Newyddion: Rhagfyr 2018
Gradd Addysg ym Mangor wedi arwain at lwyddiant pellach i entrepreneur ym maes addysg
Mae enillydd Gwobr Entrepreneuraidd genedlaethol yn dweud bod ei llwyddiant o ganlyniad i gwrs Meistr yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Dyfarnwyd Gwobr Alumni Entrepreneuraidd y Cyngor Prydeinig yn Azerbaijan i Ms Ayan Aliyeva, o Baku, Azerbaijan.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018
Pam mae alcohol yn gwneud rhai pobl yn dreisgar
Astudiaeth genedlaethol yn trafod peryglon oedolion â phlentyndod trawmatig sy’n yfed yn drwm Mae yfwyr trymach yn llawer mwy tebygol o fod yn rhan o drais os ydynt wedi dioddef lefelau uchel o Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEsi), yn ôl astudiaeth newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Ymchwil rhyngwladol yn datgelu her canser y coluddyn
Mae Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o adolygiad mawr, rhyngwladol o amseroedd triniaeth i bobl â chanser y coluddyn. Cydweithrediad rhwng gwledydd â systemau gofal iechyd tebyg sy'n meddu ar ddata o ansawdd uchel yw'r Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP) a aeth ati i olrhain pob cam yr aeth pobl â chanser y coluddyn trwyddo cyn cael triniaeth. Cydlynwyd yr astudiaeth yn y Deyrnas Unedig gan Cancer Research UK, ac ariannwyd elfen Cymru o'r astudiaeth gan Ymchwil Canser Cymru. Adroddwyd am yr astudiaeth yn BMJ Open . Archwiliwyd holiaduron gan 2,866 o gleifion a'u meddygon yn rhyngwladol, yn ogystal â chofnodion meddygol cleifion a gafodd ddiagnosis rhwng 2013 a 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2018