Newyddion: Ebrill 2021
Cost-effeithiolrwydd triniaethau i afiechydon niwrolegol
Yn ddiweddar, mae'r Athro Dyfrig Hughes a chydweithwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd, wedi cyhoeddi canlyniadau tri threial clinigol ar ymyriadau epilepsi a seiatica.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2021
Prifysgol Bangor yn Lansio Academi Dysgu Dwys ALPHAcademy
Mae Prifysgol Bangor heddiw (20.4.21) yn lansio Academi Dysgu Dwys (ILA) -ALPHAcademy- a fydd yn gyrru newidiadau mewn gofal iechyd byd-eang. Wedi ei gyhoeddi heddiw gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ac o dan arweiniaeth prifysgolion Bangor ac Abertawe, mae cyfanswm o dair academi.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2021
Mae rôl gynyddol i gleifion ei chwarae yn eu diogelwch meddygol eu hunain
A hithau’n feddyg, cafodd Dr Saleyha Ahsan drafferth perswadio’r staff meddygol a oedd yn trin ei mam i gymryd ei phryderon o ddifrif, fel y bydd yn ei ddatgelu mewn Cynhadledd ar Ddiogelwch Meddygol a Chyfranogiad Cleifion a gynhelir ar-lein gyda nifer o siaradwyr o bedwar ban byd ar 21 Mai. 2021. Fis Hydref 2019, sylweddolodd Saleyha Ahsan fod iechyd ei mam yn gwaethygu ac amser yn prinhau i allu gweithredu i atal ei dirywiad, ond ni wrandawodd neb ar ei phryderon, yn wir, dywed iddi fynd i deimlo'n ddi-bwys ac yn amherthnasol. Gwelai fod angen adolygiad uwch ar ofal ei mam ac nad oedd cynllun gofal na chynllun i gynyddu’r gofal angenrheidiol. O ganlyniad, ni wnaed dim i leddfu cyflwr ei mam. Yn anffodus, bu farw ei mam mewn peth poen ac anghysur.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2021
Archwiliad cyntaf o wytnwch iechyd meddwl ac unigrwydd pobl hŷn â nam gwybyddol yng nghymru
Mae unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl hŷn sydd â dementia neu sy'n cael anawsterau gyda'r cof, meddwl a dysgu. Ond ni fydd pob unigolyn yn cael ei effeithio yn yr un modd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2021
Mae rôl gynyddol i gleifion ei chwarae yn eu diogelwch meddygol eu hunain
A hithau’n feddyg, cafodd Dr Saleyha Ahsan drafferth perswadio’r staff meddygol a oedd yn trin ei mam i gymryd ei phryderon o ddifrif, fel y bydd yn ei ddatgelu mewn Cynhadledd ar Ddiogelwch Meddygol a Chyfranogiad Cleifion a gynhelir ar-lein gyda nifer o siaradwyr o bedwar ban byd ar 21 Mai. 2021.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2021