Newyddion: Gorffennaf 2020
Gwobr Ryngwladol i Athro
Mae Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, wedi derbyn Gwobr Ryngwladol Anrhydeddus 2020 Cymdeithasfa Cyfraith a Chymdeithas (LSA) “i gydnabod ei gyfraniadau arwyddocaol i helaethiad gwybodaeth ym maes cyfraith a chymdeithas.” Mae’r LSA wedi’i lleoli yn yr UD ond mae ganddi aelodau ar draws y byd, a hi yw’r gymdeithasfa ysgolheigaidd fwyaf blaengar yn ei maes.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2020
Athro er Anrhydedd Prifysgol Bangor i arwain y gwaith ar addysgu hanes cyfoethog Cymru a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth
Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno. Mae'r Athro Williams yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor a chyn Deon Cysylltiol ac Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT, Melbourne, Awstralia. Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2020
Golygu cyfrol newydd
Llongyfarchiadau i ddau aelod o staff Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Dr Owain Wyn Jones a Dr Rebecca Thomas, ar gyd-olygu’r gyfrol newydd The Chronicles of Medieval Wales and the March [ : ] New Contexts, Studies and Texts .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020
Cydweithio ag arlunydd i gyflwyno Cymdeithaseg ar ffurf cofiadwy
Mae dau academydd o Brifysgol Bangor wedi cydweithio â’r cartwnydd Huw Aaron er mwyn cyflwyno maes pwysig Cymdeithaseg ar ffurf hwyliog a chofiadwy yn y Gymraeg, gyda’r gobaith y bydd yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y maes.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2020