Cofrestru
- Os hoffech fynychu, ewch at yr Amserlen Datblygu Staff i gofrestru
Athena Swan
Ysgoloriaethau Cydraddoldeb Rhywiol Prifysgol Bangor 2019/20
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Er bod datblygiad gyrfa merched mewn gwyddoniaeth yn parhau i fod yn egwyddor allweddol yn siarter Athena Swan ac, oherwydd hynny, yn flaenoriaeth o fewn yr agenda Athena Swan ym Mangor, rydym hefyd yn cydnabod ac yn dymuno rhoi sylw i dangynrychiolaeth dynion fel myfyrwyr mewn llawer o feysydd eraill (er enghraifft Gwyddorau Iechyd, Seicoleg, Addysg, Gwyddorau Cymdeithas ymhlith eraill). Am y rheswm hwn, diben ysgoloriaethau Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae niferoedd ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o ferched neu ddynion ar lefel ôl-raddedig mewn rhai meysydd.
Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.