Hanes BA (Anrhydedd)

Cod UCASV100
CymhwysterBA (Anrhydedd)
Hyd3 blwyddyn
Modd AstudioLlawn amser
Cynnig nodweddiadol112–120 pwyntiau Tariff UCAS

Rhagarweiniad i’r Cwrs

Mae Hanes yn bwnc ysbrydoledig, deinamig a pherthnasol. Mae’n wastad yn ehangu ac yn newid i amsugno syniadau newydd ac i ofyn cwestiynau newydd o’r gorffennol. Bydd astudio hanes yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n cael eu hystyried yn werthfawr gan gyflogwyr, fel y gallu i gasglu a dadansoddi data ac i lunio dadl glir.

Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?

  • Mae Hanes yn radd eang sy’n cynnig ystod o opsiynau
  • Bydd cyfle i chi astudio ystod o gyfnodau a gwledydd, canolbwyntio ar gyfnodau penodol neu astudio hanes Prydeinig neu Ewropeaidd yn bennaf.
  • Mae gennym arbenigedd mewn hanesmodern a chyfoes yn ogystal ag mewn hanes canoloesol, modern cynnar, hanes Cymru, archaeoleg a threftadaeth.
  • Mae hanes yn ddwfn yn yr ardal leol ac mae’r safleoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol ar garreg ein drws, yn adnodd dysgu gwerthfawr.
  • Mae gan yr Ysgol enw da o safbwynt ei dysgu ac rydym yn cyfuno’r defnydd o dechnoleg newydd â dysgu mewn grwpiau bychain a sylw personol.
  • Rydym yn cydnabod pwysigrwydd medrau trosglwyddadwy ac yn gwneud defnydd mawr o dechnoleg gwybodaeth. Mae cyfleoedd hefyd i ddefnyddio medrau hanes ar leoliad gwaith.

Ffeithiau Allweddol gan UniStats

Cynnwys y Cwrs

Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.

Byddwch yn cael tua 8 i 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial bob wythnos. Byddwch yn treulio dwywaith yr amser hwnnw yn darllen ac yn gwneud gwaith cwrs.

Yn ogystal â hyn, bydd teithiau maes a sesiynau ymarferol ynghlwm â’r modiwlau archaeoleg a threftadaeth. Bydd rhai modiwlau hanes, yn enwedig modiwlau’r pwnc-arbennig hefyd yn cynnwys teithiau maes. Mae rhai modiwlau hanes, yn enwedig cyrsiau pwnc arbenigol, wedi golygu teithiau i Hampton Court, Caerdydd a mannau lleol, tra gall y modiwlau Ewropeaidd olygu teithiau i fannau o ddiddordeb dramor.

Gallwch ddilyn modiwl lleoliad gwaith neu gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid i’r Unol Daleithiau yn ystod yr ail flwyddyn. Os ydych yn dilyn Hanes fel pwnc gradd cyd-anrhydedd gydag iaith, byddwch yn treulio blwyddyn dramor yn y drydedd flwyddyn.

Mae asesiad yn cynnwys cymysgedd o arholiadau a thraethodau, cyflwyniadau, portffolios a’r traethawd estynedig.

Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?

Blwyddyn 1

Byddwch yn treulio o leiaf draean o’ch amser yn astudio Hanes. Gallwch ddewis mwy o fodiwlau hanes a phynciau cysylltiedig, gwella eich medrau Technoleg Gwybodaeth neu fedrau ieithyddol, neu gallwch ddilyn pynciau cyflenwol (gwelwch y rhestr pynciau cyd-anrhydedd).

Modiwlau:

  • Dechrau o’r Dechrau (modiwl gorfodol)
  • Apocalyps: y 14eg Ganrif*
  • Cyflwyniad i Hanes Fodern 1815-1914*
  • Rhyfel, Cymdeithas, a’r Cyfryngau*
  • Cymru: Tywysogion i Duduriaid
  • Cymru yn y Byd Modern
  • Introduction to History and Heritage
  • Dewisiadau Archaeoleg

*Rhain yn cael eu dysgu mewn grŵp seminar Cymraeg, ond gyda darlithau yn Saesneg.

Blwyddyn 2

Cewch ddewis astudio cyfnodau arbennig mewn dyfnder trwy fodiwlau cyffredinol a chymryd cyrsiau thematig mwy arbenigol. Fel rheol, cewch ddewis 4 neu 5 modiwl.

Modiwl gorfodol:

  • Dehongli’r Gorffennol neu
  • Debating History

Dewisiadau:

Dewis o tua 30 o fodiwlau.

Esiamplau cyfrwng Cymraeg yn cynnwys: Cestyll a Chymdeithas; Môrladron a Brenhinoedd y Môr; Cenhedloedd Sbaen yn yr Ugeinfed Ganrif; Chwyldro America; Rhyfel Cartref America; Owain Glyndŵr a’i Fudiad; Cymru 1660–1789.

Esiamplau cyfrwng Saesneg yn cynnwys: Vikings to Magna Carta; Norman Sicily; Holy Wars 1095-1197; Roman Britain; Americanisation; USA 1945-2001; Europe 1945-1992; Victorian Britain 1837-1901; Thatcher’s Britain; The Tudors; Reformation and Counter-Reformation; Britain in the Jazz Age.

Gallwch hefyd ddilyn un o 2 fodiwl amlddisgyblaethol yn ymwneud â hanes, neu ddewisiadau o adrannau eraill.

Blwyddyn 3

Byddwch yn dewis pwnc arbennig o blith tua 12 sydd ar gael, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil ein staff. Byddwch yn gwneud traethawd estynedig – project ymchwil ar bwnc o ddiddordeb arbennig i chi. Ar ben hynny, byddwch yn gwneud modiwlau pellach o ddetholiad o ddewisiadau.

Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen.

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Hanes.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Bydd gradd dda mewn Hanes, yn cyfuno gwybodaeth gadarn o hanes ag amrediad o fedrau dadansoddi a chyflwyno trosglwyddadwy. Byddwch yn gallu dewis o blith amryw o yrfaoedd sy’n canolbwyntio ar weinyddu ac arweiniad cyhoeddus, er enghraifft, mewn adrannau personél mewn diwydiant yn y sector preifat, yn y gwasanaeth sifil ac mewn llywodraeth leol, dysgu a thwristiaeth. Yn ddiweddar, mae graddedigion Hanes o Fangor wedi mynd i yrfaoedd mewn masnach, treftadaeth, yn y gyfraith, fel athrawon, ac yn y lluoedd arfog.

Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.

Profiad Gwaith a Gwirfoddoli

Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.

Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.

Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.

Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.

Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...

Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor

Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.

    Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:

  • Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
  • Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
  • Profiad gwaith ac interniaethau
  • Cyfleon Gwirfoddol

Gofynion Mynediad

Mynediad yn 2020:

Ar gyfer cyrsiau gradd cyd-anrhydedd, cofiwch fwrw golwg ar ofynion mynediad y pwnc arall a ddewiswch.

Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff ar gyfer BA a 120 pwynt tariff ar gyfer MArts o gymhwyster lefel 3* e.e.:

  • Lefel A (Hanes yn ddymunol) 
  • BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Pasio
  • Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
  • Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am re
    lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com

Mynediad yn 2019:

  • 112-120 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3 (Hanes yn ddymunol). Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
  • Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol. 

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach

Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.

I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com

Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.

Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.

Am fanylion pellach

E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk

Neu ysgrifennwch at:

Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717 

Costau’r Cwrs

Mandatory Costs:

There are no mandatory costs, but if a student spends £50 on books per module then it would cost £300 pa.

Necessarily Incurred Costs:

Travel to placements: Some basic travel costs might be incurred depending on the location of the placement. An average example would be 2 weeks, public transport, £40.

Optional Costs:

Extra costs might be incurred if students decide to purchase more books, but this optional and entirely down to the individual.

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud cais drwy UCAS

UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau

Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.

Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.

Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.

Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.

Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.

Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.

I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.

Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.

Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.

Ar ôl gwneud cais

Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.

Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.

Ansicr am eich camau nesaf?

Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.

 

Mwy o Wybodaeth

Cysylltwch â ni

Admissions Tutor
School of History, Philosophy and Social Sciences
Tel: 01248 382085
E-mail: history@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/history

Twitter: @BangorHistory

Astudio ym Mangor

Gwobr Aur i Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn  darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.

Ymysg yr 10 uchaf

Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).

Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU

Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.

Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019!

Lleoliad heb ei ail

Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’.

Buddsoddiad mewn cyfleusterau

Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety newydd i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.

Sicrwydd o lety

Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.

Profiad Myfyrwyr Bangor

Cyrsiau Cysylltiedig

Dim cyrsiau yn adran hwn y prosbectws

Camau Nesaf