Graddio 2024

Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw

#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol

Bydd y dolenni hyn yn fyw  9yb 18 Mawrth 2024

Cofrestru yma; Myfyriwr Presennol

Cofrestru yma; Cyn-fyfyriwr

Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn 9yb 19 Ebrill 2024 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (i'r dde) o 18 Mawrth 2024 ymlaen er mwyn cofrestru

Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 19 Ebrill 2024

Ar y diwrnod:

 Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.

Dylai myfyrwyr yn unig gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,

Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn 19 Ebrill 2024

Gallwch archebu tocynnau ar-lein drwy'r ddolen yn yr ebost

Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn (TBC)  ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.

Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein am 9yb 28 Mai 2024 drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n costio (am ddim) yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.

Dim ond ar-lein y gellir prynu tocynnau

I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.

Casglu Tocynnau

Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.

Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu 30 munud cyn dechrau'r seremoni.

Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni.  Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn.  O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.

Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd.  Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hŷn gael tocyn  i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau.  Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.

Gwesteion ychwanegol:

Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn

 

Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.

Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o 18 Mawrth 2024 ymlaen Gwisg Academaidd. Dyddiad cau i archebu ar-lein yw 24 Mehefin 2024

Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau'r Haf wedi'u cadarnhau fel 8 - 12 Gorffennaf 2024

Os oes angen llythyr visa ar gyfer fisa ar unrhyw fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer eu gwesteion sy'n dymuno mynychu graddio, byddwch yn gallu gofyn am hwn pan fyddwch chi'n archebu'ch tocynnau gwestai ar-lein ym mis Ebrill.

Diwrnod

Dyddiad

                               Ysgol

Llun

8 Gorffennaf

1

10.00 am

Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau

(holl israddedigion)

Addysg

(holl israddedigion)

2

2.30 pm

Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau

(pob gradd ôl-raddedig ac ymchwil)

Addysg

(pob gradd ôl-raddedig ac ymchwil)

Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

(pob gradd ôl-raddedig ac ymchwil)

Mawrth

9 Gorffennaf

3

10.00 am

Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

(holl israddedigion)

4

2.30 pm

Cyfrifiadureg a Pheirianneg

Gwyddorau Eigion

Mercher

10 Gorffennaf

5

tbc

Ysgol Busnes Bangor

6

tbc

Ysgol Busnes Bangor

Iau

11 Gorffennaf

7

10.00 am

Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon

(holl israddedigion)

8

2.30 pm

Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon 

(pob gradd ôl-raddedig ac ymchwil)

Gwyddorau Iechyd

(pob gradd ôl-raddedig ac ymchwil)

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

(holl israddedigion)

Gwener

12 Gorffennaf

9

10.00 am

Gwyddorau Iechyd

(holl israddedigion)

10

2.30 pm

Gwyddorau  Amgylcheddol Naturiol


 

 

 

 

Gwasanaeth bws ar gael yn ystod y seremoniau raddio (amseroedd bras) 

Gorsaf Trên Bangor 

Cilfan Pontio  

Maes Parcio Safle Stryd y Deon 

Prif Adeilad 

8.30am 

8.40am 

8.50am 

9.00am 

9.10am 

9.20am 

9.30am 

9.40am 

 

 

 

 

11.30am 

11.40am 

11.50am 

12 noon 

12.10pm 

12.20pm 

12.30pm 

12.40pm 

 

 

 

 

14.30pm 

14.40pm 

14.50pm 

15.00pm 

15.10pm 

15.20pm 

15.30pm 

15.40pm 

 

 

 

 

17.10pm 

17.20pm 

17.30pm 

17.40pm 

Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.

Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.

A group of students throwing their caps in their air after their graduation ceremony

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i atebion am yr holl gwestiynau cyffredin ynglŷn â'n seremonïau graddio.

A group of female students in taking a selfie on their graduation day

WEDI I CHI RADDIO

Wedi i chi raddio byddwch yn aelod o'n cymuned alumni am byth. Bydd ein Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn cadw mewn cysylltiad â'n holl alumni wedi i chi raddio fel ein bod yn gallu eich diweddaru ar ddatblygiadau'r Brifysgol a rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau penodol ar gyfer ein alumni.

Newyddion Graddio

Grŵp o ferched yn gwenu i'r camera yn ystod diwrnod graddio

Lluniau Grŵp Graddio 2023

 

Mae Lluniau Grŵp - Seremonïau Graddio Haf  2023 nawr ar gael i chi eu gweld a’u prynu drwy ddolen Ede & Ravenscroft isod:

Memorabilia

Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen nawr! Rydym wedi ymuno â’r anhygoel Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o Anrhegion a Dillad Graddio Swyddogol wedi’u brandio. O hwdis moethus a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, mygiau, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio'ch seremoni radio. Gallwch hyd yn oed ei bersonoleiddio i wneud i'ch enw sefyll allan hefyd!

Dewch i ymweld â stondin cyfeillgar Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd casgliad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad.

Fel arall, porwch yr ystod lawn o Anrhegion a Dillad Graddio ac archebwch nwyddau graddio wedi’u personoleiddio ar-lein i'w danfon gartref.

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?