Archwiliad Cyflog Cyfartal
Hwn yw'r seithfed Archwiliad Cyflog Cyfartal a gynhaliwyd gan y Brifysgol ers gweithredu'r Cytundeb Fframwaith ym mis Mehefin 2008. Yn dilyn trafodaeth a chytundeb gydag Undebau Llafur cydnabyddedig Prifysgol Bangor, mae'r cyfnod ymdriniaeth ar gyfer yr adroddiad wedi'i ddiwygio i gwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 felly'n cyd-fynd yn agosach â chyfnod adrodd yr Archwiliad Cyflog Cyfartal a'r archwiliad Bwlch Cyflog Rhywiol (sydd, ar gyfer cyrff cyhoeddus ym mis Mawrth).
Cynhaliwyd yr archwiliad ar y cyd ag Undebau Llafur cydnabyddedig Prifysgol Bangor (UCU, Unite, Unsain).
Canfyddiadau Allweddol:
- Nid oes gan Brifysgol Bangor unrhyw fylchau cyflog gradd rhyw yn y strwythur cyflog 51 pwynt a weithredwyd fel rhan o'r Cytundeb Fframwaith.
- Amrywiadau cyflog yn y grwpiau Cyflogau dros pt 51 (ac eithrio Athro) - (hy Cyfarwyddwyr) yn dangos gwelliant o'r archwiliad blaenorol a wnaed gyda'r amrywiad presennol bellach yn 5.22% o blaid dynion o gymharu â'r amrywiad blaenorol o 9.99% o blaid o ddynion). Mae dadansoddiad pellach, yn seiliedig ar ddata marchnad UCEA, wedi dangos nad oes unrhyw fylchau cyflog yn bodoli yn y rolau unigryw, unigol hyn.
- Mae amrywiad cyflog yn bodoli ym Mand 3 y band cyflog Athro lle mae dadansoddiad yn dangos amrywiad cyflog o 7.95% o blaid dynion. Mae hyn yn welliant sylweddol o'r archwiliad blaenorol a gynhaliwyd lle roedd yr amrywiad yn 10.74% o blaid dynion. Hyd gwasanaeth yn y rôl o Athro yw’r prif ffactor ar gyfer yr amrywiad oherwydd lleoliad yn uwch i fyny'r raddfa gyflog. Mae hyn yn arwydd cadarnhaol bod y strwythur bandio Athro, ynghyd â meini prawf
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am yr archwiliad hwn neu archwiliadau tâl cyfartal eraill mae'r Brifysgol wedi eu gwneud, cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol (hr@bangor.ac.uk).