Newyddion: Hydref 2018
Myfyrwyr yn creu gemwaith coeth
Mae dewis o emwaith coeth, sydd wedi ei ddylunio gan fyfyrwyr dylunio ym Mhrifysgol Bangor, bellach ar gael yn gyfyngedig i MOSTYN yn Llandudno. Mae’r oriel celfyddyd gyfoes wedi gweithio gyda staff a myfyrwyr y cwrs gradd Dylunio Cynnyrch i greu eitemau o emwaith sydd yn gweddu i siop MOSTYN.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2018
Emotions: how humans regulate them and why some people can't
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leannae Rowlands, Myfyrwraig PhD mewn Niwrowyddonioaeth yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2018
Ymchwil Prifysgol Bangor yn llywio polisi cenedlaethol ac yn rhoi sylfaen dystiolaeth i Gynllun Gweithredu Addysg Wledig cyntaf Cymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams (heddiw) wedi lansio Cynllun Gweithredu Addysg Wledig newydd Llywodraeth Cymru sy’n cyflwyno nifer o fentrau a mesurau ar gyfer gwella addysg a phrofiadau yn ysgolion gwledig Cymru. Mae’r cynllun gweithredu’n rhan greiddiol o’r diwygiadau gweddnewidiol sydd wedi eu hamlinellu yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl , sy’n nodi beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r gyfundrefn ysgolion erbyn 2021. Mae’r ddogfen yn rhoi manylion am weithgareddau a fydd yn troi polisïau’n ymarfer yn ein hysgolion. Mae’r cynllun gweithredu’n defnyddio tystiolaeth ac argymhellion o adroddiad ymchwil dan arweiniad Gwilym Siôn ap Gruffudd o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor. Comisiynwyd yr adroddiad: Rethinking Educational Attainment and Poverty- in Rural Wales (REAP) gan Gonsortia Addysg Rhanbarthol ERW a GwE trwy broses dendro gystadleuol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018