Cefnogaeth a Chyngor
Cwnsela Myfyrwyr
Mae gan y Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr amrywiaeth o adnoddau i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Mae cwnsela ar gael i bob myfyriwr sy'n cael anhawster neu broblem yn eu bywyd ac sy'n teimlo na allant ar hyn o bryd ddatrys yr anhawster hwn ar eu pennau eu hunain.
Mae cyfres o adnoddau hunan gymorth gan gynnwys podlediadau, apiau a thaflenni gwybodaeth ar gael ar eu wefan.
Ffôn: 01248 388520
E-bost: counselling@bangor.ac.uk
Cysylltu@Bangor
Os ydych yn cael trafferth gwneud ffrindiau tra eich bod yma ym Mangor neu os ydych yn wynebu rhwystrau wrth geisio ymuno â bywyd myfyrwyr, rydym yma i helpu. Mae rhai myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn gwirfoddoli i fod yn ffrindiau i unrhyw un sydd eisiau help i gymryd rhan mewn bywyd myfyrwyr, p'un ai bod hynny drwy glybiau a chymdeithasau, siopa, ymweld â'ch meddyg teulu neu ddim ond mynd am baned.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am y gwasanaeth hwn, a gwybodaeth am ein gwirfoddolwyr presennol, ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr.
Stonewall
Stonewall yw'r elusen ymgyrchu genedlaethol dros gydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall Cymru yma i ateb eich cwestiynau ar faterion LHDT+ yng Nghymru. Maent yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac yn ateb cwestiynau ar feysydd sy'n amrywiol o iechyd meddwl a dod allan i bartneriaeth sifil a phriodas, ceisiadau lloches, troseddau casineb, a gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae eu tîm o wirfoddolwyr, sydd wedi eu hyfforddi, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau eraill. I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Gwybodaeth Stonewall ewch i'w gwefan.
E-bost:cymru@stonewallcymru.org.uk
Ffôn: 08000 50 20 20
Gwybodaeth Bellach
Mae gan yr Uned Herio Cydraddoldeb nifer o adnoddau gan gynnwys astudiaethau achos o brofiadau myfyrwyr Trawsryweddol.
Mae The Trevor Project yn cynnig ymyrraeth mewn argyfyngau ac yn ceisio atal hunanladdiadau ymysg pobl ifanc LHDT+.
Mae It's Pronounced Metrosexual yn darparu gwybodaeth bellach ac adnoddau ar-lein defnyddiol ynglŷn â rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd.
Mae GIRES (Gender Identity Research and Education Society) yn darparu gwybodaeth ar gyfer y gymuned Drawsrywiol gan gynnwys nifer o lyfrynnau addysgiadol.