Sut i Gynnal eich Lles Meddyliol
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig llawer o weithgareddau i hyrwyddo lles meddyliol a meithrin gwytnwch i ddelio â heriau bywyd prifysgol. Gwelwch
Gweithdai iCan
Yma ym Mangor, rydym yn cynnal cyfres o weithdai iCan yn ystod y tymor gyda themâu sy'n berthnasol i fywyd myfyrwyr megis iselder, pryder, gohirio gwaith a straen arholiadau. Trwy'r gweithdai hyn, gallwch ddysgu amrywiaeth o strategaethau ymdopi pan fyddwch yn profi sefyllfaoedd heriol.
Mae'r gweithdai ar gael i bob myfyrwyr ac yn cael eu hysbysebu'n eang ar draws y brifysgol. Cliciwch yma i weld pa weithdai sy'n rhedeg ar hyn o bryd.
Gweithdai Ymwybyddiaeth Ofalgar
Hefyd rydym yn cynnig sesiwn galw heibio bob dydd Mercher yn ystod y tymor i chi gael blas ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal rhwng 4:00-4:50pm yn Ystafell Cyfarfod Anecs, Neuadd Rathbone. Does dim angen archebu lle ymlaen llaw.
MIND
MIND yw'r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw wedi cynhyrchu sawl lyfr sy'n egluro sut gallwch ddatblygu eich gwytnwch fel y gallwch wynebu sefyllfaoedd anodd heb fynd yn sâl. How to Cope with Student Life a How to Improve and Maintain your Mental Wellbeing
Rydym wedi crynhoi peth o'u cyngor yma:
-
Siaradwch am y ffordd yr ydych yn teimlo gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.
-
Bwytewch ddiet cytbwys i'ch cadw'n teimlo'n hapus ac yn iach.
-
Torrwch i lawr ar alcohol, ysmygu a chyffuriau hamdden i wella eich lles cyffredinol.
-
Gwnewch rywbeth yr ydych yn ei fwynhau i'ch helpu i adeiladu eich hyder ac aros yn iach.
-
Gwnewch ychydig o ymarfer corff am 10-20 munud bob dydd i dynnu eich sylw o feddyliau a phryderon annymunol ac i ryddhau hormonau fydd yn gwneud i chi deimlo'n well.