Newyddion: Ebrill 2018
Ymchwil yn helpu i sicrhau £90 miliwn i ysgolion
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor, sy'n dangos effeithiolrwydd cyllid ychwanegol i ysgolion, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau cyllido i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil gydweithredol, a gomisiynwyd gan GWE ac ERW (dau ddarparwr gwasanaethau gwella ysgolion), roi tystiolaeth i Lywodraeth Cymru a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gynyddu cyllid i ysgolion o £90 miliwn pellach yn 2018-19 dan y Grant Datblygu Disgyblion. Fe wnaeth addysgwyr , seicolegwyr , gwyddonwyr cymdeithasol ac arbenigwyr yn y gyfraith - sydd wedi casglu ynghyd brofiad enfawr o weithio gydag ysgolion, disgyblion a phlant - ddod at ei gilydd i wneud arolwg cynhwysfawr o'r modd y gall tlodi fod yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018
Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019. Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018
Prifysgol Lodz yn ymweld â'r Ysgol
Daeth dau o academyddion o Gyfadran y Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Lodz, Gwlad Pwyl i ymweliad â'r ysgol yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2018
Ysbrydolwyd gan 2001 Cystadleuaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018
Taith y Gymdeithas Gwyddorau Cymdeithas i Barcelona
Ar 26 Mawrth 2018 fe wnaeth y gymdeithas gwyddorau cymdeithas hedfan i Farcelona heulog am drip pum diwrnod. Roedd y daith hon yn dilyn llwyddiant yr un i Berlin y llynedd ac roedd pawb yn teimlo'n gyffrous iawn, er gwaethaf gorfod cychwyn yn blygeiniol am faes awyr Manceinion!
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2018
GALW AM BAPURAU: PATRYMAU PATRIARCHAIDD? SWYDDOGAETHAU A PHROFIADAU MERCHED AR YSTADAU TIRIOG CYMRU
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2018