Arweiniad i Staff

Cwestiynau a ofynnir yn aml:


1. Beth ydi straen?
2. Ydi o’n beth da i gael peth straen?
3. Beth sy’n achosi straen?
4. Sut ydw i'n gwybod os ydw i’n dioddef o straen?
5. Pwy sy’n wynebu’r risg? Oes rhai pobl yn fwy tueddol o ddioddef nag eraill?
6. Beth alla i ei wneud yn ei gylch?
7. Ydw i angen gweld fy Meddyg Teulu?
8. Beth os byddaf yn teimlo na allaf ymdopi mwyach?
9. Pwy all fy helpu yn y Brifysgol?
10. Pam dwi’n teimlo mai fy mai i ydi’r cyfan?
11. Sut ydw i’n gweld bod rhywun arall dan straen?
12. Beth alla i ei wneud i rwystro straen ddod yn broblem?
13. Lle galla i gael hyd i fwy o wybodaeth?
14. Crynodeb o Weithrediadau

1. Beth ydi straen?


Mae straen yn gyflwr y gall rhywun ei gael pan mae ef neu hi’n teimlo bod pwysau gormodol neu ofynion eraill yn cael eu rhoi arno/arni, tu hwnt i’w (g)allu i ymateb iddynt. Nid yw’n salwch, ond gall arwain at broblemau iechyd os yw’n para am gyfnod hir neu’n arbennig o ddwys. Mae peth straen yn arferol ac angenrheidiol mewn gwaith a thu allan iddo, a gall symbylu ac ysgogi rhywun, ond gall gormod ohono arwain at symptomau corfforol, meddyliol ac ymddygiadol niweidiol.


2. Ydi o’n beth da i gael peth straen?


Ydi. Yn y tymor byr, mae ymdeimlad o beth pwysau’n ein helpu i gyflawni pethau a gweithio’n effeithiol. Gall ton o adrenaline ein hysgogi. Fodd bynnag, i gydbwyso’r cyfnodau hyn o weithgaredd dwys mae angen cyfnodau o ymlacio i’n hadnewyddu. Pan mae pwysau’n ddi-dor a ninnau’n teimlo ein bod yn cael ein llethu, bryd hynny gall straen ddigwydd a chael effeithiau corfforol a seicolegol.


3. Beth sy’n achosi straen?


Er y cydnabyddir bod straen yn nodwedd gyffredin o fywyd modern, mae ei achosion, ei symptomau a’i effeithiau’n fater cymhleth iawn. Achosir straen fel rheol gan gyfuniad o ffactorau a all, gyda’i gilydd, fod yn llethol. Gall y rhain fod yn bryderon personol, megis problemau teuluol, anawsterau ariannol neu gyda thŷ, neu salwch. Yn y gwaith gellir ei achosi gan ormod o waith, teimlo nad ydych yn cael eich gwerthfawrogi, cael ychydig neu ddim rheolaeth dros eich diwrnod gwaith, swyddogaeth waith aneglur, perthynas anodd â chydweithwyr neu reolwyr, a all gynnwys bwlio neu aflonyddu. Gall ffactorau fel sŵn, diffyg lle, traffig a gwres hefyd gyfrannu at deimladau o straen. Mae cyfuniad o ffactorau yn y gwaith a gartref yn aml yn gyfrifol am ddod ag unigolion i sefyllfa lle maent yn teimlo na allant ymdopi mwyach â'u bywydau.


4. Sut ydw i'n gwybod os ydw i’n dioddef o straen?


Mae straen yn effeithio ar bawb ohonom rywbryd neu’i gilydd. Mae pobl yn ymateb i straen mewn llawer o wahanol ffyrdd, felly mae’n fuddiol bod yn ymwybodol o’ch arwyddion rhybudd arbennig chi eich hun. Bydd arwyddion cynnar yn newidiadau y byddwch chi neu eraill yn sylwi arnynt yn eich iechyd, eich ymddygiad neu eich hwyliau arferol.


Ymysg yr arwyddion corfforol mae teimlo’n flinedig iawn ac yn sâl yn gyson ac yn fwy tueddol o gael mân salwch a heintiau; cur pen a phoenau eraill oherwydd cyhyrau ar dynn; teimlo'r galon yn curo'n afreolaidd; problemau stumog a threulio bwyd; anawsterau cysgu. Gall straen hefyd waethygu cyflyrau meddygol megis asthma neu ecsema.


Gall newidiadau mewn hwyliau hefyd fod yn arwyddion emosiynol o straen. Gall straen wneud rhywun yn biwis neu gael pyliau o wylltineb, torri allan i grio a theimlo’n isel. Mae rhai pobl yn teimlo’n bryderus iawn, gyda symptomau o benysgafnder a churiadau calon afreolaidd ac ymosodiadau o banig. Gall straen effeithio ar allu i ganolbwyntio a cholli diddordeb mewn bwyd, rhyw a bywyd yn gyffredinol. Wrth ymateb i hyn gall rhai wneud mwy o ddefnydd o alcohol, cyffuriau neu ysmygu.


Gall absenoldeb ac/neu amhrydlondeb fod yn arwyddion bod rhywun dan straen yn y gwaith. Arwyddion eraill yw diffyg creadigrwydd, gwneud mwy o gamgymeriadau, barn wael a thrafferth i gynllunio neu wneud penderfyniadau.


5. Pwy sy’n wynebu’r risg? Oes rhai pobl yn fwy tueddol o ddioddef nag eraill?


Mae’n bosibl i unrhyw un ohonom ddioddef o straen gan y gall gael ei achosi gan amrywiaeth o sefyllfaoedd cyfarwydd, ond rydym fwyaf tueddol o ddioddef pan mae sawl problem yn ein bywydau yr un pryd ac os nad oes gennym gefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Fodd bynnag, mae pobl yn ymateb yn feddyliol mewn llawer o wahanol ffyrdd i adwaith naturiol y corff i sefyllfaoedd anodd. I rai mae’n ysgogiad, gan eu helpu i gyflawni mwy; mewn eraill, mae’n achosi ymdeimlad o fethu ag ymdopi a’u llethu.


Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng straen dros dro, y gwyddom fydd yn diflannu ar ôl i sefyllfa gael ei datrys, a straen cronig hir dymor. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu ymdopi â chyfnodau byr o straen a chael rhyddhad yn aml drwy ymlacio, mynd am dro, siarad am faterion efo ffrindiau neu gael noson dda o gwsg. Mae'n llawer anoddach delio â straen cronig (hir dymor a pharhaus) a all fod yn niweidiol yn emosiynol i unigolyn a hefyd i’w ffrindiau a’i deulu.


6. Beth alla i ei wneud yn ei gylch?


Fel rheol mae straen yn datblygu dros gyfnod o amser heb i rywun sylweddoli beth sy’n digwydd. Y cam cyntaf yw cydnabod y gall straen fod yn gyfrifol am sut rydych yn teimlo a chydnabod hynny. Yna mae angen i chi geisio gweld pa agweddau ar eich bywyd sy’n ei achosi. Weithiau ni fyddwch yn gallu eu newid neu eu hosgoi ond, ar adegau eraill, gall newidiadau mewn ffordd o fyw wneud byd o wahaniaeth. Gall deimlo’n anodd gwneud hyn ar yr adeg hon pan fo ffordd o fyw iach wedi mynd ar chwâl. Mae’n ddefnyddiol ysgrifennu beth rydych yn ei deimlo am wahanol rannau eich bywyd, pryd mae’n digwydd, a phwy arall sy’n gysylltiedig â’r peth. Siaradwch â phobl a all eich helpu i wneud y newidiadau y byddwch eu hangen i leihau’r beichiau rydych yn teimlo sydd arnoch yn y gwaith a gartref.


Yn y gwaith, gall straen ddatblygu pan fo aelod staff yn teimlo dan bwysau o sawl cyfeiriad: baich gwaith, anawsterau rhyngbersonol â chydweithwyr, swyddogaeth a chyfrifoldebau aneglur. Fel cam cyntaf, siaradwch â’ch goruchwyliwr neu reolwr uniongyrchol ynghylch unrhyw faterion gwaith. Efallai na fyddant yn ymwybodol o’r anawsterau rydych yn eu hwynebu a dylent weithio gyda chi i ddatrys y materion.


Os ydych yn cael trafferth i godi’r materion hyn â’ch rheolwr, mae ffynonellau cefnogaeth eraill y gellwch droi atynt yn cynnwys yr Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol, Adnoddau Dynol, cynrychiolwyr Undeb, Cynghorwyr ar Aflonyddu, neu’r Gwasanaeth Cynghori Cyfrinachol i Staff.


Meddyliwch hefyd sut rydych yn edrych ar ôl eich hun. Mae’n hanfodol cael cyfnodau o orffwys, ymlacio a hwyl yn ein bywydau yn ogystal â gwaith. Rydym angen cael diet iach a chytbwys a hefyd ymarfer o ryw fath, yn arbennig os ydym yn eistedd llawer yn ein gwaith. Yfwch ddigon o ddŵr a bod yn ddoeth o ran yr alcohol a’r caffîn rydych yn ei yfed. Ceisiwch gael cydbwysedd o waith a pheth gorffwys bob dydd, bob wythnos, ac am gyfnodau hirach. Er enghraifft, cymerwch seibiannau am ginio a phaned, ewch i weithgareddau cymdeithasol yn ystod yr wythnos, a gofalu eich bod yn cymryd eich gwyliau er mwyn cael seibiant hirach.

7. Ydw i angen gweld fy Meddyg Teulu?

Os yw straen yn achosi symptomau corfforol, trallod difrifol, neu’n ei gwneud yn anodd i chi weithredu o ddydd i ddydd, mae’n werth gweld eich Meddyg Teulu yn fuan. Mae’n bwysig cofio er bod straen yn rhan arferol o fywyd y gall straen trwm neu faith arwain at fathau eraill o salwch a all fod angen triniaeth. Er enghraifft, mae straen wedi cael ei gysylltu â phwysau gwaed uchel ac afiechyd calon, yn ogystal â methu cysgu ac iselder. Yn achos symptomau corfforol, efallai y bydd y meddyg eisiau gwneud profion hefyd am gyflyrau eraill.


8. Beth os byddaf yn teimlo na allaf ymdopi mwyach?


Os cyrhaeddwch y pwynt hwn mae’n bwysig stopio a gorffwys yn hytrach na theimlo bod rhaid i chi frwydro ymlaen. Mae’n fuddiol siarad â rhywun ynghylch sut rydych yn teimlo a chael cymorth. Siaradwch â’ch goruchwyliwr/rheolwr, yr Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol neu Adnoddau Dynol, neu gwnewch apwyntiad i weld eich Meddyg Teulu, neu gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori i gael cefnogaeth a chyngor priodol.


9. Pwy all fy helpu yn y Brifysgol?


Mae yna nifer o wasanaethau yn y Brifysgol a all eich helpu. Os yw’n ymarferol siaradwch â’ch rheolwr fel y gallant drafod a datrys gyda chi’r ffactorau yn eich swydd a all fod yn cael effaith niweidiol ar eich iechyd.


Mae’r Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i liniaru symptomau straen a chynorthwyo i ddatrys ffactorau sy’n achosi straen yn y gweithle.


Mae Adnoddau Dynol yn darparu adnoddau a hyfforddiant ynghylch rhai o achosion ac effeithiau straen a all fod yn ddefnyddiol i staff, e.e. rheoli amser, pendantrwydd a gweithio'n effeithiol gydag eraill. Mae'r Gwasanaeth Cynghori Staff yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim ar faterion personol a rhai'n ymwneud â'r gweithle. Gellwch gyfeirio eich hun at y gwasanaeth hwn.


Mae manylion pellach am gynrychiolwyr undeb ar gael o wefan Adnoddau Dynol.


10. Pam dwi’n teimlo mai fy mai i ydi’r cyfan?

Mae pobl yn aml yn teimlo fel hyn a beio eu hunain am fethu ag ymdopi. Rydym i gyd yn cael cyfnodau yn ein bywydau pan gall yr hyn rydym yn ei wynebu ymddangos yn llethol. Nid gwendid yw straen ac nid oes raid i chi ddioddef. Mae gweithleoedd yn newid yn gyson ac yn aml mae datblygiadau newydd yn effeithio ar y baich gwaith a’r cyflymder y mae’n rhaid i ni ymateb iddo. Mae sut y rheolir hyn yn allweddol o ran yr effaith ar unigolion.


11. Sut ydw i’n gweld bod rhywun arall dan straen?

Gall newidiadau yn eu hymddygiad a’u hwyliau fod yn arwyddion. Efallai eu bod yn sâl ac yn absennol o’r gwaith yn fwy aml. Gall effeithio ar gynhyrchiant, canolbwyntio a gwneud penderfyniadau. Os sylwch ar y pethau hyn, siaradwch yn sensitif â’r unigolyn gan na fyddant hwy’n ymwybodol o’r symptomau efallai. Mae trafodaeth fel hyn yn aml yn arwain at fwy o hunan reolaeth neu’n ysgogi’r unigolyn i geisio cefnogaeth gan eraill.


12. Beth alla i ei wneud i rwystro straen ddod yn broblem?


Mae’n debyg ei bod yn anochel y byddwn i gyd yn cael cyfnodau pan fyddwn yn teimlo dan bwysau, ond mae angen i ni wneud yn siŵr na fydd y cyfnodau hyn yn rhai maith. Cadwch gydbwysedd rhwng gwaith a gorffwys yn eich bywyd; bwytewch yn iach a gwneud amser i ymlacio a mwynhau gweithgareddau pleserus. Os yw pwysau gwaith yn teimlo’n ormodol mae’n rhaid i chi siarad â’ch rheolwr. Os ydych yn teimlo na ellwch godi’r materion hyn â’ch rheolwr, mae ffynonellau cefnogaeth eraill y gellwch droi atynt yn cynnwys yr Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol, Adnoddau Dynol, cynrychiolwyr Undeb, Cynghorwyr ar Aflonyddu, neu’r Gwasanaeth Cynghori Cyfrinachol i Staff.


13. Lle galla i gael hyd i fwy o wybodaeth?


Mae cysylltiadau i ganllawiau a chefnogaeth ychwanegol ar gael ar y brif dudalen we ar straen.


14. Crynodeb o Weithrediadau


• Dweud wrth rywun os ydych yn teimlo nad ydych yn gallu ymdopi â’ch gwaith.
• Ceisio gweld beth yw eich anghenion hyfforddi a datblygu.
• Trafod unrhyw faterion yn ymwneud â straen gyda’ch rheolwr, Iechyd Galwedigaethol, Adnoddau Dynol, Cynghori Staff, neu Gynrychiolydd Undeb
• Cydweithio â’r rheolwyr i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau
• Gwneud defnydd llawn o’r mesurau a sefydlwyd i leihau straen yn y gwaith
• Gweithredu ar y cyngor a gawsoch gan yr Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol a’ch Meddyg.
• Os ydych i ffwrdd yn sâl, cadwch mewn cysylltiad â’ch rheolwr.
• Gweithio gyda’ch rheolwr i ddatrys y problemau.
• sicrhau eich bod yn glir ynghylch eich swydd a disgwyliadau eich rheolwr;
• sicrhau bod gennych amcanion swydd clir sy’n cael eu hadolygu a’u monitro’n rheolaidd;
• rheoli eich amser yn effeithiol;
• sicrhau bod yna feysydd o fywyd gwaith y mae gennych reolaeth drostynt;
• meithrin perthynas adeiladol â’ch rheolwr, rhoi sylw i broblemau gwaith yn fuan a thrafod unrhyw faterion neu bryderon gydag ef/gyda hi;
• cydweithio â chydweithwyr i hyrwyddo perthynas a chefnogaeth dda yn y gwaith;
• gweld pa gefnogaeth rydych ei hangen i wneud eich swydd a gofyn amdani;
• bod yn ymwybodol o bolisïau Prifysgol sy’n amddiffyn lles staff;
• gwybod sut i gael cefnogaeth gyfrinachol pan fo’r angen, e.e. Iechyd Galwedigaethol, Adnoddau Dynol, Gwasanaeth Cynghori;
• adolygu cydbwysedd gwaith/cartref yn rheolaidd, cymryd rhan mewn gweithgareddau/hobïau y tu allan i waith ac ymarfer yn rheolaidd.