Newyddion: Ionawr 2018
Cymhwyso GRADE-CERQual i ganfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol - Cyfres newydd o bapurau
Mae cyfres o bapurau a gyhoeddwyd yn Implementation Science yr wythnos hon yn rhoi canllawiau ar sut i gymhwyso'r dull GRADE-CERQual. Mae CERQual yn helpu i asesu faint o hyder y dylid ei roi yng nghanfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018
Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018