Newyddion: Gorffennaf 2019
Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia
Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
O lawr y siop i uchelfannau ymchwil â phlant
Bu mynd i’r brifysgol wastad yn freuddwyd gan Claire Hodgkinson ond, ar ôl cwblhau ei arholiadau Lefel A dros ugain mlynedd yn ôl, ni allai weld llwybr gyrfa yn ffurfio o’i blaen, felly, yn hytrach na dewis maes pwnc ar fympwy i’w ddilyn am dair blynedd, penderfynodd ymuno â rhaglen rheoli yn y sector mân-werthu.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
Jessica yn trosi ei hangerdd dros chwaraeon yn ymchwil rygbi
Mae myfyrwraig a ymgeisiodd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy wasanaeth UCAS Extra, a hynny ar ôl newid ei dewis faes astudio, yn graddio heddiw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
How the brain prepares for movement and actions
Dyma erthygl yn Saesneg gan Myrto Mantziara myfyriwr PhD o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019
Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; “Ty'd 'laen, fedri di 'neud hyn!” neu “Dwi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!” Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad â chi eich hun yn yr ail berson: “Ti angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad â chi eich hun yn y person cyntaf, “Dwi angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer 'Myfyriwr PhD y Flwyddyn' mewn gwobrau newydd i ôl-raddedigion
Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Ashleigh Johnstone, o Douglas, Ynys Manaw, wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol newydd. Roedd Ashleigh ymhlith dros 140 o fyfyrwyr PhD a enwebwyd ac mae ar y rhestr fer yn y dosbarth Myfyriwr PhD y Flwyddyn yn y gwobrau gan FindAMasters.com a FindAPhD.com.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019