Themâu Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Mae gan Brifysgol Bangor enw da'n rhyngwladol am ymchwil rhyngddisgyblaethol ac arloesol mewn perthynas ag effeithiau arloesi, newidiadau cymdeithasol, datblygiadau gwleidyddol a pholisïau ar iechyd, iechyd meddwl, tlodi, gofal cymdeithasol a lles. Cyfrannodd ein hymchwil i'r materion hyn yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas at gyflwyniad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil Bangor ac mae wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Mae ansawdd a pherthnasedd ein gwaith yn elwa o arbenigedd sydd wedi'i sefydlu mewn methodolegau gwyddorau cymdeithas ac yn ein partneriaethau gyda phrif brifysgolion, asiantaethau rhyngwladol, y GIG, darparwyr preifat a dielw, gwneuthurwyr polisïau lleol ac ymarferwyr.
Cymunedau, Diwylliannau, Iaith a Hunaniaethau
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn enwog am ei hymchwil arloesol i ffurfio cynulliadau cymdeithasol a diwylliannol, a sut mae trawsnewidiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn effeithio ar gysylltiadau cymdeithasol lleol a chyfranogiad mewn cymdeithas sifil. Mae gan Brifysgol Bangor enw da yn rhyngwladol ers tro am ymchwil i'r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd a chyfrannodd ymchwil a wnaed yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas at gyflwyniad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil Bangor. Mae ymchwil i'r thema hon yn seiliedig ar ystod eang o faterion empirig, methodolegol a damcaniaethol.
Troseddu, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas
Mae gan ymchwilwyr ar draws y Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas ddiddordeb mewn effeithiau troseddu a chyfiawnder troseddol ar gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys ymchwil byd-enwog a wneir yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn archwilio sut y darlunnir troseddu yn y newyddion a'r cyfryngau adloniant, datblygu polisïau ar yr ymatebion priodol i droseddu, newidiadau mewn trefniadau cyfiawnder cymdeithasol ar adeg o gyni cyllidol, yn ogystal â chwestiynau damcaniaethol ehangach am lywodraethu drwy droseddu a chyfiawnder
Materion damcaniaethol a methodolegol trawsbynciol
Mae ymchwil ar draws yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn seiliedig ar ystod eang o faterion damcaniaethol a methodolegol. Mae hyn yn cynnwys cryfderau arbennig mewn: theori gymdeithasegol, theori feirniadol, dulliau bywgraffyddol a naratif, dadansoddi sgyrsiau a thrafodaethau, cysylltu data, datblygu ymyriadau, profion rheoledig ar hap, methodoleg adolygu systematig, ymchwil yn yr ardal leol a'r trydydd sector, ymchwil dwyieithog, archwilio a gwerthuso polisïau iechyd, cymdeithasol a chyhoeddus.
Papurau Menai
Cyfres o bapurau gwaith yw Papurau Menai a gynhyrchwyd gan Bangor WISERD ar ran Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.