
Modiwl CXC-2012:
Gweithdy Cynghanedd
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Peredur Lynch
Amcanion cyffredinol
Cwrs ymarferol ar gyfer y rhai sy'n dymuno dysgu cynganeddu yw hwn. Ceir hyfforddiant ymarferol fel bod myfyrwyr yn dod i drin y gynghanedd yn gywir ac yn meistroli rhai o'r prif fesurau caeth megis yr Englyn Unodl Union a'r Cywydd Deuair Hirion. Rhoddir pwyslais mawr yn rhan gyntaf y cwrs ar ddeall aceniad cynghanedd a chaiff myfyrwyr wybodaeth hefyd ynghylch y beiau gwaharddedig. Yn ystod y cwrs byddwn hefyd yn bwrw golwg ar rai o awdlau'r Eisteddfodol Genedlaethol. Dysgir y modiwl hwn drwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd a seminarau.
Cynnwys cwrs
Yn y cwrs hwn cynigir hyfforddiant ymarferol fel bod myfyrwyr yn dod i drin y gynghanedd yn gywir ac yn meistroli rhai o brif fesurau cerdd dafod megis yr Englyn Unodl Union a'r Cywydd Deuair Hirion. Rhoddir pwyslais mawr yn rhan gyntaf y cwrs ar ddeall aceniad cynghanedd a chaiff myfyrwyr wybodaeth hefyd ynghylch y beiau gwaharddedig. Bydd y cwrs yn cloi gyda thrafodaeth fer ar yr awdl eisteddfodol. Dysgir y modiwl hwn drwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd.
Meini Prawf
trothwy
Gallu cynganeddu'n rhesymol gywir Dangos adnabyddiaeth o rai o brif fesurau cerdd dafod Dangos adnabyddiaeth o gyfrin bethau cerdd dafod, megis y beiau gwaharddedig Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
da
Gallu cynganeddu'n gwyir Dangos adnabyddiaeth dda o rai o brif fesurau cerdd dafod Dangos adnabyddiaeth dda o gyfrin bethau cerdd dafod, megis y beiau gwaharddedig Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
Gallu cynganeddu â graen Dangos adnabyddiaeth gadarn o rai o brif fesurau cerdd dafod Dangos adnabyddiaeth gadarn o gyfrin bethau cerdd dafod, megis y beiau gwaharddedig Dangos gallu cadarn i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Canlyniad dysgu
-
Cynganeddu
-
Llunio englynion a chywyddau
-
Traethu'n olau am rai o awdlau eisteddfodol y ganrif hon a'r ddiwethaf
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
aseiniad | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Trefnir cyfres o gyfarfodydd tiwtorial rhwng Wythnos 3-6 ac 8-11 i gefnogi'r gwaith a wneir yn y dosbarth |
8 |
Lecture | 2 awr darlith x 10 |
20 |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)