Meddalwedd Gwrth-Firws
Dylech bob amser sicrhau bod gennych feddalwedd gwrth-firws wedi'i osod ar eich bwrdd gwaith / gliniadur a'i ddiweddaru'n rheolaidd.
Meddalwedd Gwrth-Firws
O gofio'r nifer o ffyrdd y mae pobl (yn aml gyda bwriad troseddol) yn ceisio gosod meddalwedd maleisus ar gyfrifiaduron y dyddiau hyn, mae angen gosod meddalwedd gwrth-faleiswedd ar bob un ohonynt, gan gynnwys Macs yn ogystal â chyfrifiaduron personol, a'i ddiweddaru'n rheolaidd.
Cyfrifiaduron sy'n eiddo i Brifysgol Bangor
Mae gan y Brifysgol drwydded safle ar gyfer ‘Sophos Anti-Virus’, sy'n cynnwys pob cyfrifiadur sy'n eiddo i'r Brifysgol. Dylid gosod Sophos ymlaen llaw, dylai ddiweddaru ei hun yn awtomatig ac ni ddylid ymyrryd ag ef. Mae Sophos Intercept-X wedi’i osod ar gyfrifiaduron Windows erbyn hyn hefyd, sy'n rhoi amddiffyniad rhag meddalwedd wystlo (ransomware) a meddalwedd ecsbloetio "zero-day" eraill sy'n ceisio defnyddio gwendidau a nodir o’r newydd.
Eich cyfrifiaduron a'ch gliniaduron eich hun
Dylid gosod ‘Windows Defender’ ar gyfrifiaduron gyda Windows 10 fel rhan o'r system weithredu, ac mae hyn yn helpu i warchod eich cyfrifiadur rhag firysau a meddalwedd maleisus eraill. Nid oes angen i ddefnyddwyr y cyfrifiaduron hyn wneud unrhyw beth arall.
Am ateb mwy manwl, gall defnyddwyr cyfrifiaduron Windows a Mac osod y cynnyrch "Sophos Home" am ddim o https://home.sophos.com/. Yn ôl eu gwefan:
“Sophos Home protects every Mac and PC in your home from malware, viruses, ransomware, and inappropriate websites. It uses the same award-winning technology that IT professionals trust to protect their businesses. Best of all, you can manage security settings for the whole family—whether they’re down the hall or across the world.”
SYLWCH: Nid yw trwydded y Brifysgol ar gyfer Sophos bellach yn cynnwys cyfrifiaduron sy'n eiddo i staff a myfyrwyr. Dylai unrhyw un sydd wedi lawrlwytho a gosod Sophos o wefan Bangor ei ddileu a gosod un o'r rhai a awgrymir uchod yn ei le. Nid oes diweddariadau ar gyfer hyn.