i weithio, gofalu ac astudio, ac mae'n graddio'r wythnos hon. Mae Emyr Williams, 50, o ogledd Cymru, wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BN (Anrh) mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, ac mae eisoes wedi cael y swydd yr oedd arno'i heisiau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Yr holl fyfyrwyr radiograffeg sy’n graddio eleni wedi cael swyddi
Mae myfyrwyr Radiograffeg blwyddyn olaf sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon i gyd wedi cael swyddi mewn byrddau iechyd amrywiol yng Nghymru a Lloegr
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Prifysgol Bangor yn rhannu anrhydeddau yn ystod wythnos Graddio
Daeth dau gefnder i Brifysgol Bangor i'w hanrhydeddu efo’i gilydd yr wythnos hon (11-17 Gorffennaf 2015).
Roedd y cerddor roc lleol Gruff Rhys a’r troellwr Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens, ill dau yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Bangor yn ystod Seremoni Raddio Ddydd Mercher 15 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2015