Sut gall myfyrwyr helpu i hyrwyddo cydraddoldeb gender
Mae cydraddoldeb gender yn rhywbeth y gallwn i gyd weithio tuag ato. Disgwylir i bob myfyriwr ddangos parch at ei gyd-fyfyrwyr, yn ogystal ag at aelodau staff, waeth beth eu gender.
Ni ddylid gwneud i unrhyw fyfyriwr deimlo'n anghyfforddus neu dan fygythiad am unrhyw reswm, gan gynnwys ei gender. Ni chaiff tynnu coes gwahaniaethol ei oddef ar gampws na thir y brifysgol. Mae'r ymddygiad hwn hefyd yn annerbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys mewn sgyrsiau grŵp.
Cyngor Undeb Bangor - Cynghorwr Myfyrwyr Benywaidd
Cyngor Undeb Bangor yw'r corff o fewn Undeb y Myfyrwyr sy'n bodoli i drafod syniadau'n ymwneud â'i bolisiau, ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol, syniadau'n ymwneud â'i gyfleoedd neu i ddatblygu profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae'n fforwm hefyd lle gall myfyrwyr Bangor ddal eu swyddogion undeb etholedig a'u cynghorwyr i gyfrif.
Mae'r Cyngor yn cynnwys aelodau o blith y myfyrwyr sy'n cyflawni nifer o swyddogaethau arbenigol, yn cynnwys Cynghorwr Undeb Bangor i Fyfyrwyr Benywaidd. Os oes gennych ddiddordeb dod yn Gynghorwr yn Undeb Bangor, yna mae rhagor o wybodaeth yn Llawlyfr UBC hwn.