Cymerwch Ran
Mae sawl ffordd arall y gall myfyrwyr Bangor gymryd rhan mewn hyrwyddo lles meddyliol.
Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr
Mae'r Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr a staff yn ogystal ag aelodau allanol o'r GIG, Heddlu Gogledd Cymru a'r Gaplaniaeth.
'Maen nhw'n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn ac yn cefnogi'r rheini syn cael anawsterau iechyd meddwl, er mwyn creu cymuned gynhwysol. Os ydych yn fyfyriwr a bod gennych ddiddordeb bod yn gynrychiolydd i'r Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl Myfyrwyr cysylltwch â counselling@bangor.ac.uk
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y Brifysgol
Bob gwanwyn, mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn y Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl sy'n hyrwyddo iechyd meddwl pobl sy'n gweithio ac yn astudio mewn addysg uwch. Mae'r digwyddiad yn gyfle i gael mwy o fyfyrwyr i ymwneud â chefnogi ymgyrchoedd hybu iechyd yn y dyfodol.
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Cynhelir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref bob blwyddyn. Mae'r brifysgol yn gweithio gydag asiantaethau allanol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o les meddyliol.
Hyrwyddwr Iechyd Meddwl Undeb Bangor
Cyngor Undeb Bangor yw'r corff o fewn Undeb y Myfyrwyr sy'n bodoli i drafod syniadau'n ymwneud â'i bolisïau, ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol, syniadau'n ymwneud â'i gyfleoedd neu i ddatblygu profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae'n fforwm hefyd lle gall myfyrwyr Bangor ddal eu swyddogion undeb etholedig a'u cynghorwyr i gyfrif.
Mae'r Cyngor yn cynnwys aelodau o blith y myfyrwyr sy'n cyflawni nifer o swyddogaethau arbenigol, yn cynnwys Cynghorwr Undeb Bangor ar Iechyd Meddwl. Os oes gennych ddiddordeb dod yn Gynghorwr yn Undeb Bangor, yna mae rhagor o wybodaeth yn y Llawlyfr CUB hwn.