Newyddion Graddio a Proffiliau
- Newyddion Graddio a Proffiliau diweddaraf
- Gorffennaf 2020
- Rhagfyr 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Rhagfyr 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Rhagfyr 2017
- Gorffennaf 2017
- Mai 2017
- Rhagfyr 2016
- Gorffennaf 2016
- Ebrill 2016
- Rhagfyr 2015
- Gorffennaf 2015
- Mai 2015
- Gorffennaf 2014
- Gorffennaf 2013
- Gorffennaf 2012
- Holl Newyddion Graddio a Proffiliau A–Y
Holl Newyddion Graddio a Proffiliau A–Y
12 o raddedigion cyntaf Gwyddorau Meddygol o Brifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2015 bydd deuddeg o israddedigion y rhai cyntaf i raddio o’r cwrs arloesol BMedSci Gwyddorau Meddygol o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol, adran academaidd ieuengaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Aaron, pencampwr ffug lysoedd barn, yn ennill ysgoloriaeth o £3,000 i hyfforddi'n fargyfreithiwr
Ar sail ei sgiliau gwych mewn llys barn, mae un o raddedigion y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth o £3,000 i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr. Roedd Aaron Clegg, o Oldham, sy'n graddio'r wythnos hon gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, yn un o ddim ond pedwar ymgeisydd i dderbyn Gwobr Adfocatiaeth y BPP Law School.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Aelod staff yng Nghyngor Gwynedd yn graddio gyda Rhagoriaeth
Dychwelodd aelod staff o Gyngor Gwynedd i fyd addysg a graddio gyda rhagoriaeth ar ôl astudio’n rhan-amser a pharhau i weithio.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016
Alumnus y Flwyddyn 2017
Bob blwyddyn, mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ceisiadau ac yn cynghori'r brifysgol ar ddyfarnu’r wobr Alumnus y Flwyddyn. Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiant eithriadol gan un o raddedigion Bangor yn ei maes dewisol, yn enwedig y rhai sy'n cadw cysylltiad gweithredol â'r brifysgol ar ôl iddynt raddio.
Roedd Prifysgol Bangor yn falch o enwi Ray Footman yn Alumnus y Flwyddyn 2017 yn ystod yr wythnos raddio
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Alumnus y Flwyddyn 2018
Bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ymgeiswyr ac yn cynghori'r Brifysgol ynglŷn â dyfarnu gwobr Alumnus y Flwyddyn. Yn ystod yr wythnos raddio roedd Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi mai Gwilym Rees-Jones yw Alumnus y Flwyddyn 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018
Alumnus y Flwyddyn 2019
Mae gan Brifysgol Bangor bron i 80,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ledled y byd, yn gweithio ym mhob maes a diwydiant y gallwch ddychmygu. Mae’r Brifysgol yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr ac, i dynnu sylw at hyn, bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn dewis Alumnus y Flwyddyn, gan anrhydeddu myfyriwr sydd wedi graddio ym Mangor ac sydd wedi rhagori yn ei faes, ac wedi parhau i ymwneud â'u alma mater. Ymhlith y rhai a dderbyniodd Alumnus y Flwyddyn gynt mae Gwilym Rees-Jones (Mathemateg, 1963), Dr Ross Piper (Sŵoleg, 1998) a Ray Footman (Hanes ac Athroniaeth, 1961).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2019
Amser graddio i fyfyrwraig lwyddiannus o Sir y Fflint
Mae tair blynedd wedi hedfan heibio i fyfyrwraig ddiwyd o Brifysgol Bangor sydd yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Andra: "Roeddwn bob amser yn falch – pa wlad bynnag yr oeddwn ynddi – o ddweud fy mod yn astudio ym Mhrifysgol Bangor"
Mae llawer o fyfyrwyr y Gyfraith yn ymgymryd â lleoliadau mewn swyddfeydd yn ystod eu cyrsiau gradd ond, yn achos un fyfyrwraig o Fangor, nid oedd hynny’n ddigon o her. Cwblhaodd Andra Filimon ddwy interniaeth gydag Adran Ddynladdianau Heddlu Rwmania, lle bu’n ail-greu safle trosedd, yn holi diffynnydd ac yn hwyluso’r gwaith o gyfathrebu â Heddlu Metropolitan Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Anrhydeddu cyfraniadau oes
(Diweddarwyd 5/5 gweler y diwedd) Bydd unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau oes i’r celfyddydau, y gwyddorau a byd busnes, mewn meysydd mor amrywiol â barddoniaeth, llongau rhyngwladol a sŵoleg, yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Bangor er mwyn derbyn anrhydedd am eu gwaith.
Bydd deuddeg o bobl, a restrir isod, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol rhwng 17-21 Gorffennaf i gydnabod y cyfraniad nodedig yn eu meysydd gwaith penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2017
Ar frig y dosbarth: Myfyriwr hŷn, Bryn, yn canfod doniau cudd
Mae myfyriwr hŷn o Ynys Môn, a adawodd yr ysgol gyda 'llond llaw o ganlyniadau TGAU gwael', wedi gorffen ar frig ei ddosbarth ym Mhrifysgol Bangor. Mae Bryn Moore, sy'n 43 oed ac a adawodd yr ysgol yn 16, yn graddio'r wythnos hon gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a'r marciau gorau yn ei flwyddyn yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Arweinydd côr a chanwr talentog o Fôn yn graddio
Wedi tair blynedd o siwrnai gynhyrfus ac ar ôl teimlo allan o’i gynefin at y dechrau, graddio’n hyderus ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon wnaeth myfyriwr dawnus a anwyd ym Môn. Enillodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Syr Thomas Jones, Kiefer Jones, 22, o Amlwch, radd BMus ddosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Ashley ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd o ddod yn fargyfreithiwr ar ôl goresgyn anhwylder gorbryder
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor a fu’n dioddef oddi wrth anhwylder gorbryder am flynyddoedd wedi dod dros ei chyflwr i raddio gyda gradd yn y Gyfraith a Throseddeg. Mae'r gorbryder yn aml yn gwneud i Ashley Covill o Fanceinion deimlo'n ansicr ohoni ei hun a phrin o hunanhyder; gall tasgau syml hyd yn oed, fel cymdeithasu, ei llethu.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Bragwr amatur o Gricieth yn graddio
Yr wythnos hon, graddiodd peiriannydd trydanol lleol, yr oedd ei ymchwil yn ceisio egluro'r ffenomena y tu ôl i boblogrwydd cynyddol y diwydiant bragu crefft yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Byth yn rhy hwyr i ddysgu!
Bydd aelod staff o Lyfrgell Prifysgol Bangor yn ymuno â’r myfyrwyr yn nathliadau’r wythnos raddio, ar ôl cwblhau cwrs ôl-radd rhan-amser gyda’r Ysgol Dysgu Gydol Oes.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Ceri yn mynd y 400 milltir ychwanegol ar gyfer Gofal Dementia a chlefyd Alzheimer
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio'r wythnos hon wedi datblygu angerdd o'r fath ar gyfer ei phwnc, mae hi wedi beicio ar draws Fietnam.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf
Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Circolombia: Acelere
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2017
Cyfreithiwr lleol yn graddio o Brifysgol Bangor
Mae cyfreithiwr lleol sydd â llawer iawn o brofiad ym maes y gyfraith a busnes wedi graddio gydag MBA o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd newydd Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi'r Cymrodoriaethau er Anrhydedd a fydd yn cael eu dyfarnu yn ystod Seremonïau Graddio'r Brifysgol eleni. Cyflwynir y Cymrodoriaethau er Anrhydedd fel rhan o’r seremonïau yn ystod wythnos 15-19 Gorffennaf 2019.
Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn galluogi'r Brifysgol i wobrwyo unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu dewis faes. Dewisir Cymrodyr er Anrhydedd o blith unigolion sy'n gweithio yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â'r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2019
Cymysgu efo sêr y byd ffilm a phrofi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd
Mae HanJie Chow, myfyriwr sydd ar fin graddio o Brifysgol Bangor, wedi bod yn cymysgu â sêr ffilm ac wedi profi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd yn ystod ei ‘flwyddyn dramor’ fel rhan o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Cymysgu efo sêr y byd ffilm a phrofi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd
A Bangor University graduate HanJie Chow has been mixing with stars and experienced a life-changing 48 hours during his ‘year abroad’ as part of his studies at Bangor University.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Cyn Beiriannydd yn y Llynges yn graddio mewn Nyrsio
Ar ôl symud allan o'r cartref teuluol a'i rentu am 3 blynedd i dalu am addysg uwch, bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor yn graddio'r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Cyn Bêl-droediwr Proffesiynol yn graddio
Mae cyn bêl-droediwr proffesiynol a ddaeth yn ôl adref i Ogledd Cymru i astudio ym Mhrifysgol Bangor yn graddio yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Cyn-fyfyriwr nodedig, Yr Athro John Porter, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor
Mae'r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu llwyddiannau mawr cannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Yn ogystal, maent yn gyfle hefyd i gydnabod gorchestion unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig yn eu gwahanol feysydd, drwy gyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2016
Cyn-weithiwr BT yn falch o’i gradd
Mae ysgrifenyddes ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi gwireddu ei breuddwyd o ennill gradd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Dathliadau Graddio Ar-lein
Er mwyn helpu myfyrwyr i ddathlu graddio, yr ydym wedi creu adnoddau sy'n cynnwys cefndiroedd Zoom, sticeri a hidlwyr y gellir eu lawrlwytho i'w defnyddio yn nathliadau ar-lein ein myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2020
Diwrnod arbennig i deulu o Garndolbenmaen
Bydd 13 Gorffennaf yn ddiwrnod arbennig iawn i un teulu o Garndolbenmaen eleni wrth i fam a merch gymryd rhan yr yr un seremoni raddio. Yn camu i’r llwyfan i i dderbyn ei gradd yn y Gymraeg fydd Margiad Elen Lloyd Dobson, 21 a hynny ar ôl i’w mam, Bethan, annerch y gynulleidfa trwy ddarllen cerdd y diweddar Athro Emeritws Gwyn Thomas, ‘Y Coleg ar y Bryn / The College on a Hill’.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016
Dramodydd talentog ifanc yn graddio
Mae dramodydd ifanc lleol wedi graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl tair blynedd o waith caled llwyddiannus sydd wedi arwain at gomisiynu ei ddrama.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu i Lywydd MDIS
Mewn seremoni arbennig, mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu bwysig i Dr Eric Kuan, Llywydd Management Development Institute of Singapore (MDIS).
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2018
Dyfarnu PhD i Ymchwilydd 'Newid Wyneb Tlodi Bwyd'
Gadawodd David Beck yr ysgol yn 1999 gydag ychydig iawn o gymwysterau. Bu'n gweithio fel dyn llefrith a gosodwr brics yn ardal Bolton am 10 mlynedd tan, ynghyd â'i wraig a'i chwech o blant, symudodd i Fangor i astudio ar gyfer ei radd gyntaf. Heddiw, dyfarnwyd PhD mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol i David gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Dyfodol disglair ar ôl plentyndod anodd
Mae myfyrwraig a lwyddodd i oresgyn caledi mawr yn ystod ei phlentyndod wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd. Daw Louise Brinton sy’n 32 oed o Lerpwl yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel Seicolegydd Clinigol er mwyn helpu pobl eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015
Dyfodol disglair mewn maes dylunio
Mae merch o Abergele edrych ymlaen at ddechrau ei gyrfa newydd wedi iddi dderbyn gradd dosbarth cyntaf mewn BSc Dylunio Cynnyrch. Yn ogystal â hyn, derbyniodd Ceri Mair Roberts Wobr Lloyd Jones am Fentergarwch ac Arloesedd yn ei blwyddyn olaf.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Dynes ifanc sydd wedi dod drwy strôc yn graddio
Yn seremonïau graddio gaeaf Prifysgol Bangor fe wnaeth dynes ifanc sydd wedi dod drwy strôc raddio gyda gradd MSc mewn Egwyddorion Niwroseicoleg.
Cafodd Nicola Brown o Lanberis, sy’n 36 oed ac yn fam i ddau o blant, ddiagnosis o ddyslecsia yn 12 oed, a dechreuodd gael ffitiau yn ei chwsg pan oedd yn 17 a dioddef strôc pan oedd yn 24 oed. O ganlyniad i'r strôc, gadawyd Nicola yn rhannol ddall a chollodd y gallu i adalw gwybodaeth yn gywir, ond llwyddodd i oresgyn hyn drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2019
Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, ac o wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a oedd ar gael iddi, mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn graddio gyda balchder.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Enillwyr Gwobrau 2015
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Enillydd Ysgoloriaeth Ragoriaeth yn graddio
Mae gwaith caled ac ymroddiad wedi talu ar ei ganfed i fyfyrwraig o Brifysgol Bangor sy'n graddio’r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Eurliw ar ei ffordd i wireddu ei breuddwyd
Mae Eurliw Hydref Lloyd Williams, 21, yn graddio o Brifysgol Bangor wythnos yma gyda gradd yn y Gyfraith gyda’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Fflur yn ennill gradd dosbarth cyntaf a gwobr uchaf y Brifysgol
Fflur Elin o Donyrefail yw enillydd Gwobr Dr John Robert Jones o fewn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg eleni. Hon yw un o brif wobrau Prifysgol Bangor, sy’n cael ei ddyfarnu i’r graddedigion gorau yn eu maes pwnc.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Gofalwr penderfynol yn graddio am yr ail dro gyda balchder
Mae gofalu am berthynas mewn oed wrth weithio'n rhan-amser yn dipyn o dasg, ond mae gwneud hyn wrth astudio am radd yr un pryd yn go arbennig. Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi llwyddo, er gwaethaf pob disgwyl, i weithio, gofalu ac astudio, ac mae'n graddio'r wythnos hon. Mae Emyr Williams, 50, o ogledd Cymru, wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BN (Anrh) mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, ac mae eisoes wedi cael y swydd yr oedd arno'i heisiau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015
Gradd a gwobr i ferch o’r Bala
Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig Ysgol Y Berwyn, Y Bala yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Nid yn unig bydd Anna Prysor Jones, 20, Arenig, Y Bala yn graddio gyda BA Cymraeg a Hanes Cymru ond fe fydd hefyd yn derbyn Gwobr Blanche Elwy Hughes gwerth £100.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Eira
Mae Eira Winrow, 38, sydd yn wreiddiol o Gaergybi, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth gyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Gradd dosbarth cyntaf i ferch o Lŷn
Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Graddedig o Fangor yn cael swydd fel paragyfreithwraig yn Swydd Gaer
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn hapus iawn i raddio ar ôl tair blynedd anhygoel yn y Brifysgol. Bydd y cyn-fyfyrwraig Coleg Iâl, Keira Jayne Hand, 21, o Rhosllannerchrugog, Wrecsam, yn graddio gyda gradd LLB dosbarth cyntaf yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Gradd Gyntaf a Gwobr i Llio
Bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn dathlu’r wythnos hon drwy raddio gyda gradd dosbarth cyntaf a hefyd ennill gwobr am ei gwaith caled.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Grym llesol y gân yn gyrru llwyddiannau Alistair
I Alistair O’Mahoney, 21 oed ac o Gastell Nedd, roedd dewis astudio Cerddoriaeth yn y brifysgol yn gam cwbl naturiol iddo. Yn perthyn i deulu cerddorol, bu’n derbyn gwersi piano o oed cynnar a bu hefyd yn aelod o fand pres ei sir, gan chwarae ger un o gofgolofnau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf, y Menin Gate, ar safle brwydro Ypres yn ystod un taith dramor â’r band.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019
Gweithiwr cefnogi lleol yn graddio
Yr wythnos hon graddiodd un o staff Cyngor Conwy o Brifysgol Bangor ar ôl astudio'n rhan amser a hynny tra'n gweithio'n llawn amser.
Gwnaeth Andy Foulkes, 49, o Lysfaen, Bae Colwyn, gweithiwr cefnogi gyda Gwasanaethau Plant Conwy, raddio'r wythnos hon gyda BA mewn Astudiaethau Bioseicogymdeithasol mewn Defnyddio Sylweddau o'r Ysgol Dysgu Gydol Oes.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2014
Gweithiwr siop yn ennill gwobr a Gradd Cyntaf
Mae myfyriwr ôl-raddedig hŷn, a adawodd yr ysgol yn 15 oed, yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
‘Gwell hwyr na hwyrach!’
Mae Lowri Mererid o Fotwnnog yn graddio eleni gyda gradd Ddosbarth Cyntaf o Ysgol y Gymraeg.
Efallai ei bod yn wyneb cyfarwydd i rai yng Nghymru, wedi iddi dreulio bron i ugain mlynedd yn canu fel aelod o Bryn Fôn a’r Band, yn ogystal ac actio.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Gwirfoddolwr arbennig yn graddio
Mae cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl manteisio ar yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018
Gwirfoddolwr ChildLine yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon, ar ôl manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Gwobr a Gradd Dosbarth Cyntaf i fyfyrwraig hŷn
Mae myfyrwraig hŷn sydd wedi ennill gwobr yn edrych ymlaen at ddyfodol gwell ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Gwobr a gradd i wirfoddolwr
Mae myfyriwr a fu’n gwirfoddoli drwy gydol ei gyfnod yn y brifysgol, yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Gwobrau i fyfyrwyr coedwigaeth yn Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 2016
Gwobrwywyd cyfanswm o 59 o fyfyrwyr coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2016, gan gynnwys myfyrwyr a oedd wedi cwblhau rhaglenni israddedig, ôl-raddedig a dysgu o bell.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016
Gyrfa academaidd yn denu Emma
Mae myfyriwr lleol ar ei ffordd i ddilyn gyrfa academaidd ar ôl derbyn ei gradd ôl-radd yn seremoni raddio’r gaeaf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Graddiodd Emma Sarah Hughes, sy’n 22 oed o Fangor ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan, gyda MRes mewn Rheoli a Chyfrifeg yn Ysgol Busnes Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015
HND yn mynd â Dyfan o ddiweithdra i yrfa newydd addawol
Mae dyn o Ynys Môn a gafodd ei wneud yn ddi-waith yn dathlu dechrau gyrfa newydd mewn cyfrifeg ar ôl iddo raddio o Brifysgol Bangor. Pan wnaeth Dyfan Phipps, o Fenllech, golli ei swyddi gyda chwmni paratoi cyflogau McKesson yn 2011, penderfynodd ddychwelyd i fyd addysg a dilyn ei ddiddordeb oes mewn busnes a chyllid.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Holl rym y Gyfraith – gradd dosbarth cyntaf i Sioned ar ôl cofleidio profiadau newydd
Gyda'i golygon wedi eu gosod ar yrfa yn y maes cyfreithiol ers yr oedd yn ifanc iawn, mae myfyrwraig Prifysgol Bangor wedi dod gam yn nes at gyflawni ei breuddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Hyrwyddwr hawliau plant yn graddio
Yn dilyn cael ei hysbrydoli i ddilyn cwrs addysg uwch gan arolygydd ysgolion y llywodraeth, mae mam i ddau sy’n ymarferydd gofal plant wedi llwyddo i gyfuno bywyd teuluol ac astudio'n llawn amser gan raddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Jessica yn trosi ei hangerdd dros chwaraeon yn ymchwil rygbi
Mae myfyrwraig a ymgeisiodd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy wasanaeth UCAS Extra, a hynny ar ôl newid ei dewis faes astudio, yn graddio heddiw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
Kate 'fentrus' yn ennill gradd dosbarth cyntaf
Mae myfyriwr hŷn o Brifysgol Bangor, sydd wedi dilyn llwybr gwahanol i'r arfer yn ei bywyd a'i haddysg, yn teimlo ei bod wedi 'cyflawni rhywbeth o'r diwedd' ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd Kate Maura Jones, 28, o Lanberis gyda BA dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol er iddi gael diagnosis o ddyslecsia a dyspracsia, ac er iddi orfod jyglo gofynion gwaith a phêl-fasged ar yr un pryd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Kieran yn gwireddu ei freuddwyd drwy ennill gradd mewn cyfrifiadureg
Mae myfyriwr Cyfrifiadureg, sydd wedi mwynhau pob eiliad o'i amser ym Mhrifysgol Bangor, yn graddio yr wythnos hon. Mae Kieran Bold, 21, o Landrillo-yn-Rhos, wastad wedi bod ag angerdd ynghylch cyfrifiadureg, ac wedi blogio am gemau amrywiol ers iddo fod yn 15 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016
Llongyfarchiadau i dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n graddio yn Tashkent
Hoffem longyfarch dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi graddio yn Tashkent yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019
Llunio cais i Fangor yn Benderfyniad dosbarth-cyntaf i Rebecca
Wrth ddarllen drwy ei negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, gwelodd Rebecca Holian gyfle a newidiodd gwrs ei bywyd a'i galluogi i wireddu breuddwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Llwyddiant cerddorol i Cara
Mae merch o Gricieth yn dathlu ar ôl llwyddo i orffen ei gradd yn ogystal â datblygu ar ei gyrfa gerddorol.
Cafodd y fyfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau, Cara Braia, 22, flas ar fyd cerddoriaeth wedi iddi ennill cystadleuaeth ar-lein am ail ddehongli cân glasurol grŵp poblogaidd o’r 60au The Kinks. O ganlyniad, mae hi wedi cydweithio gyda gwahanol artistiaid a chynhyrchwyr o bob cwr o'r byd. Mae Cara newydd ddychwelyd yn ôl o LA ble aeth i hyrwyddo ei gyrfa.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014
Llwyddiant mewn Cemeg i ŵr lleol
Mae cyn-ddisgybl o Ysgol Tryfan yn falch iawn o fod yn graddio'r wythnos hon ar ôl tair blynedd o waith caled.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013
Llysgennad Chwaraeon Ifanc yn Graddio
Bu i Jamie Turley, a gludodd y dorch Olympaidd a baton Gemau'r Gymanwlad, raddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Louis yn dathlu ei 'radd dosbarth cyntaf!
Louis Rhys Waters, 21, from Pencoed, Bridgend, is graduating from Bangor University with a first class degree in Journalism and Media Studies this week.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Mae Catrin yn fam 'Dosbarth Cyntaf'
Mae mam ifanc ymroddgar a lwyddodd i wneud gradd yn ogystal â gofalu am ei merch fach a gwneud swydd ran-amser yn dathlu'r wythnos yma wrth iddi raddio o Brifysgol Bangor gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Roedd Catrin Nia Hughes, o Langefni, yn gweithio fel rheolwr cynorthwyol i Spar pan benderfynodd bod yr amser wedi dod am newid gyrfa.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Mae’r seren garate Emma yn rhagori y tu fewn a’r tu allan i’r dosbarth
Mae myfyrwraig leol sy’n dwlu ar garate yn dathlu math gwahanol o lwyddiant yr wythnos hon, wrth iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd ddosbarth cyntaf mewn Busnes a Chyfrifeg.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Mam arobryn yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig arobryn o Brifysgol Bangor yn graddio’r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Mam entrepreneuraidd yn graddio gyda balchder
Cyflawnodd mam leol i dri o blant, Carol Mead, freuddwyd oes drwy raddio gyda BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Mam o Abersoch yn jyglo gwaith ac astudiaethau i ennill gradd dosbarth cyntaf
Mae Natasha Roberts o Abersoch, wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ar ôl goresgyn llawer o rwystrau yn ystod ei hastudiaethau
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Mam yn dathlu ar ôl tair blynedd heriol
Bydd mam i bedwar o blant sydd wedi wynebu sialensiau yn ystod ei chyfnod gradd yn graddio’r wythnos hon mewn BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gadawodd Beverly Price ei gwaith er mwyn magu ei phlant, un sydd gydag awtistiaeth a phlentyn arall gyda nam ar y golwg. Ar ôl i’w phlant ddod i oed ysgol, gwnaeth Beverly gwrs yng Ngholeg Menai. Yno, cafodd ei hannog i roi cais i wneud gradd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014
Mared – o arwain y genedl ar FFIT Cymru i arwain dosbarth!
Mae myfyriwr a ysbrydolodd y genedl fel arweinydd ar y gyfres boblogaidd FFIT Cymru yn graddio o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Mark yn paratoi at daith feicio o amgylch y byd
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn paratoi at daith feicio arbennig iawn o gwmpas y byd ar ôl iddo raddio'r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013
Medalau Hanesyddol yn mynd i ocsiwn
Bydd medalau a fu’n perthyn i wyddonydd o Fangor yn mynd i ocsiwn yr wythnos yma (Iau 21 Gorffennaf).
Y medalau a ddyfarnwyd i Dr Harold King yw Lot 167 a 168 yng ngwerthiant ‘Orders, Decorations, Campaign Medals and Militaria’ Spink.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016
Merch leol yn dathlu ei gradd Addysg
Yn ymfalchïo o weld beth mae gwaith caled yn gallu cyflawni, bydd darpar athrawes o Ynys Môn yn derbyn gradd 2:1 o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013
Merch o Borthmadog yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Merch o Lŷn yn graddio
Fe wnaeth profiad gwaith arwain at swydd i fyfyrwraig sy’n graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyriwr a enillodd lu o wobrau yn graddio
Mae myfyriwr lleol wedi llwyddo i ennill cyfanswm trawiadol o chwe gwobr yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor dros y pedair blynedd diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Myfyriwr amaethyddol y flwyddyn yn graddio
Ni fydd myfyriwr o Brifysgol Bangor sy’n graddio'r wythnos hon fyth yn anghofio’r teimlad anhygoel o dderbyn canlyniadau ei radd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyriwr arobryn yn graddio
After a strong performance throughout his studies, an award-winning student from Bangor University graduated this week. As well as graduating with a first class BA History degree, Sean Martin, 27, also won the Dr John Robert Jones Prize of £1,500, which is awarded annually to three of the best students across all disciplines at the University.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016
Myfyriwr arobryn yn graddio
Bydd cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn dathlu ei lwyddiant yn seremoni graddio Prifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Myfyriwr arobryn yn graddio
Yr wythnos hon, graddiodd myfyriwr o Brifysgol Bangor sy’n teimlo’n angerddol dros yr amgylchedd ac sydd â’i fryd ar ddyfalbarhau i ganfod ffyrdd newydd o greu datblygiad sy’n dderbyniol yn gymdeithasol, yn garedig i’r amgylchedd ac yn gynaliadwy yn economaidd.
Enillodd Alex Spichale, 47, o Gyffordd Llandudno, Conwy MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol gyda rhagoriaeth o Ysgol Busnes Bangor, ynghyd â Gwobr Magnox, werth £200, am y myfyriwr gorau ar y cwrs trwyddo draw.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015
Myfyriwr arobryn yn paratoi ar gyfer astudio PhD
Mae gweithio’n galed a bod yn benderfynol wedi talu ar ei ganfed i fyfyriwr o Brifysgol Bangor yr wythnos hon wrth iddo raddio â gradd dosbarth cyntaf yn ogystal ag ennill rhai o brif wobrau’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Myfyriwr Celfyddyd Gain yn ennill Gwobr Goffa
Mae myfyriwr hŷn yn dathlu'r wythnos hon ar ôl ennill gwobr o fri am ei gradd. Mae Sarah Whiteside, myfyriwr BA Celfyddyd Gain, wedi ennill Gwobr Goffa Dr Barbara Saunderson am Gelfyddyd Gain 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Myfyriwr Gwneud Ffilmiau yn graddio
Yr wythnos hon, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor a’i fryd ar fusnes yn graddio ar ôl tair blynedd o waith caled a dechrau disglair i’w yrfa fel gwneuthurwr ffilmiau.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyriwr gyda’r canlyniadau gorau yn ei flwyddyn olaf yn graddio
Bydd myfyriwr lleol yn derbyn gwobr yn ystod ei seremoni raddio'r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyriwr ieithoedd disglair a brwdfrydig yn graddio
Bydd enillydd un o Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg ac Eidaleg yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill grant wnaiff newid ei fywyd i ddatblygu ei syniad technoleg addysg
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i feddwl am syniadau am offer ac apps digidol newydd ar gyfer dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016
Myfyriwr y gyfraith yn cipio gwobr chwaraeon
Mae Adran Hamdden a Chwaraeon Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Gwobr Goffa Llew Rees eleni i Benjamin Pritchard, myfyriwr sy’n astudio’r Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyriwr y gyfraith yn ennill ei hachos llys gyntaf CYN graddio
Aeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a ddioddefodd gwahaniaethu yn y gwaith, â'i chyn-gyflogwr i'r llys ac ennill yr achos - cyn gorffen ei gradd yn y gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2013
Myfyriwr ysbrydoledig yn graddio ar ôl brwydro yn erbyn canser
Bydd myfyriwr technolegau creadigol yn graddio eleni gyda gradd ddosbarth gyntaf, er iddo orfod brwydro yn erbyn canser yn ystod ail flwyddyn ei gwrs. Yn goron ar y cyfan mae Ronald Rodriguez Winter (Ronnie) hefyd wedi ennill Gwobr Jane Rudall mewn cydnabyddiaeth o’i benderfyniad a’i waith caled yn ystod ei astudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Myfyrwraig arobryn yn graddio
Bydd myfyrwraig dalentog a gweithgar yn graddio'r wythnos hon ar ôl ‘tair blynedd wych ym Mhrifysgol Bangor’.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015
Myfyrwraig Busnes arobryn yn graddio
A prize-winning, former Welshpool High School pupil celebrates her success at Bangor University’s graduation ceremony this week.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyrwraig Bydwreigiaeth y Flwyddyn yn graddio
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi gwireddu ei breuddwyd yr wythnos hon, drwy raddio ym maes Bydwreigiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Myfyrwraig Nyrsio Ddawnus yn Graddio
Ar ôl gwaith caled a dyfalbarhad, bydd myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn graddio gyda gradd dosbarth cyntaf Baglor Nyrsio - Anableddau Dysgu yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn dathlu graddio er cof am ei mhâm diweddar
Rhyddhad, hapusrwydd, ofn a thristwch - dyma rhai o'r emosiynau y bydd myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor yn teimlo yn ystod ei seremoni graddio'r wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn mynd a busnes lleol o nerth i nerth
Byddai rhedeg busnes yn her fawr i'r rhan fwyaf ohonom, ond bu myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn gwneud hynny ac astudio at ei gradd ar yr un pryd. Graddiodd Rebecca Orford, sy'n 21 oed ac yn dod o Lanfairpwll, gyda BSc Cadwraeth Amgylcheddol yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyrwraig o'r Rhyl yn ennill dosbarth cyntaf a gwobr er gwaethaf trychineb llifogydd 2013
Bydd myfyrwraig o'r Rhyl yn derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon er i'r llifogydd enbyd a darodd arfordir gogledd Cymru yn 2013 ddifrodi ei chartref.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Myfyrwyr o Ogledd Cymru ar y brig yn eu dosbarth
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu llwyddiant yr wythnos hon wrth iddynt raddio â'r marciau uchaf yn eu blwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Nofel gyntaf yn ennill gwobr a doethuriaeth
Mae nofel a ysgrifennwyd fel rhan o gwrs ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chyhoeddi ac wedi ennill gwobr The Write Factor Shortlist Award, 2014 i’r awdur newydd, Rhian Waller.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Nyrs nawr yn ddoctor
Bydd Charlotte Hillier yn graddio o Brifysgol Bangor am y trydydd gwaith wrth iddi dderbyn Doethuriaeth mewn Astudiaethau Rheoli yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
O Draeth Bondi i Fangor: “fy mhenderfyniad gorau erioed!”
Mae merch o Kilkenny a deithiodd o Awstralia i Gymru er mwyn dilyn ei breuddwyd o astudio’r Gyfraith yn dathlu ar ôl gwireddu uchelgais oes. Roedd Belinda Bambrick, cyn-ddisgybl o Yates College, Waterford, yn byw a gweithio yn Sydney pan benderfynodd fod yr amser wedi dod iddi ddilyn cwrs gradd yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
O fyfyrwyr coleg i raddedigion prifysgol: pedair ffrind yn dathlu carreg filltir arall gyda'i gilydd
Mae grŵp o fyfyrwyr a symudodd o goleg i brifysgol yn dathlu carreg filltir arall yn eu cyfeillgarwch yr wythnos hon wrth iddynt raddio o Brifysgol Bangor. Daeth Gwenno Williams, Nia Gwynedd, Medi Griffiths a Catrin Williams yn ffrindiau mawr fel myfyrwyr ar y cwrs lefel A mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
O lawr y siop i uchelfannau ymchwil â phlant
Bu mynd i’r brifysgol wastad yn freuddwyd gan Claire Hodgkinson ond, ar ôl cwblhau ei arholiadau Lefel A dros ugain mlynedd yn ôl, ni allai weld llwybr gyrfa yn ffurfio o’i blaen, felly, yn hytrach na dewis maes pwnc ar fympwy i’w ddilyn am dair blynedd, penderfynodd ymuno â rhaglen rheoli yn y sector mân-werthu.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
“O’r diwedd!” Gŵr a gwraig yn graddio gyda’i gilydd
Byddai'r rhan fwyaf ohonom â digon ar ein plât yn gweithio’n llawn-amser ac yn magu tri o blant bach; ond mae cwpl o Ynys Môn wedi llwyddo i raddio gyda’i gilydd o Brifysgol Bangor yr wythnos hon ar ôl astudio’n rhan-amser.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
O UMCB a JMJ i’r BBC – profiad prifysgol yn hyfforddiant perffaith i Liam
O bosib fod gwrandawyr BBC Radio Cymru wedi clywed llais newydd yn adrodd straeon newyddion y gogledd-ddwyrain yn ddiweddar. Mae Liam John Evans, 21 oed ac yn hannu o Hen Golwyn, bellach yn newyddiadurwr gyda’r orsaf genedlaethol, er nad yw eto wedi derbyn ei radd BA mewn Cymraeg a Hanes – digwyddiad a fydd yn siŵr o ennyn llawennydd mawr gan ei deulu a’i gyfeillion fore Mawrth 17 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Peiriannydd dawnus o’r Bala yn mynd ymlaen i astudio PhD
Ar ôl pedair blynedd o waith caled, bydd peiriannydd dawnus yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Pencampwraig Rafftio Dŵr Gwyn Ewrop yn Ennill Doethuriaeth
Mae myfyrwraig a ddechreuodd rafftio dŵr gwyn tra roedd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd wedi cynrychioli Prydain Fawr yn y gamp, newydd ychwanegu at y graddau sydd ganddi o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2015
Perchennog Busnes Gemwaith Llewyrchus o Ogledd Cymru yn Graddio
Mae gadael sicrwydd swydd fel athrawes yn fenter sydd wedi talu ar ei ganfed i entrepreneur lleol. Yr wythnos hon gall ychwanegu cael gradd meistr â rhagoriaeth at ei rhestr o lwyddiannau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016
Prifysgol Bangor Bahrain yn Dathlu Graddio
Llongyfarchiadau i'r 87 o fyfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar o'r Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF).
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2019
Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cymrodorion er Anrhydedd 2016
Bydd dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb, cantores opera, a’r ddynes sydd yn y swydd uchaf yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, ymysg yr unigolion a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-15 Gorffennaf 2016).
Bydd Nigel Owens, sy’n cael ei ystyried yn un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i rygbi.
Bydd Elin Manahan-Thomas, cantores soprano a ystyrir yn soprano gorau ei chenhedlaeth gwledydd Prydain yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i gerddoriaeth.
Dyrchafwyd yr Uwchfrigadydd Susan Ridge, Prif Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Fyddin, i’w swydd bresennol yn 2015, a hi yw’r ddynes â’r swydd amlycaf yn Lluoedd Arfog Gwledydd Prydain. Mae’n gyfrifol am 130 o gyfreithwyr. Graddiodd Susan Ridge o Brifysgol Bangor yn 1984 gyda gradd mewn Hanes. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i’r Gyfraith.
Mae’r tri uchod ymysg 14 Cymrodoriaeth er Anrhydedd a gânt eu dyfarnu i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig yn eu meysydd dethol, boed hynny mewn diwydiant, busnes, bywyd cyhoeddus neu’r celfyddydau. Byddant yn cael eu hanrhydeddu ynghyd â’r myfyrwyr sy’n graddio o’r brifysgol eleni yn un o’r seremonïau graddio a gynhelir rhwng 11 a 15 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016
Prifysgol Bangor yn cyhoeddi enwau’r unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau’r unigolion hynny sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol eleni.
Mae’r Brifysgol yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn gwobrwyo unigolion sydd â chysylltiad â’r Brifysgol neu â Chymru, er mwyn nodi eu cyfraniad nodedig i’w meysydd penodol.
Bydd deg unigolyn yn derbyn Cymrodoriaeth eleni a bydd y cyflwyniadau yn digwydd yn ystod Wythnos Graddio’r Brifysgol, rhwng 16-20 Gorffennaf eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018
Prifysgol Bangor yn Dathlu'r Wythnos Raddio
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu wythnos arall o seremonïau graddio'r brifysgol yr wythnos hon (15-19 Gorffennaf 2019).
Bydd y brifysgol yn croesawu ffrindiau a theuluoedd myfyrwyr i ddeg seremoni dros bum niwrnod i gydnabod llwyddiannau graddedigion newydd y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2019
Prifysgol Bangor yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod Wythnos Graddio 2016
Bydd rhai graddedigion ffodus yn clywed y gantores opera enwog yn canu yn ystod un o’r 10 Seremoni Graddio sydd i’w gynnal ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos nesaf, wrth i’r seren opera enwog, Elin Manahan-Thomas dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod eu seremoni.
Mae’r ddynes sydd yn y swydd uchaf yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, cerflunydd o fri, cyflwynwraig teledu ac actor hefyd ymysg yr unigolion eraill a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-15 Gorffennaf 2016). Byddant yn ymuno â dros 3,000 o fyfyrwyr yn Neuadd Prichard-Jones ysblennydd y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Prifysgol Bangor yn rhannu anrhydeddau yn ystod wythnos Graddio
Bydd naws cerddoriaeth gyfoes i Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor eleni wrth i’r Brifysgol anrhydeddu’r cerddor lleol Gruff Rhys a’r troellwr Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens.
Maent ymysg yr unigolion a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-17 Gorffennaf 2015).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015
Prifysgol Bangor yn rhannu anrhydeddau yn ystod wythnos Graddio
Daeth dau gefnder i Brifysgol Bangor i'w hanrhydeddu efo’i gilydd yr wythnos hon (11-17 Gorffennaf 2015).
Roedd y cerddor roc lleol Gruff Rhys a’r troellwr Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens, ill dau yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Bangor yn ystod Seremoni Raddio Ddydd Mercher 15 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2015
Prize winning student overcame a serious illness to graduate
A prize winning student overcame a serious illness to graduate at the top of her class at Bangor University this week.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Proffil Graddio – Alec Jukes
Mae Alec yn 23 ac o Forfa Nefyn. Mae'n derbyn gradd MSc mewn Bioleg Foleciwlaidd Feddygol gyda Geneteg (gyda Rhagoriaeth)
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2019
Proffil Graddio: Arddun Rhiannon Arwel - BA (Anrh) Cymraeg
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Proffil Graddio: Claire Golding
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2019
Proffil Graddio: Elin Lloyd Wallace - BA Ffrangeg a Sbaeneg
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Proffil Graddio: Gwenlli Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Proffil Graddio: Lleucu Myrddin
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019
Proffil Graddio: Osian Wyn Owen – BA Cymraeg
Mae Osian Wyn Owen, 21, o’r Felinheli wedi derbyn gradd BA Cymraeg dosbarth-cyntaf a hefyd wedi ennill Gwobr John Morris-Jones am y canlyniad gorau yn y drydedd flwyddyn. Mae hefyd wedi ennill gwobr Dr John Robert Jones sy’n cael ei dyfarnu’n flynyddol i'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Proffil Graddio: Teleri Wyn Davies - Y Gyfraith LLB
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018
Proffil Unigolyn sy'n Graddio: Emma Watson
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Profiad newydd i fam leol
Mam ifanc a adawodd yr ysgol yn 16 oed yn dweud fod astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi newid ei bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Rhoi prawf ar waith arwyddocaol yn fyd-eang gan fyfyriwr a raddiodd o Fangor
Bydd polisi byd-eang newydd, a gychwynnwyd gan fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei brofi am y tro cyntaf, yn awr bod mynydd iâ anferthol, yr amcangyfrifir iddo fod yn fwy na chwarter maint Cymru, wedi torri'n rhydd o Antarctica.
Mae'r gŵr a raddiodd o Fangor, Dr Philip Trathan, yn arwain Bioleg Gadwraethol yn yr Arolwg Antarctig Prydeinig (British Antarctic Survey - BAS) byd-enwog. Un o'i lwyddiannau diweddar oedd gweld polisi yr oedd wedi ei gychwyn a'i wthio drwy nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, o'r diwedd, yn cael sêl bendith y Comisiwn Cadwraeth Adnoddau Bywyd Môr yr Antarctig (CAMLEOLIR).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Saran yn dathlu derbyn ei gradd yn y Gyfraith
Mae Saran Enfys Jones, 25, o Llanfair PG, Ynys Môn, wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda 2:1 yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd dros 300 gradd i fyfyrwyr yn y seremoni raddio’r gaeaf Prifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016
Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd graddau i dros 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio gaeaf Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn ystod y seremoni, llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes yr holl raddedigion, a mynegodd ei ddiolch i’w rhieni, teuluoedd a chyfeillion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2017
Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd graddau i dros 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio gaeaf Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn ystod y seremoni, llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes yr holl raddedigion, a mynegodd ei ddiolch i’w rhieni, teuluoedd a chyfeillion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2017
Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd graddau i dros 500 o fyfyrwyr yn seremonïau graddio gaeaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Seremoni Raddio y Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd dros gant ac ugain gradd ôl-raddedig i fyfyrwyr yn y seremoni raddio gyntaf i’w chynnal yn y gaeaf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015
Steffie'n dod draws sawl rhwystr i gael gradd dosbarth cyntaf
Mae Steffie Williams Roberts o Fangor wedi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn Y Gyfraith o Brifysgol Bangor er gwaethaf dod dros lawer o rwystrau yn ystod ei hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Stephanie ar y ffordd i'w gyrfa ddelfrydol
Mae myfyrwraig o ogledd Cymru, sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma, ar y ffordd yn bendant i'w gyrfa ddelfrydol ar ôl sicrhau swydd dros dro yn Sw Caer. Bu Stephanie Davies, 27, o Gei Connah, Sir y Fflint, yn astudio am dair blynedd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol gan ennill gradd dosbarth cyntaf BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015
Swydd cyfieithu i ferch o Fôn cyn graddio
Mae myfyrwraig o Ynys Môn wedi dechrau swydd llawn amser fel Cyfieithydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd cyn iddi raddio!
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Swydd gyda’r Cyngor i Sian cyn iddi raddio
Graddiodd merch ifanc o Lŷn sydd wedi cael swydd lawn-amser gyda Chyngor Gwynedd cyn iddi ddarfod ei chwrs ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2014
Traddodiad Teuluol o astudio ym Mangor yn parhau
Bydd myfyrwraig o Feirionnydd yn parhau â thraddodiad teuluol drwy fynd ymlaen i addysgu ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon. Bydd Awel Pyrs Evans, 21, o Lanfachreth, Dolgellau yn derbyn gradd BA Addysg Gynradd (SAC) ar ôl astudio yn Ysgol Addysg y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015
Tro Gerallt i dderbyn sylw
Mae ffotograffydd o fri, sydd yn gyn-gynghorydd sir yng Ngwynedd, yn hynod falch o fod yn graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016
Victoria, mam i dri, yn cael marciau uchaf - ac ysgoloriaeth
Yr wythnos yma mae myfyriwr hŷn a lwyddodd i gael gradd ragorol yn y Gyfraith, cael babi a gofalu am ferch anabl, yn graddio o Brifysgol Bangor. Mae hefyd wedi ennill ysgoloriaeth £8,000 i hyfforddi i fod yn fargyfreithiwr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Wedi eu cysylltu drwy lwyddiant – mam a merch yn graddio
Bydd cyswllt un teulu o Garndolbenmaen â llwyfan Neuadd PJ yn parhau eleni, wrth i fam a merch raddio yn ystod yr wythnos a thrwy wneud hynny, ddilyn yn ôl troed y ferch a’r chwaer hynaf a raddiodd o’r Brifysgol yn 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2018
Wythnos Graddio Prifysgol Bangor 2012: Gorffennaf 14 -20
Bydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn tair seremoni ar ddeg, i’w gynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (14-20 Gorffennaf 2012). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant. Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012
Wythnos o ddathlu llwyddiannau graddio myfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Yn benderfynol o wireddu’r freuddwyd – Jade yn graddio fel Bydwraig Dosbarth Cyntaf
Er mai bod yn fydwraig fu ei breuddwyd erioed, chwaraeodd amgylchiadau eu rhan a golygu y bu rhaid i Jade Parsons roi y freuddwyd honno o’r neilltu.
 hithau wedi adael yr ysgol yn un ar bymtheg oed heb unrhyw gymwysterau a dod yn feichiog yn fuan wedi hynny, golygodd bod yn rhaid i Jade, o Dreffynnon, neilltuo ei holl egni ac amser ar fagu ei theulu ifanc
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2019
Yn ôl i'r ysgol i Kerry sydd a'i bryd ar fod yn athrawes
Yn ôl i'r ysgol fydd hanes un o raddedigion Prifysgol Bangor wrth iddi anelu am Lundain i weithio mewn ysgol haf ryngwladol. Dim ond dyddiau ar ôl graddio gydag anrhydedd 2:1 mewn y Gyfraith a Ffrangeg, bydd Kerry Westgate yn dechrau fel Arweinydd Gweithgaredd gydag Embassy Summer, sef cynllun ysgol haf ym Mhrydain i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau dysgu Saesneg neu ei wella.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2015
Yr holl fyfyrwyr radiograffeg sy’n graddio eleni wedi cael swyddi
Mae myfyrwyr Radiograffeg blwyddyn olaf sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon i gyd wedi cael swyddi mewn byrddau iechyd amrywiol yng Nghymru a Lloegr
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2015