Cymerwch Ran
Cymdeithasau Myfyrwyr
Mae gan Brifysgol Bangor nifer o gymdeithasau cymuned er mwyn i fyfyrwyr o wledydd neu gefndiroedd penodol gael dod at ei gilydd.
- Cymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol
- Cymdeithas Affro-Garibïaidd
- Cymdeithas Corea
- Cymdeithas Myfyrwyr Bangladesh
- Cymdeithas Fwlgaraidd
- Cymdeithas Hong Kong
- Cymdeithas Indiaidd
- Cymdeithas Wyddelig
- Cymdeithas Siapaneaidd
- Myfyrwyr Kuwaitaidd ym Mangor
- Cymdeithas Bacistanaidd
- Cymdeithas Saudi
- Cymdeithas Filipino
- Cymdeithas Almaenig
- Cymdeithas Indonasia
- Cymdeithas Malasia
Sefydlu eich cymdeithas eich hun
Os ydych o genedl arbennig ac eisiau sefydlu eich cymdeithas eich hun, y cwbl rydych ei angen yw grŵp o bobl â'r un diddordebau i roi cychwyn ar bethau. Cysylltwch ag Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb Bangor i drafod eich syniadau.
Cyngor Undeb Bangor - Cynghorwr Myfyrwyr Rhyngwladol
Cyngor Undeb Bangor yw'r corff o fewn Undeb y Myfyrwyr sy'n bodoli i drafod syniadau'n ymwneud â'i bolisïau, ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol, syniadau'n ymwneud â'i gyfleoedd neu i ddatblygu profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae'n fforwm hefyd lle gall myfyrwyr Bangor ddal eu swyddogion undeb etholedig a'u cynghorwyr i gyfrif.
Mae'r cyngor yn cynnwys aelodau o blith y myfyrwyr sy'n cyflawni nifer o swyddogaethau arbenigol, yn cynnwys Cynghowr Undeb Bangor i Fyfyrwyr Rhyngwladol. Os oes gennych ddiddordeb dod yn Gynghorwr yn Undeb Bangor, yna mae rhagor o wybodaeth yn Llawlyfr UBC hwn.